Arestio dyn ar ôl i dacsi gael ei yrru ar ochr anghywir yr A55
Mae fideos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos tacsi wedi ei stopio gan yr heddlu ar yr A55
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i'r heddlu stopio tacsi a oedd yn teithio ar ochr anghywir yr A55 ar Ynys Môn.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cael eu galw wedi adroddiad bod tacsi wedi cael ei ddwyn yng Nghaergybi am 19:30 nos Lun.
Mae fideos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos tacsi yn cael ei stopio gan yr heddlu ar yr A55.
Cyn i'r car ymuno â'r ffordd ddeuol, cafodd beiciwr ei anafu mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Llundain yng Nghaergybi, lle'r oedd difrod i nifer o geir a oedd wedi'u parcio ar y ffordd.
Mae'r beiciwr yn parhau yn yr ysbyty, meddai'r llu.
Cafodd y tacsi ei stopio ar yr A55 tua'r gorllewin rhwng Rhosneigr a Rhostrehewfa am 19:55 ac fe gafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o ddwyn cerbyd modur, gyrru'n beryglus, a methu â darparu sampl i'r heddlu.
Mae'r dyn yn parhau yn y ddalfa.
Doedd dim gwrthdrawiad ar yr A55 o ganlyniad i'r digwyddiad, ac mae'r ffordd wedi ailagor.
'Amlwg pa mor ddifrifol y gallai fod'
Ychwanegodd y llu eu bod yn cydnabod y gall digwyddiad o'r fath godi pryder yn sgil y gwrthdrawiad ar yr A66 ger Middlesbrough - lle bu farw saith person, gan gynnwys dau heddwas, wedi i gar gael ei yrru ar ochr anghywir y ffordd.
Ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd perchennog y cwmni tacsi, Tacsi Zoe: "Hoffwn wneud yn hollol glir nad fi na'r un o fy ngyrwyr oedd hyn.
"Cefais fy nal fyny yn hyn yn bersonol ac, fel llawer o rai eraill, yn gweld y sefyllfa fel un hynod frawychus a thrawmatig.
"Hoffwn ddiolch i'r holl swyddogion heddlu fu'n rhan o'r digwyddiad am eu hymateb cyflym ac am ddod â'r sefyllfa i ben yn ddiogel."

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod eu hymchwiliad i'r digwyddiadau yng Nghaergybi ac ar yr A55 yn parhau.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro, Nick Evans: "Dwi'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rydym wedi'i derbyn gan y cyhoedd hyd yma, ac am y sylwadau cadarnhaol a wnaed ynghylch gweithredoedd ein swyddogion, a ddaeth â'r digwyddiad hwn i ben yn ddiogel.
"Mae'n amlwg i ni gyd, yn enwedig yn sgil y digwyddiadau trasig yn Cleveland, pa mor ddifrifol y gall y digwyddiad hwn wedi bod.
"Rwy'n hynod falch o'r dewrder a'r proffesiynoldeb a ddangoswyd gan ein swyddogion wrth ddatrys sefyllfa hynod heriol yn ddiogel.
"Byddwn yn annog pobl i beidio â dyfalu ynghylch amgylchiadau'r digwyddiad na'r rhesymau posibl drosto tra bod ein hymchwiliad yn parhau."
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.