'Dathlu gwledd o synau amrywiol' Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026

Wyth albwmFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Wyth o'r 15 albwm sydd ar rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Cymreig 2026

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru yn dod at ei gilydd nos Fercher ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026.

Ar 7 Hydref bydd 15 artist ar draws bob mathau o genres yn rhan o'r dathliadau yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

Dywedodd un o'r beirniaid, y cerddor a chyflwynydd Ifan Davies, ei bod yn fraint cael bod yn rhan o un o "uchafbwyntiau'r flwyddyn" i'r diwydiant cerddoriaeth a chael gwrando ar cymaint o amrywiaeth o albymau.

Meddai: "Mae amrywiaeth eang o genres eleni - gwledd o synau amrywiol o Gymru sy'n gwneud hi'n anodd iawn fel beirniad i benderfynu pa rai oedd yn sefyll allan."

Mae'r rhestr fer yn cynnwys enwau cyfarwydd iawn i'r sin, gan gynnwys yr enillydd cyntaf un Gruff Rhys, ac enwau newydd fel Dewin.

Mae'r wobr o £10,000 yn cael ei roi am yr albym gorau gafodd ei ryddhau dros y 12 mis diwethaf, ac mae'r mathau o gerddoriaeth yn amrywio o rap a metel i bop, gwerin, roc ac indi roc.

Don LeisureFfynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Enillydd llynedd Don Leisure gyda'r brif wobr am ei albwm, Tyrchu Sain

Ar y rhestr fer eleni mae:

ADJUA – Everything Is Beautiful

Dyma'r tro cyntaf i Adjua, o Gaerdydd, gyrraedd y rhestr fer. Mae'r artist yn creu cerddoriaeth o wahanol fathau, gan gynnwys alt-R&B a ffync, ac yn adlewyrchu ei hunaniaeth Gymreig ac Affricanaidd.

Aleighcia Scott – Taith

Mae'r seren reggae ryngwladol, gafodd ei henwebu yn 2023 gyda'i halbwm cyntaf Windrush Baby, ar y rhestr fer unwaith eto – y tro yma gyda'i halbwm Gymraeg gyntaf.

Ani Glass – Phantasmagoria

Mae albwm Cymraeg pop breuddwydiol Ani Glass ymysg y 15 o enwebiadau. Fe gafodd yr artist, sy'n byw yng Nghaerdydd, ei henwebu yn 2020 gyda Mirores.

Art School Girlfriend – Lean In

Mae Art School Girlfriend, sy'n wreiddiol o Wrecsam, yn ôl bedair blynedd ers enwebiad 2022 am Is It Light Where You Are.

Cerys Hafana – Angel

Dyma'r drydedd gwaith i'r telynor a'r artist aml-offerynnwr gael enwebiad – yn dilyn Edyf yn 2023 a Difrisg llynedd.

Chroma yn 2016
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chroma wedi dod yn bell ers iddyn nhw gychwyn eu taith fel band yn 2016 gan ennill Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016

CHROMA – 25 Forever

Mae'r band roc trwm o Bontypridd wedi eu henwebu am yr eildro. Roedd Ask for Angela yn y rhestr enwebiadau yn 2024.

Dafydd Owain – Ymarfer Byw

Dyma enillydd Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las eleni. Fe gafodd y cyfansoddwr o Gaernarfon hefyd ei enwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2023 gydag Uwch Dros Y Pysgod.

Dewin – Dan y Dderwen

Grŵp newydd o Aberteifi sy'n creu byd dychmygol ac yn disgrifio eu cerddoriaeth fel 'pop dewinaidd'. Dyma albwm cynta'r band.

DewinFfynhonnell y llun, Dewin
Disgrifiad o’r llun,

Hud a lledrith Dewin

Gruff Rhys – Dim Probs

Mae wedi bod yn 12 mis prysur i Gruff Rhys, enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gyntaf erioed yn 2011 gyda Hotel Shampoo, gan ei fod wedi bod ar daith am y tro cyntaf ers bron i ddegawd gyda'i fand y Super Furry Animals.

Gwenifer Raymond – Last Night I Heard the Dog Star Bark

Fe gafodd y gitarydd ei henwebu hefyd yn 2021 gyda Strange Lights Over Garth.

Local – Too Broke to Be This Busy

Seren rap newydd o Gaerdydd sy'n cyrraedd y rhestr fer am y tro cyntaf.

Clawr albwm saith artistFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Clawr albwm y saith enwebiad arall yn y gwobrau

Mari Mathias – Cyfarwydd

Mae Mari Mathias, o Geredigion, yn enw adnabyddus yn y byd gwerin, ond dyma ei henwebiad cyntaf am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.

Skindred – You Got This

Dyma drydydd enwebiad y band ragga-metel o Gasnewydd, gyrhaeddodd frig siartiau'r Deyrnas Unedig gyda'u chweched albwm.

The Bug Club – Every Single Muscle

Mae'r rocwyr indi o Gil-y-coed, gyda'u geiriau chwareus, yn cyrraedd y rhestr fer am y tro cyntaf.

The Royston Club – Songs For The Spine

Mae'r band gitâr, sydd wedi eu henwi ar ôl clwb yn eu hardal enedigol Wrecsam, yn fand poblogaidd ers sawl blwyddyn ond dyma eu henwebiad cyntaf am y wobr.

'Ystod anhygoel o gerddoriaeth'

Mae Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026, wnaeth ddechrau yn 2011, yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd ac yn agor dathliadau gwŷl Llais eleni.

Cyflwynydd BBC Radio 1 Sian Eleri fydd yn arwain y seremoni eto eleni a bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu'n fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

Dywedodd cyd-sylfaenydd y Wobr, y cyflwynydd Huw Stephens: "Am yr 16eg tro, bydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn dathlu'r albymau grêt yma mewn noson arbennig.

"Mae'r rhestr hir a'r rhestr fer ddilynol o albymau yn ein hatgoffa'n flynyddol am yr ystod anhygoel o gerddoriaeth sy'n dod o Gymru.

"O hip hop a rap i gerddoriaeth werin, electronica, a roc trwm, mae artistiaid eleni'n dangos y creadigrwydd cyfoethog, amrywiol a bywiog sy'n ffynnu ar draws sîn gerddoriaeth Cymru."

Y beirniaid eleni ydi: Tim Jonze, o bapur newydd The Guardian; Sophie Wiliams, newyddiadurwr cerddoriaeth; Helen Weatherhead, BBC Radio 6 Music; Yaw Owusu, ymgynghorydd y diwydiant cerddoriaeth; Molly Palmer, DJ a chyflwynydd BBC Radio Wales; Aly Gillani, Aim/First Word Records, a'r cerddor a'r cyflwynydd Ifan Davies.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig