Nith Dolly Parton am ddysgu Cymraeg ar ôl canu gyda Bronwen Lewis

Bronwen a Jada yn recordio'r fersiwn Gymraeg o Jolene yn SouthamptonFfynhonnell y llun, Bronwen Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Bronwen a Jada yn recordio'r fersiwn Gymraeg o Jolene yn Southampton

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Dwi wir yn credu y gall unrhyw un siarad Cymraeg, mae'n deimlad mor braf i siarad yr iaith, mae'n iaith gyfforddus," - dyna neges nith Dolly Parton.

Mae Jada Star yn gantores canu gwlad o Tennesse ac yn dilyn ei phrofiad diweddar o ryddhau fersiwn Gymraeg o un o ganeuon enwocaf ei modryb, mae wedi disgyn mewn cariad â Chymru.

Recordiodd Jada fersiwn o Jolene gyda'r gantores o Flaendeulais, Bronwen Lewis. Dechreuodd y cyfeillgarwch ar ôl i Jada weld fideo ar Tiktok o Bronwen yn canu'r gân yn Gymraeg rhyw ddwy flynedd yn ôl.

Erbyn hyn hoffai Jada "grwydro pob modfedd o Gymru" ac efallai ymweld â'r Eisteddfod rhyw ddydd wrth iddi fwynhau dysgu mwy am Gymru a'r Gymraeg.

Jada a Bronwen LewisFfynhonnell y llun, Bronwen Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Jada a Bronwen ar ôl recordio'n y stiwdio

Mae gan y teulu gysylltiadau Cymreig, ond ar ôl teithio i gyfarfod â Bronwen yn ystod Pride Cymru aeth i sawl lle. Aeth o Gaerdydd, i Gaernarfon, i Gonwy, gan ddysgu Cymraeg ar hyd ei thaith.

Dywedodd Bronwen ei bod wedi cael ei hysbrydoli gan agwedd Jada at yr iaith: "Do'n i byth am wthio canu yn Gymraeg ar Jada, roedd y ffaith bod hi eisiau a bod ganddi ddiddordeb yn codi calon, roedd hi yn llawn cwestiynau am y ffoneteg, sut i ynganu.

"Mae agwedd Jada at yr iaith mor iach, mae yna lawer o artistiaid Cymraeg sydd ddim hyd yn oed yn rhyddhau cerddoriaeth Gymraeg felly mae'r ffaith bod Jada wedi gwneud yn anhygoel."

Dolly Parton yn canu'n Gymraeg gyda balchder

Ar hyn o bryd mae'r ddwy'n derbyn llongyfarchion o bob ochr i Gefnfor yr Iwerydd ar ôl rhyddhau eu fersiwn o Jolene.

"Dwi mor falch o'r trac," meddai Jada. "Dwi wedi bod yn emosiynol drwy'r dydd ac wedi cael negeseuon o Gymru sydd werth y byd hefyd.

"Dwi'n meddwl bod pobl wir yn ei hoffi, mae'n rhywbeth nad ydyn nhw wedi ei glywed o'r blaen."

Ac mae Bronwen yn cytuno: "Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel, mae pobl wedi cwympo mewn cariad gyda'r stori tu ôl i'r gân a sut daeth hi at ei gilydd.

"Fe ddigwyddodd e mor organig, ac i fi - roedd canu'n Gymraeg gyda fy arwres, Dolly Parton, yn rhywbeth na wnes i erioed ddychymgu fyddai'n digwydd i ferch o Flaendeulais."

Jada a DollyFfynhonnell y llun, Jada Star
Disgrifiad o’r llun,

Jada gyda'i modryb, y diweddar Dolly Parton

Fe gafodd y gân ei recordio cyn marwolaeth Dolly Parton yn 80 oed ym mis Awst eleni. Mae hithau hefyd i'w chlywed yn canu'n Gymraeg yn y fersiwn yma o'i chân enwog.

Ac mae'r ddwy'n ddiolchgar bod y frenhines canu gwlad, a werthodd dros 100 miliwn o recordiau ledled y byd, wedi gwrando ar y gân cyn ei marwolaeth.

Dywedodd Jada: "Roedd hi wrth ei bodd yn clywed fersiynau pobl eraill o'i chaneuon a dehongliad artistiaid eraill ac felly roedd hi'n falch iawn o'r prosiect yma.

"Roedd hi'n meddwl ei fod yn syniad mor ddiddorol. Roedd hi'n derbyn pawb, pob ffan o bob cefndir a phob diwylliant, felly roedd ganddi ddiddordeb mewn canu'n Gymraeg.

"Pan wnes i ofyn wrthi a fyddai hi'n fodlon canu gyda fi a Bronwen, wnes i ddim roi pwysau ar Dolly i ganu'n Gymraeg, wnes i ond awgrymu, ond roedd gen i deimlad y byddai hi eisiau.

"Ges i neges yn ôl ganddi yn dweud 'I'm on there'. Ro'n i'n meddwl bod hynny yn hyfryd."

