Traffig trwm ar ddwy ochr y Fenai wedi i Bont y Borth gau eto

Yr olygfa ger cylchfan Parc Menai fore Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae traffig trwm ar ddwy ochr y Fenai wedi i gerbyd dros bwysau orfodi Pont y Borth i gau er mwyn cynnal archwiliad.
Dyma'r eildro o fewn wythnos i'r bont orfod cau am wiriadau diogelwch ar ôl i gerbyd oedd yn pwyso dros 7.5 tunnell ei chroesi.
Mae traffig trwm wedi datblygu felly ar ddwy ochr Pont Britannia, ond fe wnaeth Pont y Borth ailagor tua 13:00.
I ychwanegu at y trafferthion, roedd damwain ar allt y Faenol hefyd yn ystod y bore.
Daw wrth i filoedd o bobl heidio i faes Sioe Môn ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.

Dyma'r eildro o fewn wythnos i'r bont orfod cau am wiriadau diogelwch
Dywedodd Traffig Cymru fod "cerbyd dros bwysau wedi croesi'r bont felly mae'n rhaid cau'r ffordd er mwyn gwneud archwiliad.
"Byddwn yn ail agor y bont cyn gynted ag sy'n saff i wneud hynny.
"Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra, mae eich diogelwch yn holl bwysig.
"Hoffwn eich hatgoffa mai cerbydau o dan 7.5t yn unig sy'n cael croesi Bont y Borth."

Dywedodd Ffion Hughes eu bod yn hwyrach nag oedden nhw wedi gobeithio, ond na gafodd y traffig effaith ar y cystadlu
Roedd Ffion Hughes o Dregaron yn un o'r rheiny a gafodd eu dal yn y traffig ar y ffordd i'r Eisteddfod y bore 'ma.
"Gafon ni'n dal y tro cyntaf ger y Faenol achos o'dd damwain fan'na, a wedyn ein dal yn y traffig i fynd dros Bont y Borth hefyd," meddai.
"Oedden ni bron rhyw awr rhwng y Faenol a chroesi'r bont."
Gyda'i mab yn cystadlu ddydd Mawrth, dywedodd eu bod "bach yn hwyr" ar gyfer cwrdd gyda gweddill y disgyblion, ond eu bod wedi cyrraedd mewn pryd ar gyfer cystadlu.

Dywedodd Sioned Fidler ei bod hi'n "teimlo fel bod wastad rhyw broblem efo'r bont"
Roedd Sioned Fidler o Gaerdydd hefyd "wedi treulio lot o amser bore 'ma yn y car yn y tywydd poeth 'ma".
"Gafon ni'n dal tua awr yn y traffic 'swn i'n dweud.
"Dwi'n byw yng Nghaerdydd ond dwi'n dod o'r ochrau yma, a mae hi teimlo fel bod wastad rhyw broblem efo'r bont sy'n achosi traffig a phroblemau."

Dywedodd Geth Tomos ei fod wedi "hen arfer" gyda thraffig rhwng Gwynedd a Môn
Dywedodd Geth Tomos, o ardal Dinas Dinlle ger Caernarfon, fod y traffig wedi ymestyn yn ôl ar hyd ffordd osgoi'r Felinheli, a'i fod wedi bod yn ciwio am "rhyw ddwy awr".
"Fel rhywun sydd o Fôn ac yn byw yng Ngwynedd, dwi 'di hen arfer," meddai.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Dylan J. Williams, ei bod yn "hynod siomedig" gweld Pont y Borth yn gorfod cau eto yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd oherwydd "diffyg cydymffurfio â'r cyfyngiad pwysau presennol."
"Yn anffodus, mae hyn bellach yn digwydd yn llawer rhy aml, gan effeithio ar drigolion yr ynys a busnesau Porthaethwy - mae'r diffyg gwytnwch dros Y Fenai yn achosi tagfeydd traffig sylweddol ar y ddwy ochr," meddai.
"Rydym yn parhau i gredu'n gryf bod angen trydedd groesfan newydd nawr, ac yn annog Llywodraeth Cymru i wella eu trefniadau rheoli traffig a gorfodaeth."
Anogodd hefyd yrwyr i gadw at y cyfyngiad pwysau ar Bont y Borth "er mwyn lleihau'r aflonyddwch diangen yma i bawb".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.