'Chwilfrydedd chwareus' artist sydd wedi ei dylanwadu gan y ffin

Mair HughesFfynhonnell y llun, Mair Hughes
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Dydy Mair Hughes ddim yn artist sy'n canolbwyntio ar un cyfrwng nac un disgyblaeth, ac mae wrth ei bodd yn gadael i syniadau esblygu, heb wybod beth fydd y canlyniad.

Yn wreiddiol o'r Drenewydd, mae hi'n chwilfrydig am y byd, ei hunaniaeth, a sut y gall un syniad bach ddatblygu i fod yn ddarn mawr o gelf.

Perffeithrwydd dros dro

Gweithiau mawr o gelf a cherfluniau yw arbenigedd Mair, ond o fewn hynny, mae hi'n gweithio gydag amrywiaeth o gyfryngau, fel tecstiliau, serameg a ffotograffiaeth.

Ond chwilfrydedd sy'n llywio ei darnau, meddai, a'r awydd i fod ychydig yn 'chwareus' gyda'r gwaith.

Enghraifft berffaith o hynny yw ei darn Dome, a ddechreuodd pan y cafodd yr awydd "rhyfedd" i roi pinau mewn ŵy, meddai.

"'Nes i sylweddoli fod 'na foment lle'r oedd am edrych yn ddiddorol, cyn syrthio'n ddarnau.

"Roedd o'n swrreal ac eto'n berffaith, ond roeddet ti'n gwybod fod o ddim am bara'n hir. Achos yr eiliad 'nes i roi'r pinnau mewn, roedd perffeithrwydd y melynwy yn newid, ac yn y diwedd, ar ôl ychydig o funudau, roedd y strwythur yn dymchwel.

DomeFfynhonnell y llun, Mair Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Dome - Roedd rhoi pinnau yn yr ŵy yn teimlo'n 'ddrwg' i Mair rhyw ffordd, meddai. Dim ond ar ôl gwneud y sylweddolodd ei fod yn edrych yn debyg i'r Millennium Dome!

"Mae'r llun yn ei rewi mewn amser. Dwi ddim yn siŵr os mai'r gwaith terfynol oedd y gwrthrych ei hun neu'r ffotograff ohono.

"Dwi wedi arbrofi lot efo gweithiau dwi wedi eu creu sydd ddim am bara'n hir. 'Nes i unwaith bostio 50 melynwy wedi eu gorchuddio â chwyr at oriel yn Berlin er mwyn eu harddangos. Dwi'm yn meddwl y byddan nhw wedi para'n hir! Dwi'n hoffi chwarae o gwmpas.

"Dwi ddim yn meddwl mod i'n aml yn dechrau darn yn meddwl mod i eisiau cyfleu rhywbeth penodol. Chwilfrydedd ydy'r man cychwyn. Dwi wedi gwneud cannoedd o bethau sydd ella ddim wedi troi allan mor ddiddorol ag o'n i wedi meddwl. Wedyn ti'n gwneud mwy o arbrofi ac mae'n dod allan yn grêt.

"'Naeth hwn jyst tyfu a datblygu. O'n i wedi dechrau drwy greu sbesimen o'r ŵy gyda phinnau, fel maen nhw'n ei wneud gyda phili pala mewn amgueddfa. Ond wedyn oedd o hefyd yn edrych fel y Millennum Dome, felly newidiodd o i fod yn rhywbeth arall."

Deuoliaeth y ffin

Mae hanes ac ymchwil hefyd yn chwarae rhan fawr yng ngwaith Mair, ochr-yn-ochr â'i chwilfrydedd.

Ysbrydolodd eitem mewn amgueddfa – corn carw cynhanesyddol oedd wedi cael ei ddefnyddio i gloddio – gasgliad o wrthrychau bach ac offer archeolegol o serameg, lledr a phaent.

EarthscapeFfynhonnell y llun, Mair Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Earthscape - Ail-greodd Mair y corn a welodd mewn amgueddfa, allan o borslen, a chreiriau eraill a allai gael eu canfod gan archeolegwyr, fel arwydd o ddynoliaeth

Mae ei gwaith diweddaraf yn sicr wedi bod yn destun llawer iawn o ymchwil ganddi, wrth iddi edrych ar ei phrofiadau yn tyfu i fyny ar y ffin ar gyfer y darn A Field Guide to the Offa's Dyke.

"Mae'n edrych ar brofiadau anwastad hunaniaeth Gymreig-Saesnig, drwy edrych ar y clawdd hynafol fel ffin bersonol, ynghyd ag un hanesyddol.

"Mae'r Clawdd dal i'w weld, ac mae'n cysgodi'r ffin bresennol mewn ffordd ddiddorol. Mae'n teimlo fel lle ble y galli di feddwl am hunaniaeth ddeuol a sut mae un yn cael effaith ar y llall.

"Ti'n methu cael syniad o'i faint o luniau, felly rhaid i ti fynd i'w gerdded. Es i i grwydro, ac mae'n mynd drwy leoedd anhygoel.

"Dydy o ddim yn llinell syth, ti'n croesi nôl ac ymlaen, ac mae hynny'n teimlo fel fi achos dwi'n hanner Cymraes, hanner Saesnes. Mae'n teimlo reit bersonol.

A Field Guide to the Offa’s Dyke Ffynhonnell y llun, Mair Hughes
Disgrifiad o’r llun,

A Field Guide to the Offa's Dyke a ymddangosodd mewn arddangosfa yn Galway, Iwerddon yn 2025, o'r enw The Borderlands/Y Gororau, lle y cafodd gydweithio gyda dwy artist arall o Gymru sydd â hunaniaeth ddeuol, Emily Joy and Durre Shahwar

"'Nes i ddechrau ymchwilio a mynd i'r safleoedd oedd yn siarad gyda fi. Dyna ysbrydolodd y darn sy'n cynnwys llawer o elfennau gwahanol; y siâp anwastad 'ma sy'n uwch un ochr, strwythur tebyg i babell tal. Mae'n debyg i gysgodfan ar un ochr, a chraig fawr yr ochr arall."

Yn y 'babell' mae blanced, sydd â geiriau wedi ei bwytho ynddi, sydd wedi ei ysbrydoli gan waith ymchwil Mair.

"Ddes i ar draws adeilad ger y Drenewydd lle'r oedd fy nghyndeidiau yn ffermio yn yr 1920au, gydag arysgrif mewn Saesneg arno - Not we from kings, But from us kings.

"Ro'n i'n chwilfrydig pam fyddai gan ffermdy ar y ffin y slogan yna arno. Dwi ddim yn siŵr os mai rhywbeth brenhinol neu wrth-frenhinol oedd o.

"Ac roedd gen i ddiddordeb yn y ffaith ei fod o ddim yn Gymraeg; efallai bod y teulu ddim yn siarad Cymraeg, neu falle fod y neges i fod i bobl Lloegr?

Mair ar Glawdd OffaFfynhonnell y llun, Mair Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mair wedi treulio llawer o'i hamser yn crwydro Clawdd Offa ar gyfer ei gwaith diweddaraf, ac yn gobeithio parhau â'i hymchwil

"'Nes i bwytho addasiad o'r slogan yn Gymraeg ar flanced a'i newid i: 'Nid oddi wrth frenhinoedd, Na brenhinoedd oddi wrthym ni' - sy'n fwy amwys.

"Ac o'n i'n meddwl am ochr deuluol fy mam; fy nain oedd yn byw yn y ffermdy, ac roedd ganddi saith chwaer. Felly mae ochr ffeministaidd hefyd.

"Mae 'na lawer o ffyrdd i'w ddehongli, a dyna dwi'n ei hoffi."

Syniadau yn 'ffrwtian'

Ar y cyfan, mae llawer o hap a damwain ynghlwm â gwaith Mair, meddai, ac ar ôl iddi gael y sbardun cyntaf, mae'n anodd gwybod i ba gyfeiriad fydd y gwaith yn mynd â hi.

"Gyda llawer o bethau, dwi'n taflu pethau at ei gilydd sydd wedi bod yn ffrwtian yn fy mhen. Mae 'na gyfnod ymchwilio yn aml, ond mae'n benagored iawn a bydd yr ymchwil yn dod allan mewn ffyrdd gwahanol.

"Ac alli di ddim rhoi popeth mewn achos 'sa fo'n ormod. Mae 'na rannau bach yn aros efo ti am ryw reswm neu'i gilydd, a ti'n tynnu popeth at ei gilydd; dwi'n mwynhau'r rhan yna.

Reactive RedFfynhonnell y llun, Mair Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Reactive Red - Darn a oedd yn edrych ar ddau o ddiwydiannau traddodiadol ardal Stroud, cartref Mair bellach - lliwio defnydd yn goch ar gyfer y fyddin, a chloddio chwareli

"Dwi'n meddwl fod y gynulleidfa yn gallu gweld pethau gwahanol mewn darn, a dwi ddim yn meindio hynny achos mae'n anodd i rywun wybod popeth oedd artist yn meddwl amdano. Dwi eisiau i bobl gymryd eu dehongliad eu hunain ohono fo."

Mae Mair nawr yn bwriadu parhau i ymchwilio i a chynhyrchu gwaith yn ymwneud â Chlawdd Offa, ac yn gobeithio cydweithio ag artistiaid ac arbenigwyr eraill, fel haneswyr ac archeolegwyr er mwyn bwydo safbwyntiau eraill i mewn i'w gwaith.

Ond mae'n agored i beth bynnag fydd yn mynd â'i bryd:

"Mae'n siŵr fydd gen i ambell i brosiect arall yn mynd ymlaen hefyd, achos ti byth cweit yn siŵr o lle mae'r peth nesaf mae gen ti ddiddordeb ynddo fo am ddod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig