Adolygiad Owain & Henry: 'Drama epig o safon uchel ond heb air o Gymraeg'

Owain a HenryFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan Photography
  • Cyhoeddwyd

Dros y bythefnos ddiwethaf mae pobl o bob cwr o'r wlad wedi heidio i Ganolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd er mwyn gwylio gwrthryfel Owain Glyndŵr ar lwyfan.

Yr actor o Bort Talbot, Michael Sheen, sy'n serennu fel Glyndŵr tra bod Nigel Barrett yn chwarae rhan Henry sef Harri'r IV, ar ôl i'r actor gwreiddiol, Linus Roache, gamu'n ôl o'r llwyfan oherwydd salwch.

Yr awdures Megan Angharad Hunter aeth i wylio'r cyd-gynhyrchiad gan Canolfan Mileniwm Cymru a Welsh National Theatre ar ran Cymru Fyw.

Yn ôl Megan, roedd "yn ddrama epig o safon uchel", a Michael Sheen "yn gwbl argyhoeddedig" fel Owain Glyndŵr, ond roedd hi'n "siomedig nad oedd yr un gair o Gymraeg", a bod y sgript gan Gary Owen "yn teimlo'n hir ar brydiau".

Darllenwch ei hadolygiad yn llawn:

Megan Angharad HunterFfynhonnell y llun, Megan Angharad Hunter
Disgrifiad o’r llun,

Megan Angharad Hunter

GanMegan Angharad Hunter
Adolygydd BBC Cymru Fyw

'Drama epig o safon uchel'

Mae 2026 wedi bod yn flwyddyn ddigyffelyb i hunaniaeth Gymreig: Plaid Cymru'n arwain y Senedd am y tro cyntaf, diddordeb mewn annibynniaeth ar gynnydd, Cymry'n llwyddo yn Hollywood ac ar y cae rygbi, a'r awch am ddramâu fel Owain & Henry yn fwy nag erioed.

Yn sicr, roedd gwylio drama epig, o safon uchel ym mhob cwr o'r cynhyrchiad - o'r cast i'r coreograffi, y goleuo i'r gwisgoedd - am hanes un o genedlaetholwyr pwysicaf hanes Cymru yn teimlo fel ochenaid fawr o ryddhad, a'r cyfan yn dod ynghyd yn ddeheuig iawn, diolch i gyd-gyfarwyddo Michael Sheen a Steffan Donnelly.

Owain a HenryFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan Photography

'Michael Sheen yn gwbl argyhoeddedig fel Owain Glyndŵr'

O'i fonolog agoriadol, roedd Sheen yn gwbl argyhoeddedig yn y brif ran, yn ein tywys ni'n hawdd ac yn hyderus trwy'r cynhyrchiad, ac roedd safon uchel gweddill y cast yn gyson trwyddi draw.

Camodd Nigel Barrett i mewn i 'sgidiau Linus Roache (sydd wedi gadael y cynhyrchiad yn sgil salwch) yn ddidrafferth, a pherfformiad Rakie Ayola fel Mared Ferch Dafydd, gwraig Glyndŵr, yn hen ddigon grymus i fynd benben â Sheen.

Owain a HenryFfynhonnell y llun, Marc Brenner

Yn serennu hefyd oedd Ned Costello fel y Tywysog Hal, neu Henry V, yn portreadu cymeriad seicopathaidd, barus a phathetig a oedd yn gwneud i Frenhiniaeth Loegr ymddangos fel rhywbeth cwbl ffarsaidd.

'Ail hanner yn llai llwyddiannus'

Mae'r ddrama'n agor yn 1400, gyda Chymry'n cael eu gorfodi o'u cartrefi, Owain yn cynnig noddfa i'r ffoaduriaid yn Sycharth ac yn ei gael ei hun ar yr ochr arall i gyfraith Henry IV.

Roedd yr hanner cyntaf yn rhuo tuag at ei anterth fel tân yn ymledu wrth i'r gwrthryfel boethi, a'r golygfeydd mwyaf grymus i mi oedd y rhai a oedd yn manteisio'n llwyr ar y llwyfannu trawiadol a'r gerddoriaeth iasol gan Dyfan Jones.

Owain a HenryFfynhonnell y llun, Marc Brenner

Yn wir, mae'n bosib ei bod wedi cyrraedd ei huchafbwynt yn rhy gynnar; teimlais nad oedd y ddrama mor llwyddiannus yn yr ail hanner.

Yn agos at y diwedd, mae golygfa ganu ddyrchafol, er arwynebol, efallai - awgrymir mai'r gân, nid y cleddyf, ydi arf gorau Cymru.

'Siomedig nad oedd bron yr un gair o Gymraeg'

Ond mae'r fonolog sy'n dilyn ychydig yn ddryslyd; ar ôl dros ddwy awr o wylio Glyndŵr a'i ddilynwyr yn brwydro'n daer dros eu tir, mae Owain yn penderfynu camu i ffwrdd o faes y gad, ac yn dweud wrthym mai olrhain brawdoliaeth y dylai'r Cymry ei wneud; neges unoliaethol, bron, sy'n gwrth-ddweud y neges genedlaetholgar sy'n hydreiddio'r rhan fwyaf o'r ddrama.

Collwyd cyfle hefyd i ddangos mawredd gweledigaeth Glyndŵr, gan gynnwys ei awydd i sefydlu prifysgolion yng Nghymru.

Owain a HenryFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan Photography

Roedd sgript Gary Owen yn teimlo'n rhy hir ar brydiau hefyd; roedd gormod o sgwrsio ysgafn a hiwmor, cymaint nes glastwreiddio rhai o'r golygfeydd mwyaf emosiynol.

Wedi dweud hynny, roeddwn i a nifer fawr o'r gynulleidfa'n chwerthin yn aml, a deallaf yr angen i apelio at ystod eang o bobl, yn enwedig y rheiny sydd efallai ddim mor gyfarwydd efo hanes Glyndŵr.

Owain & HenryFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan Photography

Dyma, efallai, pam benderfynwyd gadw'r sgript i gyd yn Saesneg, ac er fod Gary Owen yn pwysleisio sawl gwaith mai Cymraeg mae Owain a'r Cymry yn ei siarad, fel siaradwr Cymraeg, roeddwn yn teimlo'n chwithig ac ychydig yn siomedig nad oedd bron yr un gair o Gymraeg yma.

'Gobeithio mai dim ond man cychwyn ydi Owain & Henry'

Ond mae rhai o'r llinellau gorau wedi aros gyda mi. Wrth i'r ddrama nesáu at y diwedd, mae Mared yn ein sicrhau y gall Glyndŵr yn sgil ei ddiflaniad fod yn unrhyw le, a bod yn unrhyw un ohonom.

Meddai Owain nad ydi'r Cymry'n ymwybodol o farwolaeth eu cenedl gan ei fod yn "death stretched out so thin we cannot see it for what it is," ac mai "experiment" ydi Lloegr, "and it has failed".

Owain & HenryFfynhonnell y llun, Marc Brenner

Anodd yw peidio â chanmol drama sy'n honni'r pethau hyn efo balchder eofn.

Felly, er gwaethaf y toriadau brawychus yn y celfyddydau ar hyn o bryd, gobeithio mai dim ond man cychwyn ydi Owain & Henry.

Gobeithio mai tyfu a wna'r hyder a welir yma i anfarwoli'n hanes a'i defnyddio i'n grymuso.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig