Lluniau: Dydd Sadwrn Eisteddfod yr Urdd 2026
- Cyhoeddwyd
Daeth miloedd i Gae Sioe Môn ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd 2026 - y tro cyntaf i'r ŵyl gael ei chynnal am saith diwrnod ac agor ar ddydd Sadwrn.
Roedd dydd Sadawrn yn ddiwrnod i ddysgwyr Cymraeg ac i gystadlaethau dawnsio - a daeth yr haul allan i groesawu pawb.

Disgyblion Ysgol Prendergast, Hwlffordd, ddaeth i Fôn i gystadlu yn y parti unsain

Daeth Emilia a Carolina yr holl ffordd o'r Gaiman, Patagonia, i'r Eisteddfod yng nghrysau pêl-droed Yr Ariannin

Cynan, o bentref Maenan, ger Llanrwst, yn edrych ar ôl ei chwaer fach Lliwen

Esa, 7 oed, o Ysgol Bro Idris, Dinas Mawddwy, yn dathlu ar ôl ennill y llefaru unigol i ddysgwyr - a hynny ddwy flynedd yn unig ers iddo dechrau siarad Cymraeg

Olivia, 9 oed, o Gaernarfon gyda gwisgoedd y ffilm Madfabulous yn stondin Into Film Cymru

Mimi ac Evie, o'r Fenni, yn cael hwyl yn y lle syrcas

Prawf mai gŵyl i blant a phobl ifanc ydy hi... George o Sir Benfro yn nôl mwy o gandi fflos i'r stondin losin...

Cyfle am un ymarfer olaf i ddisygblion Ysgol Rhosnesni, Wrecsam, cyn cystadlu yn y llefaru ail iaith blwyddyn 10 ac uwch

Greta o Bethel yn y lle celf - gyda cholur sy'n haeddu bod yn rhan o'r arddangosfa

"Lle mae'r stondin candi fflos Dad?" - William a Grace, a'u tad Euros, o Aberystwyth, yn cyrraedd y Maes. Roedd Grace yn cystadlu yn y perfformiad aml-gyfrwng heddiw

Does dim llawer o fynyddoedd ar Ynys Môn i TewTewTennau redeg i fyny nhw wrth iddyn nhw berfformio yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae digon o gyffro ar y Llwyfan Canlyniadau....

... ac mae'n le poblogaidd gyda'r dorf hefyd

Aria a Non o Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, yn barod i gystadlu yn y dawnsio disgo

Mae'r Eisteddfod yn gallu bod yn le blinedig, ac mae Gareth wedi ymlâdd. Lwcus bod Sion, o stondin Busnes Cymru, yno i edrych ar ei ôl
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd10 awr yn ôl
