Rhagor o oedi i waith cynnal a chadw ar Bont y Borth dros y Fenai

Mae'r gwaith diweddaraf wedi'i ohirio tan hydref 2027, gyda chyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell yn parhau ar y bontFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith diweddaraf wedi'i ohirio tan hydref 2027, gyda chyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell yn parhau ar y bont

GanChris DeardenGohebydd BBC CymruaManon WiliamBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae gwaith atgyweirio ar Bont y Borth dros y Fenai wedi'i ohirio eto, gan olygu chwe mis arall o oedi cyn cwblhau'r gwaith.

Mae gyrwyr sy'n defnyddio'r bont - un o'r ddau gysylltiad rhwng Ynys Môn a gweddill Cymru - wedi gorfod ymdopi ag oedi, cyfyngiadau pwysau a chau ers dros bedair blynedd.

Mae'r oedi diweddaraf wedi'i achosi gan ddŵr yn treiddio i'r gwaith dur o dan wyneb y bont, gan atal y gwaith peintio.

Mae UK Highways A55 Ltd, sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r bont, yn dweud ei fod wedi dod o hyd i ateb i'r broblem ac y bydd yn ceisio lleihau'r tarfu ar yrwyr.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, ei fod yn "hynod siomedig ac yn rhwystredig" am yr oedi, gan ddisgrifio'r sefyllfa ddiweddaraf fel un "annerbyniol".

'Oedi ac anghyfleustra am ormod o amser'

Cafodd y bont ei chau am y tro cyntaf ym mis Hydref 2022 ar ôl i broblemau diogelwch difrifol gael eu canfod, cyn iddi ailagor ar ôl gwneud gwaith atgyweirio.

Mae ail gam y gwaith, sy'n cynnwys ailbeintio'r bont a gwneud gwaith atgyweirio arall i'r gwaith maen, wedi bod yn parhau ers mis Chwefror 2025.

Yn wreiddiol roedd disgwyl cwblhau'r gwaith erbyn Awst 2025, ond cafodd y dyddiad hwnnw ei symud yn gyntaf i Ragfyr 2025, yna i Ebrill 2026, ac wedyn i "wanwyn 2027".

Mae'r dyddiad cwblhau disgwyliedig bellach wedi'i symud eto i "hydref 2027".

Dywedodd Mr Hooper yn flaenorol ei fod yn hyderus y byddai'r gwaith wedi'i gwblhau erbyn gwanwyn 2027.

"Mae pobl wedi goddef oedi ac anghyfleustra ar y bont hon am ormod o amser, a dyna pam mae'r llywodraeth hon wedi gweithredu'n gyflym i gychwyn ar drydedd bont dros y Fenai," meddai.

"Roeddwn i'n hynod siomedig ac yn rhwystredig clywed gan y contractwyr y bydd eu rhaglen atgyweirio, sydd wedi gweld nifer o oediadau, yn cael ei gohirio unwaith eto.

"Rwyf wedi ei gwneud yn glir i UK Highways A55 Ltd ers ymgymryd â'r rôl hon pa mor bwysig yw cynnal momentwm a meithrin hyder yn y rhaglen waith, felly mae'r oedi diweddaraf hwn yn annerbyniol."

Robin Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyhoeddiad ddydd Llun wedi "gwylltio" y cynghorydd lleol, Robin Williams

Yn ôl dirprwy arweinydd Cyngor Môn, Robin Williams - sydd hefyd yn cynrychioli ardal Porthaethwy - mae'r cyhoeddiad yn "siom ofnadwy".

"Gathon ni sicrwydd yn y ddau gyfarfod diwethaf efo'r contractwyr bod y gwaith ar amser a bod o'n mynd i fod yn darfod erbyn diwedd mis Mawrth," meddai.

"Felly, mae darganfod bod yna chwe mis ychwanegol o waith ar y bont ar yr un llaw, yn siom i fi, ond hefyd yn gwylltio rhywun, achos mae rhywun yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu camarwain, ac efallai nad oes unrhyw un wedi eu camarwain mewn gwirionedd.

