Ystyried uno dwy feddygfa yn Sir Gâr 'ar ôl bron i flwyddyn o ansicrwydd'

Meddygfa'r Sarn ym Mhont-iets
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meddygfa'r Sarn wedi cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ers 2017

GanElen Davies
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystyried uno dwy feddygfa yn Sir Gâr.

Daw hyn wedi misoedd o ansicrwydd i Feddygfa'r Sarn ym Mhont-iets sydd â dros 4,000 o gleifion.

Er gwaetha'r argymhelliad i gau'r feddygfa ddechrau'r flwyddyn, bydd y Bwrdd Iechyd yn ceisio barn y gymuned nawr ar y syniad o uno arfaethedig Meddygfa'r Sarn ym Mhont-iets a Meddygfa Minafon yng Nghydweli.

Yn ôl cynghorwyr lleol, maen nhw'n "ofalus o optimistaidd" am y cyhoeddiad gyda chwestiynau hollbwysig dal heb eu hateb.

Mae gan feddygfa'r Sarn tua 4,350 o gleifion.

Ers 2017, mae'r feddygfa wedi cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ar ôl i'r cytundeb gyda chynbartneriaid ddod i ben.

Ar hyd y blynyddoedd, mae'r feddygfa wedi wynebu heriau staffio, gan ddibynnu'n llwyr ar feddygon locwm.

Ddechrau'r flwyddyn, fe wnaeth Panel Practis Gwag argymell y dylai cleifion gael eu trosglwyddo i feddygfeydd cyfagos ym Mhontyberem, Cydweli a Llanelli o ddiwedd mis Mehefin.

Ond yn dilyn beirniadaeth lem gan rai yn y gymuned am ddiffyg ymgynghori, fe benderfynodd aelodau'r bwrdd iechyd gynnal cyfnod o ymgysylltu â'r gymuned am wyth wythnos.

Daeth gobaith pellach i'r cleifion ym mis Mai hefyd, wrth i Fwrdd Iechyd Hywel Dda gytuno i chwilio am gontractwr annibynnol i redeg gwasanaeth meddygon teulu ym Meddygfa'r Sarn.

Ond fis diwethaf, yn ystod cyfarfod diweddaraf y bwrdd, fe ddywedodd y Prif Weithredwr, Yr Athro Philip Kloer, nad oedd neb wedi cyflwyno cais i redeg y feddygfa.

Arwydd 'Meddygfa'r Sarn' ar wal y feddygfa ym Mhont-iets
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meddygfa'r Sarn yn gwbl ddibynnol ar feddygon locwm

Mewn ymateb, fe ddywedodd cynghorwyr lleol wrth BBC Cymru eu bod yn mynnu atebion gan y Bwrdd Iechyd ynglŷn â beth aeth o'i le o ystyried fod nifer fach wedi mynegi diddordeb anffurfiol yn ystod y cyfnod ymgysylltu.

Roedden nhw'n feirniadol hefyd o ddiffyg cyfathrebu'r Bwrdd Iechyd, gan honni eu bod fel cynghorwyr wedi cael gwybod am y diffyg diddordeb i'r tendr awr yn unig cyn y cyfarfod bwrdd diwethaf.

Erbyn heddiw, mae'r Bwrdd Iechyd yn dweud eu bod wedi ystyried y trefniadau ar gyfer Meddygfa'r Sarn eto drwy broses y bwrdd ar gyfer practisau gwag.

Y tro hwn, fe wnaeth y panel argymell model arfaethedig lle byddai Meddygfa'r Sarn yn uno â Meddygfa Minafon.

Mae'r model arfaethedig yn golygu y byddai gwasanaethau'n parhau i gael eu darparu o safle Meddygfa'r Sarn ym Mhont-iets, fel meddygfa gangen.

Y Cynghorwyr Tyssul Evans (chwith), Meinir James (canol) ac Alex Evans (dde).
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorwyr (o'r chwith) Tyssul Evans, Meinir James ac Alex Evans yn mynnu atebion gan y bwrdd iechyd

Yn ôl y bwrdd iechyd, byddai staffio'n cael ei reoli ar draws Meddygfa Minafon, meddygfa gangen Trimsaran a meddygfa gangen Pont-iets "i gefnogi model mwy cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu tra'n cadw mynediad lleol ym Mhont-iets".

Bydd cyfle nawr gyda'r gymuned, medden nhw, i roi barn unwaith eto ar ddyfodol Meddygfa'r Sarn drwy gyfnod ymgysylltu bedair wythnos sy'n agor ddydd Llun 2 Tachwedd ac yn cau ddydd Sul 29 Tachwedd 2026.

Mewn datganiad ar y cyd fe ddywedodd y Cynghorydd Alex Evans, Tyssul Evans a Meinir James: "Roedd integreiddio'n agosach â Minafon yn un o'r opsiynau y gwnaethom alw'n benodol ar y Bwrdd Iechyd i'w hystyried yn ein datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd i'r wasg yn gynharach heddiw, cyn cyhoeddiad Hywel Dda.

"Fodd bynnag, mae preswylwyr wedi wynebu bron i flwyddyn o ansicrwydd ynghylch dyfodol eu meddygfa, ac mae cwestiynau hollbwysig sydd angen eu hateb o hyd.

"Ar ba ddyddiau ac am ba oriau y byddai'r feddygfa ar agor? Sut y byddai'n cael ei staffio? Pa wasanaethau fyddai'n parhau i fod ar gael yn lleol?

"Mae'r manylion hyn o bwys mawr i gleifion sy'n dibynnu ar y feddygfa.

"Rydym hefyd yn siomedig nad oes atebion wedi'u rhoi i'n pryderon ynghylch y broses recriwtio a fethodd a'r diffyg cyfathrebu ystyrlon gan Hywel Dda drwy gydol y broses hon.

"Nid yw amseriad cyhoeddiad heddiw yn newid yr angen am atebolrwydd priodol."

Mae Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Andrew Carruthers, yn pwysleisio "nad oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi'u gwneud".

"Bydd y cam nesaf o ymgysylltu yn rhoi cyfle i gleifion, preswylwyr, staff, a'r gymuned ehangach rannu eu barn ar yr uno arfaethedig a sut y gallai'r feddygfa gangen weithredu yn y dyfodol, gan gynnwys y gwasanaethau a ddarperir a'r trefniadau agor."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.