Carcharu dyn am 21 mlynedd am dreisio merch ddegau o weithiau

Jordan RichardsFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jordan Richards ei garcharu am 21 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei garcharu am 21 mlynedd ar ôl pledio'n euog i ddegau o droseddau rhyw yn erbyn merch o Sir Gaerfyrddin.

Plediodd Jordan Richards, 35 o Kidderminster yn Sir Gaerwrangon, yn euog i 36 o droseddau rhywiol yn erbyn yr un plentyn rhwng 2012 a 2016.

Roedd Richards wedi pledio'n ddieuog yn wreiddiol yn Llys y Goron Abertawe, cyn newid ei ble ar ail ddiwrnod yr achos llys

Cyfaddefodd i 36 cyhuddiad, gan gynnwys 31 achos o dreisio'r ferch pan roedd hi rhwng 15 ac 17 oed, a chynhyrchu dros 600 o luniau anweddus ohoni.

Clywodd y llys y digwyddodd y troseddau yn ardal Rhydaman rhwng 2012 a 2016.

Cafodd Richards ei ddedfrydu ddydd Gwener, 21 Awst, i 21 mlynedd o garchar, a phedair blynedd arall ar drwydded.

Bydd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol hefyd am gyfnod amhenodol, gorchymyn atal rhag y goroeswr am gyfnod amhenodol, a bydd yn rhaid iddo gydymffurfio â gofynion o dan y Ddeddf Troseddwyr Rhywiol am weddill ei oes.

Troseddau 'creulon'

Dywedodd y barnwr fod y troseddau'n rhai "creulon", a'u bod wedi cael "effaith ddofn" ar y goroeswr a'i theulu.

Pwysleisiodd y Ditectif Sarjant Carl Pocock o Heddlu Dyfed-Powys "ddewrder y goroeswr".

"Dwi wir yn gobeithio bod y canlyniad yma yn rhoi teimlad o gyfiawnder a heddwch iddi, ac yn ei galluogi i symud ymlaen â'i bywyd."

Dywedodd yr heddlu fod y goroeswr yn croesawu'r ddedfryd.

"Dydy'r achos yma ddim wedi bod yn hawdd o gwbl, ond byddwn i'n annog pobl sydd heb ddod ymlaen eto i roi gwybod, oherwydd mi gewch chi wrandawiad a chefnogaeth," meddai.

"Dydyn ni ddim yn ddioddefwyr, rydyn ni'n oroeswyr."

Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.