Cynnig Reform i ddiswyddo Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies yn methu

Daeth Huw Irranca-Davies yn Llywydd y Senedd yn dilyn etholiad mis MaiFfynhonnell y llun, Senedd Cymru/Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Huw Irranca-Davies yn Llywydd y Senedd yn dilyn etholiad mis Mai

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae plaid Reform wedi methu yn eu hymgais i ddiswyddo Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies, nos Fawrth.

Roedd 29 o blaid y cynnig a gyflwynwyd gan Reform a 55 yn erbyn.

Mae boicot y blaid o drafodion siambr y Senedd wedi dod i ben, gydag Aelodau o'r Senedd y blaid wedi cymryd eu seddi yn y siambr unwaith eto cyn y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

Ond mae'r gwaharddiad sy'n atal Joe Martin AS rhag cyfrannu'n llawn yn y siambr yn parhau.

Cyn y bleidlais, dywedodd llefarydd ar ran y Llywydd ei fod yn "siomedig" bod y cynnig i'w ddiswyddo wedi ei gyflwyno ond yn "parchu'r broses ddemocrataidd".

'Dwysáu'r sefyllfa'

Esboniodd Helen Jenner, arweinydd Reform yng Nghymru, pam y cyflwynwyd y cynnig bod y Senedd "yn penderfynu diswyddo'r Llywydd".

"Doedden ni erioed eisiau gorfod boicotio trafodion y Senedd, ond mae rhyddid llefaru yn fater rhy bwysig i ni ildio arno.

"Yn dilyn trafodaethau gyda'r Llywydd, roeddem yn credu ein bod yn agosáu at ddatrysiad synhwyrol, a fyddai'n galluogi ein cydweithiwr, Joe Martin, i ddychwelyd i'r Siambr heb orfod ymddiheuro am yr araith a draddododd yn y Senedd.

"Mae wedi dod yn amlwg y bore yma nad yw'r Llywydd wedi bod yn negodi yn ddidwyll, ac ei fod wedi newid ei feddwl ar yr eiliad olaf.

"Mae wedi cyfaddef wrthym fod ei benderfyniadau ar y mater hwn wedi cael eu dylanwadu gan deimladau sefydliadau allanol.

"Bellach, mae'n rhaid iddo egluro i bobl Cymru pa sefydliadau ydynt, a beth mae hynny'n ei olygu i ddemocratiaeth Cymru."

"Nid oes gennym ddewis bellach ond dwysáu'r sefyllfa hon" trwy gyflwyno'r cynnig.

'Parchu'r broses ddemocrataidd'

Gan wneud sylw ar y cynnig o ddiffyg hyder, dywedodd llefarydd ar ran y Llywydd ei fod "wedi cyfarfod ag arweinydd grŵp Reform ar sawl achlysur yn ystod yr wythnos a aeth heibio gyda phob ewyllys da ac roedd yn gobeithio parhau â'r trafodaethau cyfrinachol hyn mewn modd adeiladol".

"Mae'n anffodus iddynt ddewis y dull gweithredu hwn.

"Er bod y Llywydd yn siomedig, mae'n parchu'r broses ddemocrataidd.

"Gan mai'r aelodau sydd wedi ei ethol i'r rôl hon, mae'n iawn eu bod yn cael y cyfle i benderfynu a yw'n parhau i ennyn eu hyder."

Yn gynharach, roedd ffynhonnell sy'n agos at Huw Irranca-Davies wedi dweud wrth y BBC eu bod yn "gwadu'n llwyr" yr honiad nad yw wedi negodi yn ddidwyll.

Ychwanegodd nad yw ei safbwynt wedi newid drwy gydol y broses hon, a'i fod wedi nodi'n glir y byddai angen i Joe Martin ymddiheuro cyn y gallai gael ei alw i siarad yn siambr y Senedd.

Mae Huw Irranca-Davies yn AS Llafur, yn cynrychioli Afan Ogwr Rhondda.

Dywedodd Ken Skates, arweinydd Llafur Cymru, eu bod "bob amser yn sefyll dros ryddid i lefaru ac egwyddorion democratiaeth gref ac iach.

"Mae dyfarniad y Llywydd yn cynnal yr egwyddorion hyn: mae'n gyson â nhw, ac nid yn gwrthdaro â nhw.

"Mae hawl i ryddid llefaru yn dod â chyfrifoldeb mawr, ac fel aelodau etholedig, dylem ddal ein hunain at safon uwch.

"Mae gan grŵp Llafur Cymru hyder llawn yn y Llywydd."

Cyhoeddodd Joe Martin, arweinydd Reform yng Nghymru Helen Jenner a phrif chwip y blaid, Llŷr Powell, y boicot ar risiau'r Senedd ddydd Mercher.
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Joe Martin, arweinydd Reform yng Nghymru Helen Jenner a phrif chwip y blaid, Llŷr Powell, y boicot yn wreiddiol ar risiau'r Senedd - mae'r boicot nawr ar ben

Roedd y Llywydd wedi dweud wrth Martin na fyddai'n cael ei alw i siarad yn y Senedd nes iddo ymddiheuro am sylwadau a wnaeth ynghylch honiadau bod pobl wyn yn cael eu "disodli" yn y DU.

Roedd Irranca-Davies o'r farn fod y sylwadau a wnaed gan Joe Martin, aelod dros Gaerdydd Penarth, yn amlwg yn "wahaniaethol" ac yn "sarhaus".

Penderfynodd Reform beidio cyfrannu i ran fwyaf o drafodaethau y Senedd gan gynnal boicot o'r cyfarfod llawn.

Daeth y boicot i ben ddydd Mawrth.

Nid dyma'r tro cyntaf i Joe Martin wynebu beirniadaeth am ei sylwadau yn y Senedd.

Ym mis Mehefin, cafodd ei gyhuddo gan Blaid Cymru o ddefnyddio rhethreg beryglus ar ôl honni bod ymosodiadau gan geiswyr lloches o Swdan yn anochel.

Y diwrnod canlynol, gadawodd Aelodau'r Senedd y Siambr yn ystod araith ganddo ar ôl iddo wneud sylwadau cellweirus fod myfyrwyr o Gymru yn methu darllen a bod nyrsys o India yn cymryd swyddi pobl Cymru.

Yn ddiweddarach, cafodd ei feirniadu eto gan y Llywydd am sylwadau sarhaus yn ystod dadl am Wasanaeth Rhywedd Cymru, sydd wedi bod yn wynebu argyfwng.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.