Stephen Kinnock i olynu Jo Stevens fel Ysgrifennydd Cymru

Stephen KinnockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Kinnock yn fab i'r cyn-arweinydd Llafur Neil Kinnock

  • Cyhoeddwyd

Aelod Seneddol Aberafan Maesteg, Stephen Kinnock yw Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru ar ôl iddo gael ei ddyrchafu i'r cabinet gan Andy Burnham.

Bydd Mr Kinnock, a fu'n weinidog iechyd yn llywodraeth Lafur y DU, yn cymryd lle Jo Stevens, Aelod Seneddol Dwyrain Caerdydd.

Mae Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant, hefyd wedi cael ei ddyrchafu i rôl newydd fel Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon.

Daw wrth i Brif Weinidog newydd y DU, Andy Burnham, ddewis ei dîm llywodraethol newydd.

Cafodd Stephen Kinnock ei eni yn Nhredegar ac mae'n fab i gyn-arweinydd y blaid Lafur, Neil Kinnock a'r cyn-Aelod o Senedd Ewrop, Glenys Kinnock.

Mae ganddo ddau o blant gyda chyn-Brif Weinidog Denmarc, Helle Thorning-Schmidt.

Cafodd Mr Kinnock ei ethol i gynrychioli Aberafan yn etholiad cyffredinol 2015 cyn i Syr Keir Starmer ei benodi'n weinidog iechyd ar gyfer Lloegr pan ddaeth Llafur i rym yn San Steffan yn 2024.

Roedd Mr Kinnock yn cynrychioli etholaeth Aberafan Maesteg, a oedd wedi cael enw newydd erbyn hynny.

Ymhlith yr enwau eraill yng ngharfan newydd Andy Burnham mae Aelod Seneddol Bro Morgannwg, Kanishka Narayan - sydd wedi cael dyrchafiad i fod yn Weinidog Deallusrwydd Artiffisial.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig