Galw am symud ymlaen â chynlluniau ar gyfer trydedd groesfan i'r Fenai

Pont y Borth ar gau
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pont y Borth wedi gorfod cau sawl gwaith yn ddiweddar er mwyn cynnal archwiliadau

GanCarwyn Jones
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae galwadau wedi'u gwneud am symud ymlaen â chynlluniau ar gyfer trydedd groesfan dros y Fenai yn ystod cyfarfod cyhoeddus yn Llangefni nos Wener.

Dywedodd trefnydd y cyfarfod, Janet Finch-Saunders AS dros Bangor Conwy Môn, mai'r nod oedd dechrau trafodaeth drawsbleidiol i sicrhau datrysiad hirdymor i'r problemau sy'n wynebu'r ddwy bont bresennol.

Daw'r cyfarfod ychydig ddyddiau ar ôl i lywodraeth newydd Plaid Cymru gyhoeddi eu bod yn "dechrau edrych ar opsiynau manwl ar gyfer trydydd croesfan i'r Fenai".

Roedd aelodau etholedig o sawl plaid ynghyd ag aelodau o'r cyhoedd yn trafod effaith y tagfeydd a'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â chroesi'r Fenai.

Pont y Borth wedi ei dynnu o ochr Ynys MonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Pont y Borth ddathlu 200 mlwyddiant yn 2026

Daeth dros 40 o bobl ynghyd yn Llangefni ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus, a gafodd ei drefnu i rannu syniadau a phryderon ynghylch dyfodol y croesiadau.

Mae Pont y Borth wedi gorfod cael ei chau nifer o weithiau yn ddiweddar er mwyn cynnal archwiliadau yn sgil amheuaeth bod cerbydau dros bwysau wedi ei chroesi.

Cafodd mesurau ychwanegol eu rhoi ar waith ar y bont yn ystod deuddydd olaf Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn ar ôl iddi orfod cau sawl gwaith.

Roedd y cyfarfod yn rhoi cyfle i aelodau o'r cyhoedd glywed barn gwleidyddion ac i rannu eu profiadau a'u syniadau eu hunain.

Janet Finch-Saunders
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Janet Finch-Saunders mai nod y cyfarfod oedd dechrau trafodaeth drawsbleidiol am ddyfodol croesiadau'r Fenai

Dywedodd Janet Finch-Saunders ei bod wedi penderfynu trefnu'r cyfarfod ar ôl derbyn nifer fawr o negeseuon gan etholwyr.

"Roeddwn i'n derbyn cymaint o e-byst, felly meddyliais y byddwn i'n cynnal cyfarfod cyhoeddus," meddai.

"Roeddwn yn awyddus gyda'r un yma i'w gwneud hi'n gyfarfod trawsbleidiol."

Ychwanegodd fod cynlluniau ar gyfer trydedd groesfan eisoes yn bodoli ac mai dyna'r "ateb naturiol" yn ei barn hi.

"Rydyn ni'n mynd i gael mwy o draffig gyda Wylfa, mae gennym ni borthladd Stena a'r fferïau.

"Mae'n bwysig bod gennym ni'r seilwaith hwnnw ar waith i'w gefnogi - mae'r economi ei angen.

"Rwyf am i ni fod yn symud i gyfeiriad gyda'n gilydd fel bod y nod yn y pen draw i gael trydydd croesfan yma."

Richard Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Jones nad oedd yn siŵr a oedd angen trydydd croesiad ai peidio

Ymhlith y rhai oedd yn bresennol roedd Richard Jones o Gaerwen, sy'n croesi'r Fenai'n rheolaidd.

"Mae gen i ddiddordeb - dwi'n ei chroesi yn aml iawn, trafferthion weithiau, ond ddim yn aml iawn," meddai.

Dywedodd nad oedd yn siŵr a oedd angen trydydd croesiad ai peidio.

"Fydda i'n gweld ceir o fy mlaen i ar y bont ac yn gwneud 20mya, 'da chi fod i fynd hanner cant, dyna sut mae pobl yn cael eu dal yn ôl."

Llinos Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Jones yn dweud ei bod wedi ceisio osgoi croesi'r Fenai oherwydd yr ansicrwydd

Dywedodd Llinos Jones o Langefni ei bod hi bron wedi rhoi'r gorau i groesi'r bont yn ddiweddar.

"Dw i wedi rhoi'r gorau i fynd dros y bont yn ddiweddar ac yn trio neud bob dim ar yr ynys neu ar-lein.

"Mae mynd dros y bont yn hunllef mewn ffordd.

"Pan 'dw i isio mynd i'r ysbyty, 'dw i'n defnyddio'r bws, sydd ddim yn ddrwg o beth pan mae rhywun yn gallu.

"Os oes gen i apwyntiad, pa ffordd 'dw i'n mynd am y gorau?"

Ychwanegodd ei bod yn awyddus i glywed syniadau gwahanol yn y cyfarfod ac yn agored i sawl opsiwn.

"Mae cost o roi pont [newydd] yno yn rhywbeth arall, yn enwedig pan mae isio pres i gymaint o bethau eraill mewn ffordd."

Y blynyddoedd diwethaf

Yn 2022, yn dilyn archwiliadau ar y bont, fe gaeodd hi yn ddisymwth, gan achosi mwy o dagfeydd dros bont Britannia.

Mae'r drafodaeth ynglŷn â chael trydydd croesiad dros y Fenai wedi bod yn bwnc llosg ers sawl blwyddyn.

  • Yn 2018, roedd Llywodraeth Cymru ar y pryd yn gefnogol o gael trydydd croesiad dros y Fenai.

  • Erbyn 2022, dywedodd y Llywodraeth eu bod yn bwriadu cwblhau trydedd bont erbyn 2030, ac y byddai'n costio tua £400m.

  • Ond yn 2023, cafodd pob prosiect mawr i adeiladu ffyrdd yng Nghymru eu canslo gan y Llywodraeth.

Er bod rhai ymgyrchwyr amgylcheddol wedi canmol y penderfyniad ar y pryd i ganslo bob prosiect mawr i adeiladu ffyrdd yng Nghymru, mae eraill am weld datrysiad i broblemau wrth groesi'r Fenai.

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, mewn datganiad yn y Senedd fod y llywodraeth yn "bwrw ymlaen â mesurau uniongyrchol ac opsiynau tymor hwy i gryfhau cydnerthedd ar draws Afon Menai, gan gynnwys ystyried opsiynau manwl ar gyfer trydydd croesfan".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.