£10m i gefnogi 'ailddychmygu' canol rhai o drefi a dinasoedd Cymru

Bydd £5m yn mynd tuag at ailddatblygu safle segur yng nghanol dinas Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Bydd pecyn gwerth £10m i gefnogi cynlluniau adfywio mewn trefi a dinasoedd ar draws Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.
Gyda £5m o'r cyfanswm yn mynd at ailddatblygu safle amlwg yn ninas Wrecsam, bydd y gweddill yn cael ei rannu rhwng cynlluniau yng Nghastell-nedd, Blaenau Gwent, Trefynwy, Y Bala a Chasnewydd, yn ogystal â chynllun ehangach ar draws de-orllewin Cymru.
Yn Wrecsam bydd yn golygu ailddatblygu cyn-safle'r Hippodrome yn ofod cyhoeddus gyda'r bwriad o helpu economi'r ddinas ddydd a nos.
Dywedodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, bod cyfle i "ailddychmygu" canol ein trefi i greu "llefydd bywiog i bobl fynd i dreulio amser".
'Llwyddiant wedi llifo lawr i'r holl ddinas'
Yn Wrecsam mae Tŷ Pawb - sy'n cyfuno marchnad, stiwdios artistiaid ac oriel - wedi dod yn ganolbwynt i'r adfywiad diwylliannol ac economaidd dros y blynyddoedd diwethaf.
Ymhlith yr artistiaid sydd yno mae'r arlunydd murluniau Liam Stokes-Massey, sydd wedi bod yn gweithio o Dŷ Pawb ers saith mlynedd.
Dywedodd bod y ganolfan wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad ei yrfa drwy gynnig gofod rhent isel ar y stryd fawr, yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio a hyfforddi.
"Mae llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi gwneud gwahaniaeth anferth i'r ddinas," meddai.

Mae llawer o waith Liam Stokes-Massey wedi ei ysbrydoli gan lwyddiant CPD Wrecsam a'r tîm cenedlaethol
"Mae'n teimlo fel bod y llwyddiant ar y pitch wedi llifo lawr i'r holl ddinas. Ac o fy safbwynt i fel artist sy' 'di bod yn gwneud gwaith pêl-droed am flynyddoedd, mae 'di bod yn brilliant.
"Wrth gwrs, mae pawb yn falch i gael lluniau chwaraewyr ar eu waliau, gweld mash-ups o'r hen gitiau. Mae 'di bod yn wych!"
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid hefyd edrych ar y twristiaeth sydd wedi dod. Pob dydd 'da chi'n clywed acen o ryw le hollol hurt – mae o'n crazy!
"Dwi 'di cyfarfod pobl o Batagonia, Awstralia, Canada, yr Unol Daleithiau... so y ffaith bod Wrecsam ar y map i bobl yn fyd-eang, mae'n anhygoel ac mae hynny oherwydd y pêl-droed."

Mae clwb pêl-droed y ddinas yn ysbrydoliaeth amlwg i waith Liam
Ond serch hynny, mae'n derbyn nad ydy Wrecsam heb ei phroblemau.
"Dwi ddim yn meddwl fod Wrecsam yn wahanol i unrhyw ddinas bach neu dref fawr arall yng Nghymru.
"Dwi'n meddwl bod gan bob un arall yr un problemau.
"So i glywed bod y llywodraeth yn rhoi tipyn o arian i wella'r ddinas, mae hynny'n brilliant."

