Carcharu dyn o Gaerfyrddin am geisio llofruddio cyn-bartner mewn parc

Roedd James McKenna ar ffo rhag yr heddlu am bedwar diwrnod cyn iddo gael ei arestio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wnaeth drywanu ei gyn-bartner sawl gwaith yng Nghaerfyrddin, ac yna ffoi am bedwar diwrnod, wedi cael ei ddedfrydu i 24 mlynedd o garchar.
Fe gafwyd James McKenna o Gaerfyrddin yn euog o geisio llofruddio ar ddiwedd yr achos yng Ngorffennaf 2026.
Wrth ddedfrydu dywedodd y Barnwr Daniel Williams KC y bydd yn rhaid iddo dreulio dwy ran o dair o'r cyfnod - sef 16 mlynedd o dan glo - cyn cael ei ryddhau ar drwydded.
Fe wnaeth Joanne Sidaway, 49 oed, weiddi a sgrechian wrth i James McKenna ymosod arni ym Mharc Caerfyrddin ar 29 Ionawr.
Ffoniodd am ambiwlans a dweud: "Dwi wedi cael fy nhrywanu gan fy nghyn-bartner... Mae e wedi bod yn fy stelcian."
Yn ystod yr achos clywodd rheithgor yn Llys y Goron Abertawe mai "lwc" oedd hi na fuodd hi farw ar ôl cael ei thrywanu yn ei brest, a bod ei chot aeaf wedi helpu i'w hachub.
Dywedodd McKenna wrth y llys ei fod yn "grac" ar ôl iddyn nhw wahanu fis Tachwedd 2025. Dywedodd ei fod eisiau achosi "niwed difrifol" i Ms Sidaway ond nid ei lladd.
Ar ôl cuddio ym mhentref Bronwydd ger Caerfyrddin am dridiau heb fwyd na dŵr, cafodd McKenna ei arestio yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Yn ystod yr achos dywedodd McKenna ei fod wedi trywanu Ms Sidaway "chwech neu saith neu fwy" o weithiau
Yn ystod yr achos yn gynharach eleni dywedodd McKenna wrth y rheithgor ei fod wedi rhoi'r gyllell fwyaf newydd a miniog o'i gegin yn ei fag fore'r ymosodiad - gyda'r bwriad o'i defnyddio i anafu Joanne Sidaway.
Dywedodd ei fod wedi'i "lorio" ar ôl i'w perthynas ddod i ben ar ôl tua blwyddyn.
Yn ystod yr achos clywodd y rheithgor fod ei chot wedi'i rhwygo mewn 17 man ac fe welon nhw luniau o'i dillad gwaedlyd.
Fe welodd y rheithgor ddelweddau o'r clwyfau a gafodd i'w brest hefyd, yn ogystal â'i braich a'i llaw.
Dyn yn euog o geisio llofruddio cyn-bartner mewn parc
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf
Caerfyrddin: Heddlu'n chwilio am ddyn wedi i fenyw gael ei thrywanu
- Cyhoeddwyd30 Ionawr
Wrth ddisgrifio'r eiliadau yn dilyn yr ymosodiad, dywedodd McKenna wrth y rheithgor ei fod wedi gadael ei fag, a'r gyllell ynddi, mewn rhandir ger y parc ar ôl bwyta iogwrt yno.
Yna, fe gerddodd i Fronwydd, pentref tua thair milltir i'r gogledd o Gaerfyrddin.
"Fe wnes i ddod o hyd i le i gysgodi, coetir tawel i ffwrdd o'r ffordd," meddai.
"Ro'n i'n cael ôl-fflachiadau o'r digwyddiad.. Dim ond aros yno a marw oeddwn i eisiau ei wneud."
Dywedodd ei fod wedi aros yno am dair noson, heb fwyd na dŵr, cyn teithio mewn tacsi ac ar fws i'r ysbyty yn Aberystwyth.
"Sylweddolais y byddwn i'n cael fy nal," meddai, "ac roeddwn i eisiau mynd i le roeddwn i'n ei ystyried yn ddiogel."

