News imageY Coridor Ansicrwydd, Dylan Lawlor a chanlyniadau Cymru

Y Coridor Ansicrwydd

Dylan Lawlor a chanlyniadau Cymru

7 October 2026

Available for 363 days

Mae Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yn cael cwmni amddiffynnwr ifanc Caerdydd a Chymru Dylan Lawlor, ychydig funudau ar ôl iddo gamu oddi ar y cae ymarfer. Mae Lawlor yn ysu i gychwyn y tymor oddi ddifri ar ôl i anaf i'w ben-glin olygu mai dim ond wyth munud o bêl-droed mae o wedi ei flasu - a hynny ym muddugoliaeth gyntaf Caerdydd o'r tymor yn erbyn Charlton. Mae o hefyd yn ysu i gael y cyfle i brofi ei hun yn ebryn Erling Halaand a Cristiano Ronaldo fis nesaf.

Chafodd ddim y cyfle i wneud hynny mis yma oherwydd ei anaf, wrth i Gymru chwarae pedair gêm anodd iawn yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Daeth y cyfnod heriol i ben wrth golli o gôl i ddim yn erbyn Denmarc, ond cyn hynny, codwyd calonnau pawb gyda'r fuddugoliaeth nodedig yn erbyn Norwy. Felly, beth ydan ni a Chymru wedi ei ddysgu o'r gemau yma..?