Rhun ap Iorwerth eisiau 'cyfarfod brys' gyda Burnham ar ôl gwrthod datganoli

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod wedi'i "siomi'n fawr", ac nad ydy Mr Burnham yn "gweld Cymru fel gwlad gydradd"
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud ei fod eisiau "cyfarfod brys" gyda Phrif Weinidog y DU, ar ôl i Andy Burnham wrthod galwadau i roi mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod wedi'i "siomi'n fawr", ac nad ydy Mr Burnham yn "gweld Cymru fel gwlad gydradd".
Mewn llythyr at Rhun ap Iorwerth wythnos diwethaf, dywedodd Mr Burnham nad oedd wedi'i "berswadio" gan yr achos i ddatganoli cyfrifoldebau dros blismona a chyfiawnder, Ystad y Goron, a seilwaith rheilffyrdd i Gymru.
Yn y cyfamser mae arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates, wedi ei annog i "eistedd wrth y bwrdd a thrafod" gyda Phrif Weinidog Cymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais i ymateb.
'Achos cryf o blaid'
Dywedodd TUC Cymru eu bod wedi'u siomi bod galwadau am ddatganoli pellach wedi cael eu diystyru "heb unrhyw drafodaeth".
Mewn datganiad ysgrifenedig at Aelodau'r Senedd, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod "gwrthod hyd yn oed edrych" ar ddatganoli'r pwerau, "yn brawf nad ydy'r prif weinidog yn "gweld Cymru fel gwlad gydradd".
"Mae'r achos o blaid Cymru'n cael rheolaeth dros y meysydd cyfrifoldeb yma - fel ag sydd yn yr Alban - yn un cryf.
"Mae sawl comisiwn wedi dadlau dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, ac eto mae'n ymddangos ei bod hi'n well gan Lywodraeth y DU roi ideoleg unoliaethol o flaen tystiolaeth gadarn.
"Mae'r setliad presennol yn annheg, yn anghyfiawn ac yn anghynaladwy."
Prif Weinidog Cymru wedi'i 'synnu' gan Burnham yn gwrthod galwadau datganoli
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Dau gyn-brif weinidog yn 'siomedig' gyda Burnham am wrthod galwadau datganoli
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Mewn llythyr at Brif Weinidog y DU, gofynnodd Rhun ap Iorwerth iddo ailystyried adroddiadau blaenorol ar y mater.
Dywedodd y byddai'n "croesawu cyfarfod brys i drafod y dystiolaeth a chytuno ar ffordd gynhyrchiol ymlaen".
Galwodd Ken Skates ar y ddwy lywodraeth i barhau gyda thrafodaethau ar ddatganoli pwerau.
Mae Mr Skates eisiau "mwy o fanylder" o ran pam nad yw datganoli plismona pellach yn digwydd, gan ddweud y bydd yn cyfarfod gyda Mr Burnham ei hun.
Nid ydy Llafur Cymru wedi troi eu cefnau ar alwadau i ddatganoli cyfiawnder, Ystad y Goron a buddsoddiad mewn rheilffyrdd.
'Gwrando ar lais gweithwyr Cymru'
Mae ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, Laura Doel, yn dweud eu bod yn "canolbwyntio ar sicrhau'r pwerau a'r adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer gwella canlyniadau i bobl sy'n gweithio".
"Rhaid i hynny gynnwys cyllid teg i Gymru," meddai.
"Mae'r rhain yn safbwyntiau gan TUC Cymru ers amser maith, ac mae'n siomedig bod ein galwadau wedi cael eu diystyru heb unrhyw drafodaeth.
"Gofynnwn i Lywodraeth y DU wneud mwy i barchu ac ymgysylltu â'r sefydliadau democrataidd yng Nghymru a gwrando ar lais gweithwyr Cymru, yn hytrach na gwrthod cynigion ar gyfer datganoli pellach cyn iddyn nhw gael eu hystyried yn iawn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.