Pwysigrwydd carreg las Sir Benfro yn ddim byd ond stori, medd daearegwr

Cromlech Pentre Ifan yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae 'Eisteddfod y Garreg Las' yn agosáu, wedi ei henwi ar ôl y garreg sydd mor amlwg yn ardal Sir Benfro a dalgylch y Brifwyl.
Ond pa mor arbennig yw'r garreg mewn gwirionedd?
Mae Brian John yn ddaearegwr o'r ardal, sydd wedi bod yn ymchwilio daeareg a hanes y Preseli ers degawdau, ac wedi cyhoeddi llawer am y cerrig glas.
Mae o o'r farn fod y garreg ychydig llai arwyddocaol yn ein hanes nag efallai oedden ni'n ei gredu...
O'r Preseli i Gôr y Cewri?
Amser maith yn ôl, cloddiodd ein cyndeidiau arwrol 80 maen hir enfawr o garreg arbennig o fan cysegredig ym Mhreseli, a'u cludo i Gôr y Cewri (Stonehenge), i gael eu defnyddio yn un o ryfeddodau megalithig y byd.
Dyna'r stori rydyn ni i gyd yn ei gwybod ac yn ei charu.
Ond yw hi'n fwy na dim ond stori? Ydy hi'n cael ei chefnogi gan gofnodion hanesyddol go iawn neu dystiolaeth gwyddonol dibynadwy?
Yn anffodus, yr ateb i'r ddau gwestiwn yw 'na'.

Mae sôn fod rhannau o Gôr y Cewri yn Wiltshire wedi ei adeiladu tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl
Yn gyntaf, does gan y term 'carreg las' ddim ystyr daearegol.
Mae'r term wedi cael ei ddefnyddio ers tua canrif i ddisgrifio amrywiaeth o fwy na 30 math gwahanol o garreg nad yw'n glogfaen (non-sarsen), sydd wedi eu canfod yng Nghôr y Cewri, yn feini hir, meini sydd wedi syrthio, rhai sydd wedi eu claddu, a darnau bach yn y pridd.
Mae'r rhan fwyaf - ond nid pob un - o'r mathau yma o gerrig, gan gynnwys nifer o fathau o ddolrit brith (spotted dolerite), lafa folcanig a lludw, i'w canfod ym Mynydd Preseli.
Dydy'r rhan fwyaf o 'gerrig glas' ddim hyd yn oed yn las.
Mewn hen hanes, does yna ddim tystiolaeth o gwbl fod yr un o'r mathau yma o gerrig yn cael eu hystyried yn arbennig neu'n gysegredig. Byddai cromlechi a chylchoedd cerrig yn cael creu o'r cerrig oedd yn digwydd bod gerllaw.
Yng Nghôr y Cewri, mae'r rhan fwyaf o'r 43 monolith carreg las yn edrych fel (ac yn debygol o fod yn) meini crwydr (erratic) rhewlifol, sydd wedi eu tolcio yn ystod eu taith hirbell.
'Tir llawn dirgelwch a swyn?'
Oedd Mynydd Preseli yn lle cysegredig, oedd yn cael ei barchu gan drigolion gorllewin Cymru yn Oes y Cerrig? Na, mae'n debyg.
Mae'r label "land of mystery and enchantment" yn ddyfeisiad modern gan y Parch. Done Bushell o tua 1911.
Roedd yn credu – yn anghywir – fod gan yr ardal ar ochr ddeheuol y Preseli fwy o strwythurau cysegredig nag unrhyw ran arall o orllewin Cymru, ac hefyd wedi cyfeirio at yr ardal fel "San Steffan cyn-hanesyddol". Pictiwrésg ond annibynadwy.
Yn y Mabinogion, does yna ddim cyfeiriad at y Preseli fel lle arbennig neu hudolus. Ac yn ei ysgrifau ffantastig am y Brenin Arthur, doedd Sieffre o Fynwy ddim yn gwahaniaethu rhwng y clogfeini a'r cerrig glas yng Nghôr y Cewri, ac roedd e'n awgrymu fod yr heneb wedi cael ei gludo drwy hud a lledrith draw o Iwerddon, nid o Gymru.
Cafodd y stori am bobl yn cludo'r cerrig glas ei dyfeisio gan y daearegwr Herbert Thomas tua 1920, mewn cyfnod lle'r oedd y genedl yn gwella o drawma y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd angen stori dda oedd yn pwysleisio gwareiddiad a sgiliau technegol ein cyndeidiau arwrol, a dyma beth roddodd Thomas, gan anwybyddu protestiadau ei gyd-ddaearegwyr a oedd o'r gred fod y cerrig glas wedi cael eu cludo gan rewlif.

Mae 12 o feini glas bro'r Preseli wedi eu defnyddio i wneud Cylch yr Orsedd parhaol ger y Maes yn Llantwd, i gofio am ymweliad y Brifwyl â'r ardal
Roedd pobl wrth eu boddau â'r stori, a neidiodd archeolegwyr arni'n syth, a'i chynnwys yn strategaeth addysgiadol a marchnata Côr y Cewri.
Yn eironig, cafodd ei droi'n arf yn syth bin, a hynny ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn ystod 'Brwydr Preseli', pan fuodd y gymuned leol yn gwrthwynebu syniad y Swyddfa Ryfel i neilltuo y rhan fwyaf o Fynydd Preseli ar gyfer ardal hyfforddi a saethu milwrol.
Y ddadl – dactegol – gan wleidyddion ac arweinwyr crefyddol dylanwadol oedd fod y Preseli yn un o ganolfannau cysegredig pwysicaf diwylliant Cymru, ac y byddai'n amharchus i droi'r rhostir gwyllt yn lleoliad oedd yn ymwneud â rhyfela.
Cafodd cysylltiad y cerrig glas gyda Chôr y Cewri ei gynnwys yn y ddadl. Ciliodd y llywodraeth, ac roedd y frwydr wedi ei hennill.
O edrych yn ôl, roedd dynodi Preseli fel lleoliad hanesyddol crefyddol a chyfriniol yn ddwli, ond mae popeth yn deg mewn rhyfel a chariad, fel maen nhw'n ei ddweud!
'Lle gwyllt a gwych'
Beth am i ni beidio twyllo ein hunain? Does gan y stori gymhleth a rhyfeddol a gafodd ei datblygu gan archeolegwyr a daearegwyr yn y blynyddoedd diweddar, ddim sail cynhanesyddol.
Mae'n chwedl fodern a gafodd ei chreu dim ond rhyw 100 mlynedd yn ôl, sydd heb gefnogaeth wyddonol, ac sy'n cael ei hyrwyddo'n bennaf am resymau marchnata.

Mae cofeb i Waldo Williams, y bardd oedd mor hoff o ardal y Preseli, ger cartref ei blentyndod, Mynachlog-ddu, ar y bryniau carregog
Yn 1952, daeth yr ucheldiroedd yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i'w diogelu ar gyfer y genedl am genedlaethau i ddod.
Mae'r cerrig glas amrywiol dal yno, i'w gweld ym moelydd caregog Carn Meini neu Garn Alw, a Mynydd Preseli dal yn lle gwyllt a gwych sy'n cael ei garu gan filoedd o bobl am ei orwelion llydan a'i brydferthwch tawel.
Felly yn hynny o beth, fel y disgrifiodd Waldo Williams yn ei gerdd, Preseli, mae wir yn lle arbennig.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd22 Awst 2025

- Cyhoeddwyd15 Awst 2025

