AS wedi teimlo'r angen i dynnu ei mab awtistig o addysg cyfrwng Cymraeg

Roedd Sera Evans wedi teimlo'r angen i dynnu ei mab awtistig o addysg cyfrwng Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o Senedd Cymru wedi dweud ei bod wedi tynnu ei mab awtistig o addysg cyfrwng Cymraeg am nad oedd hi'n teimlo bod y ddarpariaeth yn ddigonol iddo.
Dywedodd Sera Evans bod y sefyllfa'n "dorcalonnus", ond "doedd y ddarpariaeth Gymraeg ddim cystal â beth oedd ar gael yn y sector Saesneg".
Yn ôl adroddiad newydd, mae "anghydraddoldeb parhaus" ym maes anghenion dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r adroddiad yn dweud bod prinder staff ac nad yw'r adnoddau gystal ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol o gymharu â'r Saesneg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr adroddiad yn tynnu sylw at feysydd cynnydd a meysydd lle mae angen rhagor o welliannau.
Cafodd yr adolygiad pum mlynedd o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg ei gomisiynu gan Lywodraeth Lafur Cymru'r haf diwethaf.
'Brwydr' teulu i gael addysg Gymraeg i fab awtistig
- Cyhoeddwyd5 Mai 2023
Anghenion dysgu: 'Angen gwella darpariaeth Gymraeg' Fideo, 00:01:15
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2023
Mae'r adroddiad gan gwmni Ymchwil Arad yn dweud fod cynnydd wedi ei wneud dros y pum mlynedd diwethaf i gyflawni system ddwyieithog i blant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth drwy'r Gymraeg.
"Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau hefyd yn amlinellu anghydraddoldeb parhaus yn argaeledd a darpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg o'i gymharu â'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Saesneg," meddai.
Dywedodd hefyd bod "bylchau a phrinder" staff sy'n medru'r Gymraeg ar draws y rhan fwyaf o gynghorau Cymru.
Dydy'r adnoddau cyfrwng Cymraeg chwaith ddim "ar yr un lefel" â'r rhai sydd ar gael yn Saesneg, meddai.
Mae dyletswydd gyfreithiol ar gynghorau Cymru i ddarparu cefnogaeth i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
'Y ddarpariaeth Gymraeg ddim cystal'
Cafodd mab Sera Evans, aelod Plaid Cymru yn Senedd Cymru, ddiagnosis awtistiaeth pan oedd yn saith oed.
Cyn y pandemig pan oedd ym mlwyddyn 5, fe dynnodd hi ei mab allan o addysg cyfrwng Cymraeg gan nad oedd y ddarpariaeth yn ddigonol iddo, meddai.
"Oedd e'n dorcalonnus... a dwi'n edrych yn ôl ar y cyfnod gyda lot o dristwch ac ychydig o ddicter hefyd," meddai'r aelod dros Afan Ogwr Rhondda.
"[Does] dim bai ar yr athrawon, dim bai ar yr ysgolion ond doedd y ddarpariaeth Gymraeg ddim cystal â beth oedd ar gael yn y sector Saesneg."
Cymraeg ydy iaith yr aelwyd, ond mae Sera yn poeni y bydd rhai disgyblion eraill yn colli'r cyfle.
"Mae fe wedi gallu parhau i siarad Cymraeg gyda fi yn y tŷ a'r teulu ond dwi'n poeni'n fawr fod lot fawr o blant yn gadael y sector cyfrwng Cymraeg oherwydd anghenion dysgu ychwanegol a ddim yn gallu parhau gyda'u sgiliau Cymraeg yn y dyfodol."
Dywedodd bod 'na "frwydr enfawr" i deuluoedd ac athrawon i geisio sicrhau cefnogaeth ddigonol.
Mae hi'n croesawu'r gwelliannau sydd wedi eu gwneud, ond bod angen gwneud mwy.

Dywedodd Elin Maher fod "angen edrych yn fwy systematig ar sut mae'r gweithlu ar gyfer dysgwyr gydag anghenion arbennig yn cael ei gynllunio"
Fe wnaeth mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg gyfrannu at yr adroddiad.
"Y peth pwysicaf i ni yw cydnabyddiaeth bod angen edrych yn fwy ar rai meysydd penodol," meddai'r cyfarwyddwr Elin Maher.
"Er enghraifft sut mae'r gweithlu yn y maes hwn yn cael ei ddatblygu fel nad ydyn ni'n colli staff a bod yna fylchau a hynny'n arwain at beidio gallu rhoi cefnogaeth.
"Felly mae angen edrych yn fwy systematig ar sut mae'r gweithlu ar gyfer dysgwyr gydag anghenion arbennig yn cael ei gynllunio."
'Heriau parhaus'
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru fethu â phasio eu cynlluniau gwariant ym mis Gorffennaf, gyda'r blaid Lafur eisiau gweld mwy o wario ar anghenion dysgu ychwanegol- £100m eleni - cyn y byddan nhw'n cefnogi'r llywodraeth.
Dywedodd llefarydd addysg y blaid, Lynne Neagle, ei bod yn croesawu'r adroddiad.
"Mae'n glir fodd bynnag bod 'na heriau parhaus i weithredu system anghenion dysgu ychwanegol sy'n ddwyieithog ac mae'n rhaid i'r llywodraeth Plaid Cymru fynd i'r afael â hynny."
Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol allu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae'r adolygiad cenedlaethol cyntaf hwn yn rhoi darlun pwysig o'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, gan dynnu sylw at feysydd cynnydd a meysydd lle mae angen rhagor o welliannau," meddai.
"Bydd canfyddiadau'r adolygiad hwn yn llywio camau gweithredu yn y dyfodol i gryfhau'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg a chefnogi'r gwaith o ddatblygu system ADY sy'n ddwyieithog ac yn gynaliadwy."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.