
Lleisiau Cymru
Meddwl yn Wahanol gyda Bethan Richards
Cyfres 2, Pennod 1 : Paul Davies
Available for over a year
Yr actor a pherfformiwr Paul Davies yw gwestai Bethan Richards. Wedi ei eni gyda dim ond un o'i ddwylo, mae agwedd Paul tuag at ei wahaniaeth corfforol wedi newid droeon dros y blynyddoedd, ac yma mae'n esbonio sut y dysgodd i dderbyn ei hun a bod yn hyderus yn ei hunaniaeth.
Cafodd ei fagu yn y Rhondda gan fwynhau profiadau cadarnhaol o fewn y gymuned glos. Tra yn ddisgybl ysgol defnyddiodd hiwmor a pherfformio i ymdopi gyda'i anabledd, arweiniodd hyn at yrfa o gyflwyno a pherfformio gan gynnwys cyfnod yn gweithio fel 'cot goch' mewn gwersyll gwyliau. Yno roedd yn ymfalchïo yn ei anabledd gan hyd yn oed defnyddio ei fraich fel cymeriad 'stumpy' sy'n lys enw arno. Trafodai hefyd ei yrfa ehangach, gan gynnwys ei waith ar y llwyfan, ei brofiad o gystadlaethau fel Mr Gay Wales a Mr Gay Universe, a’i rôl fel model a llais dros gynhwysiant. Ond er y positifrwydd sydd ganddo nawr, mae'n esbonio iddo ddioddef cyfnodau tywyll iawn a bod colled a galar wedi cael effaith dwys ar ei iechyd meddwl. Mae wedi teimlo pwysau ar adegau i “ymddangos yn abl” a soniai am y blinder a ddaw yn sgil esbonio ei anabledd i eraill yn gyson. Pwysigrwydd cymuned a dychwelyd i Gymru gododd Paul o'i iselder ac mae’n pwysleisio bod chwilio am gefnogaeth a bod yn agored yn gam pwysig mewn adferiad.
