Meddygfa dan fygythiad yn Sir Gaerfyrddin i aros ar agor am y tro

Meddygfa'r Sarn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meddygfa'r Sarn yn cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ers 2017

GanElen Davies
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd meddygfa yn Sir Gaerfyrddin yn aros ar agor am y tro wrth i Fwrdd Iechyd Hywel Dda chwilio am feddygon teulu i'w rhedeg.

Mae Meddygfa'r Sarn ym Mhont-iets wedi bod dan fygythiad ers mis Ionawr, ar ôl i banel argymell y dylid dosbarthu cleifion ar draws meddygfeydd cyfagos o ddiwedd mis Mehefin.

Ers hynny, mae ymgyrchwyr wedi brwydro dros ei ddyfodol, wrth i'r bwrdd iechyd gynnal cyfnod wyth wythnos o ymgysylltu â'r cyhoedd.

Yn un o gyfarfodydd y bwrdd, fe glywodd aelodau bod yna ddiddordeb anffurfiol mewn rhedeg y feddygfa.

Cytunodd yr aelodau i gynnal prawf dichonoldeb i weld a oedd hi'n bosib i gontractwr annibynnol redeg y gwasanaeth meddygon teulu.

Mae gan Feddygfa'r Sarn tua 4,350 o gleifion.

Ers 2017, mae'r feddygfa wedi cael ei rhedeg gan y bwrdd iechyd, ar ôl i'r partneriaid ildio'r cytundeb i redeg y gwasanaeth, ac mae hi wedi dibynnu ar feddygon locwm.

Yn ystod cyfarfod bwrdd fis Ionawr, roedd disgwyl i aelodau gefnogi argymhelliad y Panel Meddygfeydd Gwag a bwrw ymlaen â chynllun i ddosbarthu'r cleifion ymhlith meddygfeydd ym Mhontyberem, Cydweli a Llanelli ar ddiwedd mis Mehefin.

Ond cafodd y penderfyniad ei ohirio yn dilyn beirniadaeth lem gan y gymuned leol, cynghorwyr sir yr ardal a Llais - y corff sy'n cynrychioli buddiannau cleifion.

Yn hytrach, fe gytunodd y bwrdd i gynnal cyfnod ymgysylltu wyth wythnos o hyd.

Meddygfa'r Sarn

Y bwriad oedd y byddai cleifion yn cael eu gwasgaru i Feddygfa Nant y Glo ym Mhontyberem (3 milltir o Feddygfa'r Sarn), Meddygfa Minafon yng Nghydweli (5.5 milltir), ac i rai cleifion, meddygfeydd yn Llanelli.

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu wrth aelodau mewn cyfarfod gan y bwrdd ddydd Iau fod lefel yr ymatebion yn "arwyddocaol", gan ddweud fod cryfder teimladau'r gymuned i'r cynnig "yn glir".

Roedd yr adroddiad, a gafodd ei drafod yn y cyfarfod yn manylu ar "adborth negyddol" i'r newidiadau arfaethedig, gan ddweud nad oedd "neb yn teimlo'" mai gwasgaru cleifion i bractisau cyfagos a chael gwared ar y gwasanaeth ym Mhont-iets oedd yr ateb.

Roedd teithio, trafnidiaeth a'r effaith ar grwpiau bregus i gyd yn faterion amlwg oedd yn peri gofid.

Cafodd "nifer fach" o "fynegiadau anffurfiol o ddiddordeb" yng nghytundeb Meddygfa'r Sarn hefyd eu derbyn yn ystod y cyfnod ymgysylltu.

Er bod hyn yn cael ei groesawu, mae'r adroddiad yn dweud nad oes gwybodaeth ariannol na busnes wedi ei rannu gyda nhw am y cais.

'Gallai hynny fod yn atyniad i feddygon'

Penderfynodd y bwrdd y dylid ymgymryd â phroses gaffael i weld a oedd hi'n bosib i gontractwr annibynnol ddarparu gwasanaethau meddyg teulu ym Meddygfa'r Sarn, gyda Phanel Meddygfeydd Gwag yn cael ei ffurfio i ystyried y canlyniad a gwneud argymhelliad i gyfarfod y bwrdd yn y dyfodol ar y ffordd ymlaen.

Gallai gymryd chwe mis cyn adrodd yn ôl i'r bwrdd, meddai Mr Carruthers, ac yn y cyfamser mi fyddai'r practis yn rhedeg yn ôl yr arfer.

Jane Nicholas
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n "amlwg bod eisiau siarad â chleifion" a phobl yr ardal meddai Jane Nicholas

Dywedodd Jane Nicholas, ymgyrchydd dros achub y feddygfa mai dyma'r "canlyniad gorau" y gallen nhw fod wedi ei gael.

"O'r ceisiadau rhyddid gwybodaeth 'dan ni wedi gwneud, 'dan ni'n gwybod bod braidd dim recriwtio wedi bod dros y naw mlynedd mae'r feddygfa wedi bod yn nwylo'r gwasanaeth iechyd… os yw'r bwrdd nawr yn cymryd y peth o ddifri', ac yn dangos bod y gymuned tu ôl i'r feddygfa dwi'n meddwl gallai hynny fod yn atyniad i feddygon."

Ychwanegodd: "Mae e wedi dangos bod y broses wedi bod yn ddiffygiol a bydd y bwrdd yn edrych ar eu prosesau nawr.

"Dyna un o'r pethau roedden ni yn gobeithio bydde'n dod allan o hyn achos mae'n amlwg bod eisiau siarad â chleifion a cadw nhw yn y loop."

Meddygfa Sarn

Mewn ymateb ar y cyd, dywedodd y cynghorwyr Tyssul Evans, Meinir James ac Alex Evans fod y penderfyniad yn "gam mawr ymlaen i gleifion a'n cymunedau sy'n dibynnu ar Feddygfa'r Sarn".

Fe ddywedon nhw eu bod yn croesawu'r ffaith bod y bwrdd iechyd wedi cytuno i archwilio pa mor ymarferol fyddai cael meddygon teulu annibynnol i redeg y feddygfa, ond y "dylai'r gwaith hwn fod wedi digwydd cyn i unrhyw argymhelliad i gau'r feddygfa gael ei gyflwyno gerbron y bwrdd".

"Un o'r prif resymau a roddwyd dros y cau arfaethedig oedd diffyg diddordeb honedig mewn rhedeg y feddygfa'n annibynnol, gan arwain at gostau locwm anghynaladwy.

"Fodd bynnag, mae nifer o ddatganiadau o ddiddordeb mewn rhedeg y feddygfa wedi'u cyflwyno ers cyfarfod y bwrdd ym mis Ionawr, lle gwnaed yr argymhelliad i gau yn gyntaf.

"Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol ynghylch a wnaed digon i sicrhau dyfodol y feddygfa cyn i unrhyw gynigion cau gael eu cyflwyno."

'Rhaid i'r contract weithio'

Eleanor Marks
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eleanor Marks bod y bwrdd yn gweithio i gael y canlyniad gorau i'r gymuned

Yn dilyn y drafodaeth yng nghyfarfod y bwrdd, dywedodd Eleanor Marks, Dirprwy gadeirydd y bwrdd iechyd: "Fel bwrdd, ni wedi dysgu or broses hyn i ymgynghori cyn bod y penderfyniad yn dod i'r bwrdd…

"Mae lot o waith wedi ei wneud ac yn ystod y bwrdd bore 'ma, ni wedi dweud ni mynd i gadw cysylltu â'r gymuned, y cleifion a'r staff.

"Byddwn ni'n ymdrechu yn iawn, fel ni'n gwneud bob tro pan ni'n mynd mas i gael contract newydd.

"Y pwynt yw, mae'n rhaid i'r contract weithio yn ariannol, yn glinigol, i'r gymuned ac yn rhywbeth sy'n gallu parhau mewn i'r dyfodol.

"Ni moyn gweithio i gael y canlyniad gorau i'r feddygfa a'r gymuned."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.