Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn y de

Cylchfan Glais
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi cael eu galw i wrthdrawiad ger cylchfan Glais ar yr A4067 am 22:40 nos Wener

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn Abertawe.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi cael eu galw i wrthdrawiad ger cylchfan Glais ar yr A4067 am 22:40 nos Wener.

Bu farw dyn 52 oed o Crook, Durham yn y fan a'r lle.

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Ychwanegodd y llu eu bod yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad, gan annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig