Cymuned yn cynnal taith goffa i ddyn 18 oed fu farw yng Ngorseinon

Daeth dwsinau o bobl ynghyd ar feiciau modur, ceir a beiciau ar gyfer y daith goffa yng Ngorseinon
- Cyhoeddwyd
Daeth dwsinau o bobl ar feiciau modur, ceir a beiciau at ei gilydd yng Ngorseinon ddydd Sul i gofio Ceiran Evans, dyn 18 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn gynharach y mis hwn.
Mae dyn 18 oed wedi'i gyhuddo o'i lofruddio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic ar Ffordd Pen Cae Crwn ar 9 Gorffennaf.
Dywedodd teulu Ceiran eu bod wedi trefnu'r daith er mwyn "cofio ei fywyd" a dathlu "ei gariad at feiciau a cherbydau".
Ychwanegodd ei fodryb eu bod wedi'u "syfrdanu" gan y gefnogaeth, a'r nifer a ddaeth i'r digwyddiad.

Mae blodau, balwnau a negeseuon wedi'u gadael ar wal ger safle'r gwrthdrawiad
Roedd tua 100 o gerbydau yn rhan o'r daith o amgylch Gorseinon, a aeth heibio cartref Ceiran a safle'r gwrthdrawiad.
Cafodd balwnau, baneri a lluniau o Ceiran eu gosod y tu allan i'w gartref, gan gynnwys teyrngedau i'w lysenw o'i blentyndod y mae llawer o'i ffrindiau'n eu defnyddio, Fatboy.
Mae blodau, balwnau a negeseuon fel "Forever 18" a "Fly High" hefyd wedi'u gadael ger safle'r gwrthdrawiad.

Dywedodd Becky Arnold-Jones fod y teulu wedi'u "syfrdanu" gan y gefnogaeth
Dywedodd Becky Arnold-Jones, modryb Ceiran, fod y teulu am roi cyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd gan fod y digwyddiad wedi "effeithio ar bobl ledled Gorseinon".
"Rydyn ni wedi syfrdanu gan bawb sydd wedi gwneud yr ymdrech i ddod," meddai.
Ychwanegodd ei bod hi am i bobl gofio Ceiran fel rhywun oedd yn caru bywyd ac yn "caru beiciau ers pan oedd yn blentyn bach".
"Roedd yn caru bywyd ac roedd e'n fachgen da a dw i eisiau i bawb ei gofio am hynny a dim byd arall, oherwydd dyna mae e'n ei haeddu," ychwanegodd.

Mae dyn 19 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae Tyler Ford, 18, wedi'i gyhuddo o lofruddio a cheisio llofruddio, ac mae disgwyl iddo sefyll ei brawf ym mis Ionawr.
Mae pedwar dyn arall a gafodd eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Teyrnged Gorseinon: Cofio ei 'natur gariadus a'i wên hardd'
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Pencampwr cicfocsio yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio dyn, 18
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Cyhuddo dyn, 18, o lofruddio wedi marwolaeth Gorseinon
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.