Cofnodi diwrnod poethaf Mai erioed wrth gyrraedd 32.9C

- Cyhoeddwyd
Dydd Mawrth ydy'r diwrnod poethaf ar gofnod ar gyfer mis Mai, gyda record newydd am yr ail ddiwrnod yn olynol.
Cafodd tymheredd o 32.9C ei gofnodi ym Mharc Bute yng Nghaerdydd, y diwrnod cynhesaf hyd yma eleni.
Mae'r tymheredd yn uwch na'r record flaenorol a gafodd ei gofnodi ddydd Llun ym Maes Awyr Penarlâg, Sir y Fflint.
Roedd hi'n boethach fyth yn ne Lloegr, ble roedd record newydd ar gyfer mis Mai o 35.1C yn Llundain.
Rhybudd i gymryd gofal
Er yn cael ei groesawu gan lawer, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi atgoffa pobl o'r trafferthion y mae'r tywydd poeth yn gallu eu hachosi i blant ifanc a phobl hŷn.
Mae'r Athro Sarah Jones o ICC wedi annog pobl i "edrych ar ôl eich ffrindiau, cymdogion ac aelodau'r teulu i sicrhau eu bod yn yfed digon o ddŵr".
"Pan rydych chi tu allan, manteisiwch ar y cysgod, gwisgwch ddillad golau ac ysgafn, ac eli haul, ac ewch â dŵr gyda chi."
Ychwanegodd bod dŵr agored yn gallu bod yn atyniadol yn y gwres, ond rhybuddiodd bod llefydd fel llynnoedd, afonydd a chronfeydd yn gallu bod yn beryglus.

Er bod y tywydd yn boeth, mae dŵr oer yn gallu achosi trafferthion i bobl, meddai Sam Trevor
Dywedodd Sam Trevor o wasanaeth achub bywydau'r RNLI yng Ngheredigion mai pobl mewn cychod bychain neu ar badlfyrddau "sydd fel arfer yn cadw ni'n fishi".
Ond roedd yn awyddus i bwysleisio bod sioc o'r dŵr oer yn gallu bod yn beryglus hefyd.
"Er mae'r tywydd yn boeth mae'r dŵr dal yn cynhesu, felly os yw pobl yn syrthio mewn i'r dŵr yn annisgwyl neu'n neidio mewn i'r dŵr mae dal yn oer a'n gallu achosi chi golli anadl."
"Cyngor RNLI yw arnofio i fyw - pwyswch eich pen nôl fel bod eich clustiau yn y dŵr, ymlaciwch fel bod eich anadl yn dod nôl i normal, symudwch eich breichiau a choesau. Unwaith mae eich anadl wedi dod nôl i normal gallwch chi alw am help neu nofio i rywle diogel."

Roedd Emma Phillips yn manteisio ar y cysgod ar faes yr Eisteddfod
Ar faes Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn, bod yn barod ar gyfer yr amodau oedd y peth pwysicaf i lawer.
Roedd Emma Phillips o Gaernarfon ar y maes gyda'i phlant, Greta a Gwilym.
"'Da ni wedi paratoi yn dda cyn dod - rhoi dŵr yn yr oergell a ffan a chapiau 'efo ni ac mae 'na ddigon o gysgod yma.
"'Da ni'n eistedd yn y cysgod yn fa'ma. Mae Greta, yr hyna' wedi cwyno fwy na mae Gwilym y fenga' wedi neud.
"Dwi'n trio'i chadw hi'n hapus efo fferins."

Am gyfnodau byr yn unig mae Carwyn Lewis a'r teulu wedi bod yn yr haul
Dywedodd Carwyn Lewis a'r teulu, oedd wedi teithio o Abergele: "'Ni wedi rhoi haen o eli haul arno yn barod, ni wedi rhoi sawl litr o ddŵr yn y pram.
"Ni wedi ffindo patch o gysgod a trio cael cyfnodau byr a chyson yn yr haul."
Paratoi ddigon o flaen llaw oedd y gyfrinach, meddai: "Cyfnode byr, digon o eli haul a dŵr a digon o snacs."

Mae gweithio mewn adeilad fel Caffi Cletwr yn heriol yn y gwres, meddai rheolwr y gegin
Yng nghaffi a siop Cletwr yn Nhre'r Ddol, Ceredigion, mae'r ffaith bod yr adeilad yn un ecogyfeillgar sydd wedi'i hinswleiddio yn dda yn creu anawsterau mewn tywydd poeth.
Dywedodd rheolwr y gegin, Robbie Taylor, bod staff yn aml yn gweithio mewn tymereddau dros 30C, a hyd at 40C ar adegau.
"Mae'n dechrau yn syth wrth gerdded i mewn - chi'n teimlo'n gwres ac mae'n codi a chodi", meddai.
"Draw yn y gornel wrth y griliau mae'n mynd dros 40 ar rai adegau."
Dywedodd bod staff yn gweithio am gyfnodau byr ar y tro, "yn edrych ar ôl ein gilydd ac yfed, yfed, yfed" er mwyn ymdopi.

Dywedodd Taylor Roberts fod y siop wedi bod yn "brysur iawn" dros y dyddiau diwethaf
Yn Y Bala hefyd, roedd llawer yn manteisio ar y tywydd poeth wrth ymlacio ger Llyn Tegid neu chwilio am ffyrdd o gadw'n oer.
Dywedodd Taylor Roberts, sy'n 16 oed ac yn gweithio yn siop Aran Hufen Iâ, fod cwsmeriaid yn dod i mewn "i gael hufen iâ ac am yr air con achos mae o'n neis ac yn cool".
Ychwanegodd fod y siop wedi bod yn "brysur iawn" dros y dyddiau diwethaf gyda "channoedd o bobl" yn galw heibio.
"Ma' hi 'di bod yn mayhem yma, ond mae'n dda - dwi'n hoffi bod yn brysur a gwneud pethau, mae'n hwyl," meddai.

"Mae'n braf cael dod draw i'r Bala heddiw a mwynhau'r haul," yn ôl Eva Parry
Wrth Lyn Tegid dywedodd Eva Parry sy'n 17 oed ac o Ddinbych, ei bod wedi manteisio ar y tywydd i dorheulo ac i fynd i'r dŵr.
"Roeddwn i'n y gwaith ddoe ac roedd hi'n hollol boiling, felly mae'n braf cael dod draw i'r Bala heddiw a mwynhau'r haul," meddai.

"Dwi'n gobeithio am y math yma o dywydd drwy'r haf!" medd Jessica Allen
Dywedodd Jessica Allen, 21 oed o'r Wyddgrug, ei bod wedi treulio'r penwythnos yn gweithio mewn tafarn brysur cyn dod i'r Bala ar ei diwrnod i ffwrdd o'r gwaith.
"Heddiw roedd gen i ddiwrnod off gwaith, felly roeddwn i fel: 'Ni'n mynd i'r Bala i fynd i'r dŵr a thorheulo drwy'r dydd'," meddai.
Ychwanegodd fod y dŵr yn "eithaf oer" ar y dechrau, ond bod y gwres yn gwneud y profiad yn fwy pleserus.
"Dwi'n gobeithio am y math yma o dywydd drwy'r haf!"

Roedd "lolipops iâ melon" ar y fwydlen i foch yr Animalarium yn ystod y tywydd poeth
Yn Animalarium Y Borth, dywedodd y perchennog Tracy Tweedy bod staff wedi bod yn gwneud "lolipops iâ melon" i helpu'r moch ymdopi â'r gwres.
Dywedodd fod y lolipops yn cael eu gwneud drwy "falu'r melon a'i roi yn y rhewgell".
"Bydd e siŵr o fod ddim yn cymryd yn hir iddyn nhw ei fwyta!
"Mae'r moch wrth eu bodd â'r lolipops," meddai.
Ychwanegodd fod rhai anifeiliaid yn cael mwy o drafferth nag eraill yn y tymheredd uchel, gyda chwningod a moch cwta ymhlith y rhai mwyaf bregus.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.