Cofio'r cwis Cymraeg?

Chwalu Pen
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cwis Chwalu Pen yn ôl ar BBC Radio Cymru – lot o falu awyr wrth i'r cystadleuwyr drio meddwl am ddau beth yr un pryd, gyda Mari Lovgreen yn trio cadw trefn ar bawb.

Ond ydych chi'n cofio rhai o'r cwisys Cymraeg eraill yma?

Chwalu Pen ar BBC Sounds

Mae Mari Lovgreen yn ei hôl ar gyfer pennod gyntaf cyfres wirion arall.

Jacpot

Clasur o gwis o ddechrau'r 90au gyda Kevin Davies wrth y llyw (yna Rhodri Ogwen Williams yn 2012), lle'r oedd cyfle i ennill arian neu nifer o wobrau chwaethus. Roedd y cwestiynau yn anodd iawn ar adegau – yn bennaf achos bod rhaid iddyn nhw odli am ryw reswm.

Yn bwysicach na'r cwestiynau oedd datgan 'Dim Jacpot' gyda wyneb trist, neu weiddi 'Jacpot!' yn orfoleddus, gyda dwrn yn yr awyr.

Siôn a Siân

Dai a JennyFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Dai a Jenny yn ôl i gyflwyno sioe arbennig i ddathlu 50 mlwyddiant y sioe, yn 2014

Pa mor dda ydych chi'n 'nabod eich partner? Dyna oedd y cwis yma eisiau ei wybod, a oedd ar ein sgriniau rhwng 1964 ac 1987 - gyda Dai Jones a Jenny Ogwen yn cyflwyno ar ei anterth.

Cafwyd re-vamp ddiwedd y 90au gyda Ieuan Rhys a Gillian Elisa, ac eto gyda Stifyn Parri a Heledd Cynwal yn yr 2010au – mae'n amlwg nad ydyn ni byth yn blino ar fusnesu i fywydau personol pobl eraill.

Gair am Aur

Cwis deledu am sillafu dan arweiniad Llion Williams, o ddiwedd y 90au. Rhyw Blockbusters o beth, ond gyda llythrennau dwbl a thoeau bach.

Hyd yn oed os nad oeddet ti'n sillafwr da iawn, roedd o leiaf y posibilrwydd 'sa ti'n ennill crys t...

Pwlffacan

Disgrifiad,

Cofio cân Pwlffacan...? Llun o 1992

Roedd llawer o hwyl a chwerthin ar y cwis radio yma, oedd yn cael ei gyflwyno gan Emyr Wyn o flaen cynulleidfa fyw. Roedd aelodau'r paneli adnabyddus yn cael pynciau i'w trafod - ac yn 'pwlffacan' eu ffordd drwy araith neu jôc, gan obeithio peidio cael eu baglu gan wrthwynebydd oedd yn ceisio dwyn pwyntiau.

Bwletîn

Cwis radio oedd yn cymryd golwg ddychanol yn ôl ar newyddion yr wythnos. Gary Slaymaker oedd wrth y llyw, felly gallwch fod yn sicr nad oedd dim yn cael ei gymryd o ddifri'.

Y Deis

Y DeisFfynhonnell y llun, S4C

Cwis gymharol newydd gyda James Williams, lle mae llwyddiant y cystadleuwyr yn dibynnu ar wybodaeth eu partneriaid... a lwc y deis. O leiaf os wyt ti'n colli, galli di feio'r peiriant deis, yn hytrach na dy ffrind gorau.

Penawde

Cwis o'r 1980au gyda Hywel Gwynfryn; cwestiynau ar ffurf penawdau papur newydd, gyda chliwiau oedd yn mynd yn haws, ond y pwyntiau yn gostwng tan i ti ateb yn gywir. Roedd angen bod yn ofalus - os oeddet ti'n anghywir, roedd y golau'n diffodd arnat, ac roeddet ti â Dy Ben yn Dy Blu.

Yng Nghadair y Gohebydd wedyn roedd cwestiynau cyflym - tybed ai dyma a ysbrydolodd un o'r cystadleuwyr, y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth, i fentro i'r byd newyddiaduraeth (cyn gwleidyddiaeth)?