Neges gan Dolly ar ôl clywed y fersiwn Gymraeg o JoleneFfynhonnell y llun, Jada Star
Disgrifiad o’r llun,

Neges gan Dolly ar ôl clywed y fersiwn Gymraeg o Jolene

"Chawson ni ddim amser i ymarfer yn Gymraeg gyda'n gilydd achos roedd hi mor brysur, ond roedd hi mor glyfar," meddai Jada.

"Wnes i anfon nodiadau Bronwen ar sut i ynganu a dyna ni - aeth hi ati i recordio ei rhannau hithau yn ei stiwdio. Roedd hi y person fwyaf gweithgar a phroffesiynol y gallwch ddychmygu."

Ar ôl clywed y gân fe anfonodd Dolly e-bost at ei nith yn ei llongyfarch hi a Bronwen, ac fe wnaeth ei hymateb gwylaidd ryfeddu Bronwen.

"Dyna'r eicon Dolly Parton, bron â bod yn rhoi ei hun i lawr, ond dyna pa mor humble a down to earth oedd hi, a bron yn ddiolchgar ei bod hi'n cael collabio gyda ni," meddai.

Dolly yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dolly yn perfformio yng Nghaerdydd yn 2014

Mae Bronwen yn gobeithio y bydd y fersiwn ddwyieithog yma o Jolene yn ysbrydoli mwy o bobl i siarad Cymraeg.

"Os oedd Dolly Parton yn 80 oed, wastad yn brysur a dal yn awyddus i ddysgu pethau newydd yn gallu rhoi amser i ddysgu Cymraeg, yna dwi'n meddwl y gall unrhyw un," meddai.

"Dwi wedi bod yn ceisio dangos i blant ac unrhyw un sy'n gwrando ar fy ngherddoriaeth ers blynyddoedd pa mor cŵl yw'r iaith Gymraeg, a nawr bod Jada a'i Anti Dolly yn cytuno gyda mi mewn cân, yna gobeithio na fyddai'n gorfod profi hynny rhagor."

Gyda Jada wedi dechrau dysgu Cymraeg ar Duolingo, dywedodd mai rhai o'i hoff eiriau Cymraeg hyd yma yw 'Draig' a 'Pilipala'.

"Pan ddes i Gymru i weld Bronwen fe wnes i roi llawer o ymdrech i ddysgu Cymraeg, ro'n i ar Duolingo o hyd, ond dwi angen ailgydio.

"Mae'r ap yn rhoi brawddegau at ei gilydd mewn ffordd mor hardd, ac maen nhw'n llawn o ddreigiau," chwarddodd. "Mae'n hwyl."

"Ond y geiriau Cymraeg wnes i ddysgu gyntaf oedd shwmae a diolch achos ro'n i eisiau gallu cyfarch pobl yn Gymraeg."

Bronwen yn dangos cefn gwlad Cymru i JadaFfynhonnell y llun, Bronwen Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Bronwen yn dangos cefn gwlad Cymru i Jada

Tra bod Jada yn ysu i ymweld â Chymru eto'n fuan ar ôl rhyfeddu at fynyddoedd Eryri, a oedd yn ei hatgoffa o'r Great Smoky Mountains, mae Bronwen yn edrych ymlaen at gyflwyno Jada i faes yr Eisteddfod Genedlaethol rhyw ben.

"Hoffwn i grwydro pob modfedd o Gymru," meddai Jada.

"Ar ôl bod yng Nghaerdydd fe aeth Bronwen â fi i'r wlad felly ges i flas o'r ddau le. Ro'n i'n teimlo fel bod y Smoky Mountains a'ch mynyddoedd chi wedi cael eu haneru a'u rhoi at ei gilydd."

Ychwanegodd Bronwen: "Roedden ni yn ardal Betws-y-coed ac fe ddywedodd Jada, 'Mae mor wyrdd, mae'n edrych fel East Tennessee!"

Beth nesaf i Bronwen a Jada?

Yn ystod eu sgwrs â Chymru Fyw, fe esboniodd Bronwen beth yw'r Eisteddfod Genedlaethol wrth Jada.

"Mae'n swnio yn ddiddorol iawn, fe allwn ni ddod yno mewn gwisg draig!" chwarddodd Jada.

Tan hynny mae Bronwen a Jada'n edrych ymlaen at ragor o gyd-ganu a chyd-weithio.

Bronwen a JadaFfynhonnell y llun, Bronwen Lewis/Jada Star
Disgrifiad o’r llun,

Bronwen a Jada

Ac yn ogystal â chariad at ganu gwlad, mae rhannu gwerthoedd tebyg hefyd yn sail i'w cyfeillgarwch.

Eglurodd Bronwen: "Mae Jada yn hoffi gwarchod pethau sy'n cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall, yn yr un ffordd ag ydw i - gwarchod cerddoriaeth, diwylliant a chrefft.

Ychwanegodd Jada: "Dwi'n hapus iawn bod Bronwen a fi wedi cyfarfod, wedi dod yn ffrindiau ac yn ddiolchgar tu hwnt fy mod wedi cael un cyfle olaf i ganu gyda fy modryb, Dolly."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.