Beiciwr modur wedi marw ar ôl disgyn i'r môr ger Pen y Gogarth

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Pen y Gogarth yn hwyr nos Iau
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio ar ôl i feiciwr modur farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Llandudno nos Iau.
Cafodd yr heddlu eu galw am 22:31 i adroddiadau o wrthdrawiad yn ymwneud â beic modur du ar Marine Drive - tua milltir o'r Tolldy tuag at gyfeiriad copa Pen y Gogarth.
O ganlyniad i'r gwrthdrawiad, fe ddisgynnodd y gyrrwr i'r môr oddi tano.
Cafodd Gwylwyr y Glannau a'r RNLI eu galw a chafodd y dyn ei dynnu o'r dŵr a'i gludo gan hofrennydd Gwylwyr y Glannau i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r gyrrwr yn yr ysbyty.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod, yn ogystal â'r crwner.

Yr olygfa o leoliad y gwrthdrawiad ar y Gogarth
Wrth apelio am dystion dywedodd y Sarjant Alun Jones: "Yn drist iawn, mae hwn bellach yn cael ei drin fel gwrthdrawiad ffordd angheuol, ac mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dyn ar yr adeg anodd hwn.
"Rydym yn annog unrhyw un allai fod yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un oedd yn teithio neu'n cerdded ar hyd Marine Drive nos Iau i gysylltu â ni.
"Rydym yn benodol yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn teithio o gyfeiriad y Tolldy tuag at gopa Pen y Gogarth rhwng 22:00 a 22:30 ac a allai fod â lluniau dashcam."
Ychwanegodd y llu brynhawn Gwener eu bod yn chwilio am yrrwr Ford Fiesta du a oedd yn yr ardal ar y pryd.
Dywedon nhw bod y car wedi teithio o Ffordd Mostyn tuag at ardal Pen y Gogarth am 22:26 a'u bod yn annog y gyrrwr i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.