'Hwb sylweddol i'r Bala' gyda £850,000 tuag at ymestyn rheilffordd Llyn Tegid

Tren
GanNia Tudur
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae grant o £850,000 gan Lywodraeth Cymru tuag at y cam cyntaf o ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid i ganol tre'r Bala wedi cael ei ddisgrifio gan Ymddiriedolaeth y Rheilffordd fel "hwb sylweddol i economi'r Bala".

Mae'r arian yn cael ei roi fel rhan o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, gyda chyllid wedi ei roi hefyd i gynlluniau yn Wrecsam, Castell-nedd, Blaenau Gwent, Trefynwy a Chasnewydd.

Bydd y prosiect yn ardal Y Bala yn ymestyn y rheilffordd o'i therfyn presennol ym Mhen-y bont, lle mae wedi bod ers 50 mlynedd, i safle gorsaf newydd yng nghanol y dref.

Y bwriad yn y pen draw ydi cryfhau'r cysylltiad rhwng yr atyniad i dwristiaid â'r stryd fawr a busnesau lleol, a chreu canol tref fywiog a deniadol i drigolion, busnesau ac ymwelwyr.

'Dechrau ar y gwaith ar unwaith'

Cafodd y cynllun i ymestyn y rheilffordd ganiatâd cynllunio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn 2024, a hynny ar ôl cael ei wrthod flwyddyn ynghynt.

Yn ôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid, Julian Birley, mae wedi cymryd "deuddeng mlynedd o waith caled a dyfalbarhad i gyrraedd y pwynt hwn".

Mae £1.8m wedi cael ei godi hyd yma, sydd wedi galluogi'r ymddiriedolaeth i brynu tir a chwblhau gwaith dylunio manwl.

Dywedodd Mr Birley fod y cyllid diweddaraf yn golygu y gall y gwaith ar ymestyn y rheilffordd "ddechrau ar unwaith".

Gorsaf Rheilffordd Llyn Tegid yn Llanuwchllyn
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae'r trên yn rhedeg o Lanuwchllyn ar hyd glan Llyn Tegid at gyrion Y Bala - taith o bedair milltir a hanner

Dywedodd y Cynghorydd R. Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd bod y buddsoddiad yn "newyddion cadarnhaol iawn i'r cynllun".

"Bydd ymestyn y rheilffordd yn nes i ganol y dref yn ychwanegu at gyfleusterau presennol y cwmni, gan gyfrannu at fywiogrwydd economaidd y dref," meddai.

Mae yna obeithion hefyd y bydd ymestyn y rheilffordd yn cynyddu'r amser y mae ymwelwyr yn ei dreulio yn y dref a'r ardal.

Wrth gyhoeddi'r arian drwy'r Rhaglen Trawsnewid Trefi, dywedodd Siân Gwenllian, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio y bydd y cynllun yn "creu cyswllt hanfodol rhwng yr atyniad treftadaeth poblogaidd a Stryd Fawr y Bala, gan ddenu mwy o ymwelwyr i ganol y dref a rhoi hwb gwerthfawr i fusnesau lleol".

"Rwy'n edrych ymlaen at weld y prosiect pwysig hwn yn symud yn ei flaen," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.