Lluniau: Dydd Mawrth yn Eisteddfod yr Urdd 2026

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Cip ar ddiwrnod arall poeth a phrysur ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghae Sioe Môn.

Ella o'r Drenewydd gyda'i rhieni balch. Mae Ella wedi ennill pump o fedalau gwobr gyntaf gan gynnwys dod yn gyntaf am greu pyped, gemwaith, ffasiwn creu gwefan ac am ei phroisect gwyddoniaeth. Hi hefyd sydd wedi cipio gwobr goffa Alwyn R. Owens sy'n cael ei gyflwyno'n flynyddol i wyddonydd ifanc addawol.
Disgrifiad o’r llun,

Ella o'r Drenewydd gyda'i rhieni balch. Mae Ella wedi ennill pump o fedalau gwobr gyntaf gan gynnwys dod yn gyntaf am greu pyped, gemwaith, ffasiwn, creu gwefan ac am ei phrosiect gwyddoniaeth. Hi hefyd sydd wedi cipio gwobr goffa Alwyn R. Owens am ddangos addewid fel gwyddonydd

Siôn ac Alison Cairns yn mwynhau diwrnod ar y maes gyda chwech allan o saith o'u plant; Elin, Hari, Twm, Elwyn Caradog a Huw
Disgrifiad o’r llun,

Siôn ac Alison Cairns yn mwynhau diwrnod ar y maes gyda chwech allan o saith o'u plant; Elin, Hari, Twm, Elwyn Caradog a Huw

Georgia a Millie o Fangor yn mwynhau'n y ffair
Disgrifiad o’r llun,

Georgia a Millie o Fangor yn mwynhau'n y ffair

Ydych chi'n gallu cyfri sawl sticer sydd ar grys-ti Bethan o Fae Colwyn?
Disgrifiad o’r llun,

Sawl sticer sydd ar grys-ti Bethan o Fae Colwyn tybed?

Beca, Mari a Non yn ymlacio yn y bath ar ôl diwrnod llawn dop yn cystadlu. Mae'r dair yn aelodau o gôr Ysgol Glanaethwy
Disgrifiad o’r llun,

Beca, Mari a Non yn ymlacio yn y bath ar ôl diwrnod llawn dop yn cystadlu. Mae'r dair yn aelodau o gôr Ysgol Glanaethwy

Roedd digon o ganu ar y maes yn ogystal ag yn y pafiliwn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd digon o ganu ar y maes yn ogystal ag yn y pafiliwn

Amser cinio i'r teulu bach yma o ardal Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Amser cinio i'r teulu bach yma o Faglan ger Abertawe

Aeth Elsi, Siwan, Gwenllian a Gwenno o Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth i siopa ar ôl cystadlu yn y parti llefaru
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Elsi, Siwan, Gwenllian a Gwenno o Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth i siopa ar ôl cystadlu yn y parti llefaru

Gwenan o Gaerdydd yn mwynhau yn y GwyddonLe gyda Taid
Disgrifiad o’r llun,

Gwenan o Gaerdydd yn mwynhau yn y GwyddonLe gyda Taid

Parti llefaru Ysgol Gyfun Llangefni yn ymarfer
Disgrifiad o’r llun,

Parti llefaru Ysgol Gyfun Llangefni yn ymarfer

Daeth Iestyn o Ysgol David Hughes yn ail yn chwarae ei euphonium ddoe. Bu'n cystadlu gyda pharti llefaru yr ysgol heddiw
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Iestyn o Ysgol David Hughes yn ail yn chwarae ei euphonium ddoe. Bu'n cystadlu gyda pharti llefaru yr ysgol heddiw

Amser cinio yn y cysgod i Lena ac Ifan o Gaerdydd, a Morgan o Bennal
Disgrifiad o’r llun,

Amser cinio yn y cysgod i Lena ac Ifan o Gaerdydd, a Morgan o Bennal

Daeth Shiloh o Ysgol Glantaf yn ail yn yr ensemble jazz ac yn drydydd yn y ddeuawd offerynno. Clarinet yw offeryn Shiloh
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Shiloh o Ysgol Glantaf yn ail yn yr ensemble jazz ac yn drydydd yn y ddeuawd offerynnol. Clarinet yw offeryn Shiloh

Ewch draw am baned at Rose a Megan o gangen Merched y Wawr, Y Fali. *Mae yna gacennau cri ar stondin Merched y Wawr hefyd...)
Disgrifiad o’r llun,

Ewch draw am baned at Rose a Megan o gangen Merched y Wawr, Y Fali. Mae yna gacennau cri ar stondin Merched y Wawr hefyd!

Wil ac Owi o Lannerch-y-medd yn rhoi cynnig ar saethyddiaeth. Tybed pa frawd fydd yn ennill yr ornest?
Disgrifiad o’r llun,

Wil ac Owi o Lannerch-y-medd yn rhoi cynnig ar saethyddiaeth. Tybed pa frawd fydd yn ennill yr ornest?

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon eraill o'r Eisteddfod