Dan Thomas: Cyn-arweinydd cyngor mewn grŵp mawr newydd yn y Senedd

Dan Thomas yn ymgyrchu ar Ebrill 16 ym Merthyr Tudful.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan Thomas wedi arwain ymgyrch Reform UK yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Dim ond tri mis yn ôl y daeth Dan Thomas i mewn i wleidyddiaeth rheng flaen Cymru, wedi'i ddewis gan Nigel Farage yn arweinydd Reform UK yng Nghymru.

Ond Reform UK bellach, o bell ffordd, yw'r wrthblaid fwyaf yn siambr newydd, estynedig y Senedd, gyda 34 sedd allan o'r 96.

Roedd arolygon barn wedi awgrymu'n gyson bod y blaid ar y trywydd i ennill nifer sylweddol o seddi ar 7 Mai, gyda Thomas yn dod i'r amlwg fel eu hymgeisydd am swydd y prif weinidog.

Yn gyflym iawn, daeth yn gynrychiolydd mwyaf amlwg Reform UK yng Nghymru, gan ymddangos yn rheolaidd mewn dadleuon a chyfweliadau teledu.

'Cyfleoedd yn brin'

Yn ei ymddangosiad cyntaf fel arweinydd Cymru - ochr yn ochr â Farage mewn rali Reform yng Nghasnewydd - pwysleisiodd Thomas ei wreiddiau yn Y Coed Duon, gan ddweud ei fod wedi'i "eni a fy magu yng nghymoedd Cymru, lle bu fy nheulu'n byw am genedlaethau".

Roedd ei daid a'i hen daid yn lowyr, meddai, a siaradodd yn gynnes am ei blentyndod yng Nghymru, gan egluro iddo adael fel oedolyn oherwydd bod cyfleoedd yn "brin".

Aeth Thomas ymlaen i weithio ym maes gwasanaethau ariannol yn Llundain cyn mynd i mewn i wleidyddiaeth leol, gan ddod yn gynghorydd ac yn ddiweddarach yn arweinydd Ceidwadol Cyngor Barnet yng ngogledd Llundain.

Nigel Farage a Dan Thomas yn sefyll ochr yn ochr yn dal copi o faniffesto Cymru Reform UK.Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nigel Farage yn dweud bod polisi yn cael ei osod gan Dan Thomas ac arweinyddiaeth Reform yng Nghymru

Yn ystod y cyfnod hwnnw, safodd ddwywaith fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Islwyn yn etholiadau cyffredinol 2010 a 2017, gan orffen yn ail i Chris Evans o Lafur ar y ddau achlysur.

Arweiniodd Gyngor Barnet o 2019 hyd at 2022 ac yna gwasanaethu fel arweinydd yr wrthblaid ar ôl i Lafur ennill rheolaeth, gan aros yn y rôl tan fis Mai 2024.

Ym mis Mehefin 2025, symudodd Thomas o'r Ceidwadwyr i blaid Reform ac ymddiswyddodd fel cynghorydd yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

Adroddodd y cyfryngau lleol ei fod ef a'i wraig wedi symud i ffwrdd o Barnet er mwyn iddynt allu magu eu meibion ​​ifanc yng nghefn gwlad a byw'n agosach at eu teulu yn ne Cymru.

'Rwy'n byw yng Nghymru'

Wrth esbonio ei ddewis o Mr Thomas fel arweinydd yng Nghymru, disgrifiodd Nigel Farage ef fel "gweddus", "parchus" ac "yn gyfarwydd â brwydro", gan nodi ei brofiad o redeg cyllidebau ac arwain cyngor.

Yn fuan roedd Dan Thomas yn brwydro yn erbyn rhannau o'r cyfryngau, gan ddiystyru adroddiadau nad oedd yn byw yng Nghymru fel "ymdrechion i dwyllo" gan y "sefydliad Cymreig a'u cefnogwyr".

Dywedodd fod eiddo yr oedd yn berchen arno ger Caerfaddon yn rhan o "bortffolio" ac nad oedd yn gartref iddo.

"Rwy'n byw ac wedi bod yn byw yng Nghymru," meddai wrth y BBC, gan ddatgan yn ddiweddarach ei fod wedi'i leoli ym mwrdeistref Caerffili.

Dan ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd sedd yn etholaeth Casnewydd Islwyn

Dywedodd hefyd fod yr heddlu wedi ymchwilio i "fygythiadau ar-lein cas" yn ei erbyn ef a'i deulu a bod "rhai pobl ryfedd wedi bod yn llechu y tu allan i'r tŷ".

Gan ragweld beirniadaeth y byddai'n cadw rheolaeth dros wneud penderfyniadau yng Nghymru, mynnodd Farage y byddai arweinyddiaeth Reform yng Nghymru yn gosod polisi, gan ychwanegu nad oedd yn "unben caled".

Wedi'i holi'n ddiweddarach am y posibilrwydd o gydweithio â'r Ceidwadwyr ar ôl yr etholiad, dywedodd Nigel Farage wrth y BBC mai Mr Thomas oedd "ein harweinydd yng Nghymru a bydd yn gwneud y penderfyniadau hynny", ond "mewn ymgynghoriad â mi".

Wrth i'r ymgyrch fynd rhagddi a chyhoeddi ymgeiswyr y blaid, symudodd Mr Thomas i bellhau ei hun oddi wrth rai o'u sylwadau, gan gynnwys honiadau y byddai cam-drin mewn meithrinfeydd yn "codi'n sydyn" pe bai rhieni'n derbyn mwy o ofal plant am ddim.

Er gwaethaf ei gyfnod byr o fewn gwleidyddiaeth Cymru, cynhaliodd amserlen ddwys o ymddangosiadau teledu yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Mae wedi ceisio cyflwyno ei hun fel rhywun ymarferol, profiadol, gan amlygu ei record o reoli cyllidebau mawr yng Nghyngor Barnet yn Llundain, gan gyferbynnu ei gefndir â chefndir arweinydd Plaid Cymru, a'i wrthwynebydd yn yr arolygon barn, Rhun ap Iorwerth, cyn-newyddiadurwr i'r BBC.

I wleidydd sy'n newydd i wleidyddiaeth rheng flaen Cymru, mae wedi gorfod dysgu'n gyflym a hynny'n gyhoeddus i raddau helaeth.

Ar ôl dathlu'r cynnydd rhyfeddol o ran Reform yn etholiad y Senedd, nawr daw'r dasg ddifrifol o sefydlu grŵp disgybledig sydd ymhell o'r grŵp UKIP hwnnw ddegawd yn ôl.

Pynciau cysylltiedig