Pentagon

Cwis arall o'r 80au gyda chysylltiad â'r Llywodraeth bresennol, gan fod hwn yn cael ei gyflwyno gan Cefin Campbell. Roedd rhaid i bump cystadleuydd frwydro yn erbyn ei gilydd i ateb cwestiynau i geisio llenwi pump ochr y pentagon. Hyd yn oed os nad oeddet ti'n ennill y brif wobr, roeddet ti'n cael mynd adre gyda phlât piwter hyfryd.

Dim ond un gyfres fu yn anffodus - rhaid bod y piwter wedi mynd yn rhy ddrud.

Celwydd Noeth

Celwydd Noeth

Cwis oedd yn cael ei gyflwyno gan Nia Roberts, lle'r oedd rhaid i'r cystadleuwyr ddod o hyd i'r celwydd mewn cyfres o ffeithiau. Roedd yn anoddach na 'sa ti'n ei feddwl. A na, doedd dim noethni yn y cwis yma – celwydd llwyr!

Cant y Cant

Disgrifiad,

Huw Llywelyn Davies oedd yn holi'r cwestiynau, gydag Ian Gwyn Hughes (a Gareth Charles) yn gapten

Sut mae eich gwybodaeth am chwaraeon? Roedd Huw Llywelyn Davies eisiau i'r gwesteion gael 100% o'r cwestiynau yn gywir ac i bawb roi ymdrech o 100%. Y capteiniaid pan ddechreuodd y sioe ar Radio Cymru yn 1999 oedd Iwan Gwyn Hughes a Gareth Charles, felly doedd hynny ddim bob amser yn bosib.

Yn y rownd cwestiynau cyflym gwych a gwallgo', roedd thema benodol yn cael ei rhoi, fel 'chwaraewyr gyda diod yn eu henwau' (marc i bawb gafodd GWIN Jones yn gywir).

Pendroffobia

Cwis o'r 90au lle'r oedd plant yn gorfod ateb cwestiynau tra'n cael eu troi ar rywbeth oedd yn debycach i reid ffair na set stiwdio deledu.

Yn cadw cwmni i Huw Llŷr - oedd yn trio cadw ei falans tra'n holi'r cwestiynau - roedd ei gyd-gyflwynydd, Wynford Ellis Owen, a oedd yn cael bod ar sgrin yn lle ymladd am ei fywyd ar y reid.

Mae sôn eu bod nhw dal i drio clirio'r llanast ar ôl yr holl daflu i fyny.

Cwis Pop

Magi Dodd ac Ifan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Magi Dodd ac Ifan Davies

Ar Radio Cymru yn y 2000-10au, cyfle i ddisgyblion ysgol brofi eu gwybodaeth am gerddoriaeth a gweld pa ysgol oedd y gorau. Cafodd fersiynau o'r cwis ei gyflwyno gan amryw o gyflwynwyr dros y blynyddoedd, gan gynnwys Dafydd Du, Glyn Wise, Ifan Davies, ac wrth gwrs, y diweddar Magi Dodd.

Bacha Hi O 'Ma

Disgrifiad,

Bacha Hi O 'Ma

Eisiau cariad? Cyn yr apiau, yr unig opsiwn ar ddechrau'r 90au oedd gofyn am help Alwyn Siôn, oedd yn eich rhoi ar fachyn ar garwsél tan oedd 'na rywun yn cymryd ffansi atoch chi. Rhaid oedd ateb cwestiynau'n gywir, rhag i rywun gymryd eich cariad oddi arnoch chi.

Os oeddech chi'n lwcus, roeddech chi hefyd yn gorfod rhedeg i fyny a lawr grisiau yn ateb cwestiynau, tra'ch bod chi wedi eich clymu at eich partner newydd. Fyddai iechyd a diogelwch ddim yn caniatáu hynny heddiw...

Gwrandewch ar Chwalu Pen ar BBC Radio Cymru am 16:00 ddydd Sul neu ar BBC Sounds

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.