Fe gafodd James McKenna ei arestio ar ôl mynd ar goll am ddiwrnodau
Fe glywodd y llys fod James McKenna hefyd wedi ei gael yn euog o ymosod ar gyn-bartner yn Awst 2016, ar ôl gwthio ei gwddw a thynnu ei gwallt.
Dywedodd yr erlyniad fod hynny'n dangos "nad oedd yn fodlon derbyn diwedd y berthynas honno".
Nid oedd Ms Sidaway am gyflwyno datganiad effaith personol yn ystod y gwrandawiad.
Wrth ddedfrydu fore Gwener, dywedodd Daniel Williams KC wrth Mr McKenna: "Roeddet ti mewn perthynas gyda menyw lle roeddet ti'n ymwybodol o ba mor fregus oedd hi.
"Pan wnaeth hi benderfynu nad oedd hi eisiau bod mewn perthynas gyda thi, fe wnes di'r un fath â'r hyn wnes di yn y gorffennol.
"Fe wnes di gario cyllell gan achosi'r niwed mwyaf y gallet, i'w lladd hi, dyna yr oeddet ti'n bwriadu gwneud.
"Fe wnes di ei dilyn hi y bore hwnnw am dy fod yn gwybod ei threfn arferol yn cerdded ei chi."

Reodd presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn ardal y parc wedi'r digwyddiad
Ychwanegodd fod y weithred "wedi ei gynllunio" a'r unig reswm fod y fenyw wedi goroesi oedd "am ei bod yn gwisgo pum haen o ddillad".
"Fe wnes di ei thrywanu 11 o weithiau... yna fe wnes di adael hi i farw yn y gwrych yn y parc," gan ychwanegu iddo "ffoi er mwyn osgoi cael dy ddal."
Ar ddiwedd y gwrandawiad, gofynnwyd i McKenna i gyflwyno ple ar gyfer cyhuddiad pellach o stelcian rhwng Hydref 2025 ac Ionawr 2026. Fe blediodd yn ddieuog i'r cyhuddiad.
'Ddim yn achos anghyffredin'
Dywedodd Ann Williams, Rheolwr llinell gymorth Byw Heb Ofn, bod yr achos yn un "trist iawn" ond "ddim yn un anghyffredin".
"Mae'n frawychus ofnadwy be' ddigwyddodd mewn ardal wledig yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n ddirdynnol."
Nid yw'r trais yn dod i ben ar ddiwedd y berthynas yn y rhan helaeth o achosion, yn ôl Ms Williams.
"Mae'r trais yn cario 'mlaen ac yn cael ei gario 'mlaen mewn achosion fel hyn drwy stelcian - mae rhywun yn methu gadael y berthynas i fod drosodd.
"Dydyn nhw ddim yn meddwl bod hawl gan y dioddefwr i symud ymlaen. 'Da ni gyd yn gwybod mai pŵer a rheolaeth yw craidd trais yn y cartref a dyna ydi hyn."

Dywedodd Ann Williams, Rheolwr llinell gymorth Byw Heb Ofn, bod yr achos yn un "trist iawn" ond "ddim yn un anghyffredin"
Ychwanegodd bod "camddealltwriaeth am beth yw stelcian".
"Mae 'na rai sy'n meddwl mai rhywbeth sy'n digwydd i bobl yn y cyfryngau ydi o, y sêr enwog, ond mae stelcian yn ffordd annifyr iawn o gario 'mlaen rheolaeth dros rywun," meddai.
"Yn aml iawn mae'r stelciwr yn gwybod patrwm y dioddefwr. Maen nhw'n gwybod lle maen nhw'n gweithio, fel yn yr achos yma lle'r oedd y ddynes yn mynd i gerdded ei chi, ac wedi mynd allan gyda'r bwriad o wneud niwed."
'Cyfnod pryderus i bobl Caerfyrddin'
Yn dilyn yr achos, fe wnaeth y Ditectif Brif Arolygydd Sian Davies o Heddlu Dyfed-Powys ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth yn ystod cyfnod "syfrdanol a phryderus dros ben i bobl Caerfyrddin".
Dywedodd: "Dangosodd gweithredoedd James McKenna y diwrnod hwnnw lefel syfrdanol o drais a oedd wedi ei gynllunio ymlaen llaw, a allai fod wedi arwain yn hawdd at farwolaeth y dioddefwr."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.