'Cynyddu presenoldeb' ar Bont y Borth wedi iddi orfod cau eto

Mae'r bont wedi cau yn sgil amheuaeth bod cerbyd dros bwysau wedi ei chroesi fore Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae Pont y Borth wedi gorfod cau am yr ail ddiwrnod yn olynol er mwyn cynnal archwiliad yn sgil amheuaeth bod cerbyd dros bwysau wedi ei chroesi.
Roedd yna draffig trwm ar ddwy ochr y Fenai ddydd Mawrth yn dilyn achos tebyg.
Dyma'r trydydd tro mewn oddeutu wythnos i'r bont orfod cau am wiriadau diogelwch.
Cyhoeddodd Traffig Cymru am 12:00 ddydd Mercher fod y bont ar gau, ond roedd ynghau am lai nag awr y tro hwn, gan ailagor am 12:50.
Ond erbyn 13:30 roedd y bont ar gau eto, "oherwydd cerbyd trwm ychwanegol yn croesi'r bont".
Mae cynghorau Ynys Môn a Gwynedd wedi ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Maen nhw hefyd yn atgoffa gyrwyr o'r cyfyngiadau ar y bont yn ystod atgyweiriadau.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud y byddan nhw'n "cynyddu presenoldeb yr heddlu a swyddogion traffig Llywodraeth Cymru i gefnogi cydymffurfiaeth".
'Cynyddu presenoldeb'
Dywed y cynghorau ddydd Mercher: "Yn dilyn amheuaeth bod cerbyd dros bwysau wedi croesi'r bont y bore yma, mae'r ffordd wedi'i chau er mwyn cynnal archwiliad rhagofalus.
"Byddwn yn ailagor y bont cyn gynted ag y caiff ei chadarnhau ei bod yn ddiogel i wneud hynny.
"Ymddiheurwn am yr anghyfleustra ac atgoffwn bob defnyddiwr mai dim ond cerbydau o dan 7.5 tunnell sy'n cael defnyddio Pont y Borth."
Mae Eisteddfod yr Urdd yn annog unhryw un sy'n sownd mewn traffig ac yn poeni am gyrraedd mewn pryd i gysylltu gyda nhw ar 0345 257 1613 neu eisteddfod@urdd.org.

Roedd cerbydau'n gorfod troi am yn ôl amser cinio wedi i'r bont gau ar fyr rybudd
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd cael cysylltiadau dibynadwy rhwng Ynys Môn a'r tir mawr a'u bod yn "gweithio gyda phartneriaid i gadw llwybrau ar agor a lleihau lefel yr amharu".
"Dim ond cerbydau o dan 7.5 tunnell all ddefnyddio Pont Menai, a bydd unrhyw achosion o dorri'r rheolau yn cael eu cyfeirio at yr heddlu.
"Byddwn hefyd yn cynyddu presenoldeb yr heddlu a swyddogion traffig Llywodraeth Cymru i gefnogi cydymffurfiaeth.
"Mae gwella cydnerthedd ar draws Afon Menai yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru fel rhan o'n huchelgeisiau trafnidiaeth ac economaidd ehangach."
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi "cynnal patrolau gwelededd arferol yn yr ardal yn ystod cyfnodau traffig brig".
'Effaith andwyol'
Yn y cyfamser, mae dau o ASau Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Bangor Conwy Môn wedi ysgrifennu at y Gweinidog Trafnidiaeth Mark Hooper yn galw am fwy o wybodaeth am y sgyrsiau sydd wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni UK Highways A55 - sy'n gyfrifol am y bont - "i orfodi'n well y terfyn pwysau... ac i atal gyrwyr rhag ei anwybyddu".
Dywedodd Mair Rowlands ac Elfed Williams fod "effaith andwyol cau'r bont ar fyr rybudd wedi bod hyd yn oed yn fwy amlwg yn ystod y dyddiau diwethaf o ystyried y cynnydd mewn traffig yn teithio i ac o Ynys Môn ar gyfer Eisteddfod yr Urdd".
"Hoffem ofyn am gyfarfod gyda chi i drafod cynlluniau'r llywodraeth hon i ddarparu'r ateb hirdymor cynaliadwy angenrheidiol i fynd i'r afael â'r problemau wrth groesi'r Fenai.
"Ar ôl blynyddoedd o ddiffyg gweithredu gan lywodraethau blaenorol ar y mater hwn, rydym yn awyddus i sicrhau bod hyn yn flaenoriaeth ar agenda'r llywodraeth hon."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd15 Mai

- Cyhoeddwyd21 Ionawr