Mae cyn-safle'r Hippodrome yn segur ers bron i 30 mlynedd
Bydd y £5m sydd wedi ei glustnodi ar gyfer Wrecsam yn mynd at ddatblygu'r safle segur at Stryd Henblas, sy'n wag ers i'r cyn-theatr a sinema losgi i'r llawr yn 2008.
Bydd yr arian yn trawsnewid yr ardal gyfagos gyda phalmant newydd, dodrefn stryd, coed a mannau gwyrdd.
Golyga hefyd y bydd safle'r hen Hippodrome yn cynnwys seddi grisiog, gwaith tirlunio, sgrin awyr agored fawr a cherfluniau dŵr.
Yr ôl Cyngor Wrecsam bydd yn helpu i gefnogi economi'r yn ystod y dydd ond hefyd yn ystod y nos.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Mark Pritchard: "Rydym eisoes wedi cyflawni nifer o gynlluniau adfywio mawr gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y marchnadoedd dan do, y stryd fawr, canolfan greadigol yr Hen Lyfrgell a'r amgueddfa.
"Bydd y cynlluniau cyffrous sydd gennym ar gyfer Stryd Henblas yn ychwanegu darn arall i'r jig-sô, wrth i ni geisio helpu Wrecsam i wireddu ei gwir botensial fel dinas fodern a hyderus."

Bydd gwelliannau hefyd i rannau eraill o ganol y ddinas
Bydd gweddill yr arian yn cael ei rannu rhwng sawl cynllun, gan gynnwys:
£877,400 ym Mlaenau Gwent i wella cysylltiadau rhwng canol tref Brynmawr a'r parc manwerthu, diweddaru'r cynllun creu lleoedd a datblygu cynigion ar gyfer safle Ysgol Nantyglo.
£765,435 ar welliannau i ardaloedd cyhoeddus yn ardal gadwraeth canol tref Castell-nedd.
£357,814 i ailddatblygu gorsaf fysiau Trefynwy i'w gwneud yn fwy deniadol a hygyrch.
£850,000 tuag at gynllun i ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid o Benybont i ganol tref Y Bala.
£250,000 ar gamau cynllunio a datblygu cynllun adfywio chwaraeon a lles newydd ar safle Rodney Parade yng Nghasnewydd gan gynnwys maes 4G newydd a chwrt padel.
£2m i barhau â rhaglen creu lleoedd de-orllewin Cymru, sy'n cefnogi adfywio canol trefi a busnesau lleol yn y rhanbarth.
Wrth gyhoeddi'r buddsoddiad dywedodd Siân Gwenllian tra bod "pethau wedi newid", bod lle eto i "ailddychmygu" rôl y stryd fawr.
"Mae pobl yn gwneud llawer o'u siopa ar-lein, ma' 'na ganolfannau siopa ar gyrion rhai o'n trefi ni a'n dinasoedd ni hefyd sydd yn tynnu pobl i ffwrdd o'r canol," meddai.
"Ond mae'n bwysig ein bod ni'n adfywio canol ein trefi ni ac yn eu hailddychmygu nhw, yn meddwl amdanyn nhw fel llefydd bywiog i bobl fynd i dreulio amser.

Yn ôl Siân Gwenllian mae angen "ailddychmygu" rôl y stryd fawr oherwydd bod adferion siopa pobl wedi newid
"Mae pobl dal isio dod at ei gilydd ac ma' diwylliant a chelfyddydau er enghraifft yn gallu tynnu pobl i mewn – dyna 'da ni wedi'i weld yn Wrecsam, ac mae hynny wedyn yn gallu helpu'r busnesau lleol sydd yn gallu tyfu o gwmpas rhai o'r llefydd newydd 'ma fel Tŷ Pawb.
"Mae'r cynllun penodol yma yn mynd i greu man cyhoeddus, a dyna oedd y gymuned isio.
"Rŵan mae 'na gyfle i ail-greu y rhan yna o'r ddinas – tynnu pobl i fewn ac wedyn wrth gwrs gobeithio bod pobl yn gwario yn rhai o'r siopau sydd o gwmpas y rhan yna o'r ddinas.
"Mae Wrecsam ar i fyny, 'da ni gyd yn gw'bod hynny, ond mae 'na ddarnau ohono fo sydd angen adfywio a dyma y cyfraniad tuag at hynny 'da ni'n ei gyhoeddi heddiw."