Ysgol yn Sir Conwy wedi 'methu â delio' hefo bwlio hiliol – tad

Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn mynnu ei bod yn ddiogel i bob disgybl
- Cyhoeddwyd
Mae teulu bachgen sy'n dweud iddo gael ei fwlio'n hiliol wedi cyhuddo'r ysgol a'r cyngor lleol o fethu â delio â'r gamdriniaeth.
Mae'r mab yn dweud iddo dderbyn sylwadau hiliol yn ddyddiol yn Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst.
Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn dweud nad ydyn nhw'n goddef unrhyw hiliaeth na bwlio a bod yr ysgol yn amgylchedd diogel i bob disgybl.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dweud bod yr ysgol yn addas i'r bachgen a bod trefniadau wedi'u gwneud iddo barhau â'i addysg.
Dywedodd y bachgen wrth Newyddion S4C ei fod wedi derbyn sylwadau hiliol yn yr ysgol "bob dydd".
"Dwi'n gwybod bod yr athrawon wedi clywed o, achos does dim ffordd fyset ti ddim yn clywed o. Ond mae nhw'n dewis anwybyddu fo. 'Den nhw ddim yn delio 'efo fo, mae nhw'n actio fel bod o'n ok," meddai'r bachgen.
Mae Newyddion S4C wedi gweld negeseuon hiliol ar-lein y mae'r teulu'n dweud gafodd eu hanfon at y mab gan ddisgyblion eraill.
Dydy'r negeseuon ddim wedi eu rhannu gyda'r ysgol, medd y teulu, rhag ofn iddo ddod yn fwy o darged i rai plant.
Ofn ymosodiad
Ar ôl ymosodiad hiliol honedig yn yr ysgol mae'r teulu bellach yn ofni am ei ddiogelwch.
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n dweud eu bod wedi delio ag adroddiadau o negeseuon hiliol ar-lein ac ymosodiad hiliol honedig yn erbyn y bachgen.
"Alla' i ddim mynd allan, achos os 'di rhywun yn gweld fi, fyddan nhw'n ymosod arna fi. Mae'n rhaid i mi fod yn ofalus ble dwi'n mynd, felly dwi just yn aros yn tŷ," meddai'r bachgen.
Mae tad y bachgen yn honni nad ydy'r ysgol eisiau delio gyda'r mater.
"Dim ond un dioddefwr sydd yna. Os 'di o'n gadael, mae'r ysgol yn gallu esgus bod 'na ddim problem. Mae nhw'n gallu 'sgubo'r cyfan o dan y carped," meddai'r tad.
"Mae'n debyg mai dyna pam bod 'na ddim cofnodion achos os ydach chi'n ei logio fo, mae'n rhaid i chi wneud rhywbeth amdano fo. Mae'n rhaid i chi gyfaddef bod yna broblem."
"Dwi'n gallu deall mae'n anodd i'r ysgol. Os fysa fo'n one off, un neu ddau bad apples, ia, 'wrach. Ond pan 'dan ni'n mynd atyn nhw a dweud mae hwn yn digwydd bob diwrnod, mae nhw just ddim yn coelio ni."
Gweithredu gan yr ysgol
Ar ôl cwyn gan y tad yn gynharach eleni, gwrthododd panel cwynion corff llywodraethwyr yr ysgol bob mater, gan nodi bod yr ysgol wedi dilyn ei pholisïau a'i chanllawiau statudol "yn seiliedig ar y wybodaeth oedd ar gael ar y pryd".
Ond dywedodd llythyr ymateb y llywodraethwyr fod yna feysydd i'w "cryfhau" o ran gwrando ar lais y disgybl, ymwybyddiaeth staff ac adolygu arferion diogelu.
Dywedodd y corff llywodraethu wrth Newyddion S4C eu bod wedi dilyn eu polisi cwynion yn drylwyr ac yn gywir.
Yn ddiweddarach dywedodd yr ysgol wrth y teulu na allent reoli ymddygiad pob disgybl ym mhob lleoliad mewn amgylchedd ysgol brysur a bod yn rhaid iddynt ymchwilio i honiadau mewn modd teg a chytbwys.
Cafodd camau pellach eu cynnig i amddiffyn y bachgen, gan gynnwys mwy o fonitro, newid yr amserlen academaidd, darparu hafan ddiogel iddo a newid prosesau ymyrraeth staff.
Mae polisi gwrth-fwlio'r ysgol wedi'i ddiweddaru, meddai'r ysgol wrth y teulu, a byddai hyfforddiant pellach i staff a chynllun gweithredu gwrth-hiliaeth newydd ar gyfer yr ysgol i newid diwylliant.
Ond mae'r teulu'n dweud eu bod wedi colli ffydd yn yr ysgol.
Cyngor yn 'gwrthod siarad'
Dywedodd y tad fod ymateb Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod yn "warthus".
"Maen nhw wedi gwneud eu gorau i ynysu, cau unrhyw sgwrs i lawr ac anwybyddu pawb a phopeth."
"'Dan ni wedi teimlo ar ben ein hunain yn llwyr yn trio brwydro nhw dim ond i wrando ar beth mae plentyn bregus yn mynd trwyddo ac maen nhw wedi rhoi clust fyddar i'r holl beth."
"Dwi'n teimlo bod yna ddiwylliant o gadw'n dawel. Mewn rhai ffyrdd be' sy'n mynd i gymryd mwy o amser i ddod drosto ydy'r diffyg gweithredu ac amharodrwydd y cyngor i hyd yn oed gael sgwrs, yn fwy felly na'r niwed mae'r plant wedi'i wneud."

Mae Cyngor Conwy'n gwadu eu bod wedi anwybyddu pryderon y teulu
Mae'r tad yn dweud mai dim ond ar ôl i newyddiadurwyr gysylltu â nhw am yr honiadau y cafodd y teulu gynnig cyfarfod wyneb yn wyneb i drafod eu pryderon.
Mae'r cyngor bellach wedi cytuno i wneud trefniadau gwahanol ar gyfer y bachgen.
Ond mae'r tad yn dweud nad ydy o'n fodlon oherwydd bod yr ysgol a'r cyngor yn mynnu bod yr ysgol yn dal yn ddiogel i'w fab.
Mae'r teulu wedi bod yn cael cymorth gan fudiad Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru.
Yn ôl Leslie Critchlow-Hughes o'r mudiad, dydy pob ysgol ddim ddim yn llwyddo i ddelio'n effeithiol pan fo hiliaeth yn digwydd.

Mae Leslie Critchlow-Hughes o Dîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru yn dweud bod hiliaeth yn gyffredin yn ysgolion Cymru
"Dydyn nhw ddim yn hyderus wrth delio 'efo fo. Dydyn nhw ddim yn gwybod sut i fynd i'r afael â'r sefyllfa," meddai Mr Critchlow-Hughes.
"Maen nhw'n gwybod sut i adnabod rhagfarn anymwybodol a herio eu hunain. Ond mae adnabod rhywbeth yn wahanol i ddelio 'efo fo."
Ysgol ddiogel ac addas
Dywedodd datganiad ar ran yr ysgol a'i llywodraethwyr: "Nid yw Ysgol Dyffryn Conwy yn goddef hiliaeth, bwlio nac ymddygiad gwahaniaethol o unrhyw fath."
"Mae creu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a pharchus, lle mae pob plentyn yn teimlo'n ddiogel ac yn cael ei werthfawrogi, yn rhan greiddiol o'n hunaniaeth."
"Pryd bynnag y codir pryderon, cânt eu hystyried o ddifrif a'u trin yn unol â pholisïau'r ysgol, dyletswyddau statudol a chyfrifoldebau diogelu."
"Mae'r ysgol yn gweithio'n agos gyda disgyblion, teuluoedd, yr awdurdod lleol ac asiantaethau partner perthnasol i sicrhau bod cymorth priodol ar gael ac y caiff pryderon eu hystyried yn ofalus ac yn drylwyr."
"Rydym yn hyderus bod Ysgol Dyffryn Conwy yn amgylchedd dysgu diogel a chefnogol i bob disgybl."
Dywedodd yr ysgol ei bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb, cynwysoldeb a pharch ac y bydd yn parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol ac eraill i ymdrin â phryderon a helpu lles pob disgybl.
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ei fod yn ddrwg ganddo nad oedd y teulu'n fodlon â'r ffordd y cafodd eu pryderon eu trin.
"Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn goddef unrhyw fath o ymddygiad hiliol."
"Rydym yn disgwyl i bob ysgol fynd i'r afael â honiadau o hiliaeth, bwlio ac ymddygiad gwahaniaethol mewn modd priodol."
"Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa wedi bod yn un ofidus i'r person ifanc, ac wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r pryderon ar bob cam o'n hymdriniaeth â'r mater."
"Ein blaenoriaeth yw cefnogi lles, ymgysylltiad, cyfranogiad ac ymdeimlad o berthyn y person ifanc."
"Rydym wedi ymgysylltu â'r person ifanc, y teulu, yr ysgol a'r asiantaethau partner perthnasol, ac wedi gweithio ar ganfod a chynnig trefniadau cefnogi priodol."
"Am y rhesymau hyn, nid ydym yn derbyn yr awgrym ein bod wedi anwybyddu'r pryderon a godwyd gan y teulu."
"Rydym yn cadw at ein safbwynt bod Ysgol Dyffryn Conwy yn ysgol addas i'r person ifanc."
"Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi'r person ifanc, gweithio'n adeiladol gyda'r teulu a sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i alluogi'r person ifanc i barhau i gael addysg a chefnogaeth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.