Michael Ball: 'Y profiad gorau dwi erioed wedi ei gael'

Amy Wadge a Michael Ball yn perfformio yng nghapel Union yn LlundainFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Amy Wadge a Michael Ball yn perfformio yng nghapel Union yn Llundain

GanAngharad Rhys
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae gan y cerddorion Michael Ball ac Amy Wadge sawl peth yn gyffredin gan gynnwys gwreiddiau Cymreig a dawn cerddorol.

Mae'r ddau yn enwau mawr yn y byd cerddoriaeth ond pan gyfarfu nhw cyn y cyfnod clo ar raglen radio Michael Ball, nid oedd y cyflwynydd yn dychmygu y byddai'n ysgrifennu albwm gyda'r cerddor mae e nawr yn ei alw'n 'ffrind gorau', Amy Wadge.

Mae'r canwr yn rhyddhau albym newydd o'r enw Glow gyda'r gantores o Bontypridd a bu'n trafod eu perthynas ar Radio Wales Breakfast.

Meddai'r canwr, sydd â gwreiddiau teuluol yn ardal Aberpennar: "Mae'r albwm amdana i ac mae wedi ei ysgrifennu gyda merch o Bonty.

"Mae hi'n dod o dros y ffin ond yn byw ym Mhonty nawr.

"Dwi wedi ysgrifennu gyda Amy, fy ffrind gorau, o'r blaen ac wedi rhyddhau caneuon gyda hi ar sawl albwm.

"Ond dydyn ni ddim wedi gwneud albwm cyfan fel hyn o'r blaen. Dywedodd hi 'Drycha, beth am i ni gymryd amser i ffwrdd a chreu corff o waith sy'n dod oddi wrtha ti?'

"Dyma'r profiad gorau dwi erioed wedi ei gael mewn stiwdio. Y creadigrwydd, gan gychwyn gyda thudalen wag a rhai syniadau a gadael i dy ddychymyg fynd a ti i ble bynnag ti eisiau gyda rhywun ti'n chwerthin gyda mwy na unrhyw un arall. Rhywun sy'n dy ddeall di ac yn crïo gyda thi hefyd.

"Ac yna i recordio'r caneuon a'u rhyddhau nhw i'r byd."

Michael Ball yn perfformio mewn cyngerdd i ddathlu sioe gerdd Les Misérables Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Michael Ball yn perfformio mewn cyngerdd i ddathlu sioe gerdd Les Misérables

Bydd y canwr, sy' wedi serennu mewn sawl sioe gerdd gan gynnwys Les Misérables dros y blynyddoedd, yn canu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni.

Meddai Michael am gyfarfod cyntaf y ddau: "Daeth Amy ar fy sioe ar Radio 2 ac o'n i'n meddwl bod hi'n wych.

"Ar ddiwedd y cyfweliad gofynodd hi os ydw i'n ysgrifennu caneuon.

"Dywedais i, 'Dwi'n caru ysgrifennu caneuon ac mi fyddwn i'n caru ysgrifennu gyda ti.' Ac mi rhoddodd ei rhif i fi a dweud, 'Awn ni amdani'.

"Mae hi erbyn hyn yn rhan mawr o fywyd fy nheulu a dwi'n rhan o fywyd ei theulu hi. Dwi'n edmygu ei chreadigrwydd a'i charedigrwydd a'i chefnogaeth."

Mae gwreiddiau Cymreig gan y ddau ac yn ôl Michael: "Mae hiraeth yn rhedeg trwyddaf i.

"Dwi'n caru fy nhreftadaeth Cymreig, mae'n dylanwadu cymaint arna'i - y gerddoriaeth sy'n llifo allan o'r wlad. Ac mae Amy yn teimlo yr un peth.

"Mae hi'n dod o Fryste felly yn swyddogol ni'n Wenglish, ond os oes rhyfel neu rygbi, rydyn ni'n Gymreig."

Mae gan Michael feddwl uchel o gynulleidfaoedd pan mae'n perfformio yng Nghymru, meddai: "Mae'r cynulleidfaoedd yn barod am ddawns ond maen nhw hefyd yn gwrando.

"Os dwi'n perfformio Empty chairs at empty tables o Les Misérables mae 'na dawelwch achos maen nhw'n gwrando arno.

"Maen nhw'n gwerthfawrogi cerddoriaeth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb