Dau gerbron llys wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth yng Nghasnewydd

Cerbydau a swyddogion heddlu ar safle'r gwrthdrawiad yng Nghasnewydd ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi bod gerbron llys wedi'u cyhuddo o lofruddio dau ddyn yn eu harddegau mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd ar 7 Mai.
Roedd Jaydon Bowyer, 19, a Tashay Canoville, 16, ar feic modur pan wnaethon nhw wrthdaro â BMW ar Heol Aberddawan yn ardal Alway.
Yn ystod gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Casnewydd fe wnaeth Terrell Case, 18 a Joshua Williams, 34 gadarnhau eu henwau a'u dyddiad geni yn unig.
Dywedwyd wrth y ddau eu bod wedi'u cyhuddo o ddau gyfrif o lofruddiaeth ac maen nhw wedi'u cadw yn y ddalfa.
Bydd y ddau yn ymddangos ger bron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.
Roedd aelodau o deuluoedd y ddau fachgen yn y llys ar gyfer y gwrandawiad.
Cadarnhaodd Heddlu Gwent bod dwy fenyw, 24 a 40, o Gasnewydd, a gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio, wedi cael eu rhyddhau.