"Mae'n rhaid i ddiogelwch ddod gyntaf. Mae'n rhaid gwneud siŵr bod y gweithwyr sy'n gweithio ar y bont yna yn saff, ac mae'n rhaid gwneud siŵr hefyd, wrth gwrs, fod y bont yn saff i ni ddefnyddio hi.

"Mae rhywun yn derbyn bod yna broblemau'n mynd i godi, ond dwi ddim yn deall sut, ar ôl pedair blynedd o weithio ar y bont, sut maen nhw dal yn dod i fyny a ffeindio problemau gyda hi rŵan."

'Esgeuluso cyfrifoldebau dros flynyddoedd lawer'

Fe wnaeth Mr Williams gyhuddo UK Highways o "esgeuluso eu cyfrifoldebau dros flynyddoedd lawer".

"Ar ddiwedd y dydd, allwch chi ddim bod angen pedair neu bum mlynedd o waith ar bont, oni bai eich bod chi efallai ddim wedi gwneud y gwaith cynnal a chadw ddyla fod wedi cael ei wneud ar hyd y blynyddoedd.

"Does 'na ddim byd fedra' ni neud, 'dan ni yn eu dwylo nhw. Ar ddiwedd y dydd, nhw ydy'r arbenigwyr, a dim ein lle ni ydy i drio dweud wrthyn nhw sut i wneud eu gwaith."

Ychwanegodd ei fod yn cydnabod y gall prosiect o'r fath wynebu heriau annisgwyl a bod rhaid i ddiogelwch barhau'n flaenoriaeth, ond ei fod am ddeall pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau.

Dywedodd ei fod wedi ysgrifennu at brif weithredwr Equitix, y corff sy'n llywodraethu UK Highways A55 Ltd, i godi ei bryderon a galw am gyfarfod brys er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn y dyddiad newydd.

Mae goleuadau traffig dros dro wedi bod yn nodwedd gyson ar y bont yn ystod y gwaith, er nad ydynt yn cael eu defnyddio drwy'r amser ar hyn o bryd.

Mae twmpathau cyflymder dros dro a chyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell hefyd ar y bont, sy'n gorfod cau ar gyfer gwiriadau diogelwch os bydd cerbyd trwm yn croesi.

Pont Menai
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pont y Borth yn un o ddau gyswllt ffordd rhwng Ynys Môn a gweddill Cymru

Dywedodd UK Highways A55 Ltd fod y broblem ddiweddaraf wedi'i hachosi gan ddŵr yn treiddio o dan wyneb y ffordd i'r gwaith dur oddi tano, gan ei gwneud yn anodd gosod y paent.

Dywedodd y cwmni fod ateb addas bellach wedi'i ganfod, a'u bod yn bwriadu "lleihau'r tarfu drwy osgoi defnyddio goleuadau traffig ar adegau prysur".

Collwyd tua 30 diwrnod gwaith yn ystod haf 2026 hefyd oherwydd y tywydd poeth, a oedd yn golygu ei bod yn rhy boeth i weithio o dan y bont.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod y bont yn strwythur rhestredig Gradd I sy'n 200 mlwydd oed, ac felly bod "heriau technegol a dylunio ychwanegol yn gysylltiedig â'r gwaith".

Ychwanegodd fod y "prif broblem dechnegol bellach yn cael ei deall, bod ateb addas wedi'i ganfod, bod gwaith cynhyrchiol wedi parhau a bod llai o ansicrwydd ynghylch y gwaith atgyweirio sydd ar ôl".

Bydd y gwaith yn parhau ochr yn ochr â mesurau i leihau'r tarfu ar gymunedau lleol, gan gynnwys tynnu'r rheolaethau traffig o'r bont am weddill 2026.

Fodd bynnag, bydd y cyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell yn parhau drwy gydol ail gam y gwaith.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig