Tair cenhedlaeth o Fôn sydd wedi croesawu'r Urdd i'r ynys

Cathrin a SionedFfynhonnell y llun, Cathrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cathrin (dde) a'i chwaer nôl yn 1974

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion Môn yn barod unwaith eto i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i'r ynys eleni.

Ond, mae un teulu wedi bod yn rhan annatod o'r croeso ers dros 50 mlynedd.

Mae tair cenhedlaeth o deulu Cathrin Gruffydd Jones wedi cymryd rhan yng nghyngherddau croesawu'r Eisteddfod pan mae hi wedi ymweld â Môn.

Cathrin oedd gyntaf o'r teulu, gyda'i chwaer Sioned a hynny ym Mhorthaethwy yn 1976. Wedyn daeth cyfle plant Cathrin, Lowri, Lois ac Angharad i ganu yn 2004 ac eleni bydd plant Angharad ac wyresau Cathrin, Elsa ac Aria, yn paratoi i berfformio ar y llwyfan ym Mona.

'Gwerthfawrogi'r geiriau'

Wrth hel atgofion mae Cathrin sydd o Langristiolus, ond yn byw yn Rhostrehwfa, yn cofio recordio'r sengl a hithau ond yn ferch 17 oed.

Ym Mhorthaethwy y cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn honno ac mae Cathrin yn cofio'r cyffro o gael mynd i stiwdio Sain i recordio'r gân.

"Recordio efo fy chwaer, Sioned nes i. Fy nhad, Tecwyn Gruffydd wnaeth sgwennu geiriau Cân y Steddfod.

"Dwi'n cofio bod yn eitha starstruck ar y pryd yn stiwdio Sain achos roedd Hefin Elis o'r band Edward H yn recordio hefo ni ac yn chwarae gitâr.

"Ar y pryd ro'n i wrth fy modd yn mynd i ddisgos Cymreig, a ro'n i hefyd yn teithio o amgylch Ynys Môn yn canu deuawdau gyda fy chwaer, felly roedd o'n hyfryd clywed y gân yn cael ei rhyddhau fel un i groesawu pobl i'r Eisteddfod," meddai.

Mae Cathrin yn falch iawn o'r sengl ac yn gwerthfawrogi geiriau'r gân gydag un llinell yn benodol yn sefyll allan yn fwy na'r gweddill.

"Pan o'n i'n 'fengach dwi ddim yn credu fy mod i'n gwerthfawrogi'r geiriau cymaint ag ydw i'n ei wneud rŵan.

"Mae 'na gwpled yn y gân sef, 'Dan dy adain daw ieuenctid, gyda'u hwyl a'u llên a'u cân...'

"Ac mae hynny mor wir am be mae'r Urdd yn ei gynnig, fel adain ofalus o amgylch ieuenctid Cymru," meddai.

Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, daeth cyfle i blant Cathrin ddilyn yn ôl troed eu mam a chael cyfle i fod yn rhan o'r gân groeso pan wnaeth Eisteddfod yr Urdd ddychwelyd i Fôn.

AngharadFfynhonnell y llun, Angharad Evans
Disgrifiad o’r llun,

Angharad (ail o'r chwith) yn perfformio yn y seremoni groeso yn 2004

Yn 2004, ac Angharad ond newydd droi'n 14 oed, roedd bwrlwm mawr ymysg to ifanc yr ynys. Cafodd Aelwyd yr Ynys ei sefydlu, roedd Theatr Ieuenctid Môn yn ei anterth a Chôr Ieuentid Môn yn ei ddyddiau cynnar. Rhwng popeth, roedd sawl perfformiad i'w wneud dros wythnos yr ŵyl.

Y flwyddyn honno, cân o waith y cyfansoddwr Gareth Glyn oedd y gân groeso gyda geiriau wedi'u cyfansoddi gan Mei Mac a phlant ysgolion Môn – I Sir Fôn.

"Mae dwy fraich dros donnau y Fenai yn estyn eu croeso

Mae Ynys y Medra yn eich galw dros Gymru i gyd

Mae Mam eto'n galw, yn galw gan annog ei phlantos

I ddod yn eu heidiau i ddangos eu doniau i'r byd.

Dewch bawb o bob oed i Sir Fôn."

Wrth hel atgofion am y cyfnod, dywedodd Angharad, "Dw i'n cofio bod wedi cyffroi cael cystadlu a pherfformio mewn gymaint o wahanol bethau.

"Doedd na'm llawer o ddiwylliant cystadlu eisteddfodol yn ein hysgol ni, ond fe ymdrechodd pawb ar gyfer croesawu Steddfod yr Urdd i Fôn."

Ac mi oedd y gân groeso yn ffefryn, dywedodd "mi oedd yn gân yn mynd â chi i bob man o ran arddull cerddorol, o'r gwerinol, i jazz i 'chydig bach o rap hyd yn oed, ac yn para am bron i ddeg munud! Mi oedd 'na ysbryd ifanc i'r holl berfformiad."

Roedd Angharad hefyd yn cymryd rhan yn y sioe uwchradd, a aeth â hi i begwn arall yn llwyr o'i gymharu ag asbri "I Sir Fôn".

Llwch yn Ein Llygaid oedd enw'r sioe a oedd yn adrodd hanes y Diwygiad ar droad y ddeunawfed ganrif, a hynny drwy lygaid trigolion tref Amlwch a gweithwyr Mynydd Parys.

"Dyna'r tro cyntaf i mi wneud sioe o'r fath, ac er bod yr ymarferion yn hir ac yn gofyn am ymroddiad mawr – ymroddiad dw i'n dal i'w weld gan blant ysgolion Môn eleni – mi oedd o'n brofiad amhrisiadwy a dw i'n dal i gofio'r caneuon hyd heddiw!"

Elsa ac AriaFfynhonnell y llun, Angharad Evans
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Elsa (chwith) ac Aria yn edrych ymlaen at gael perfformio eleni

A hithau nawr yn 2026 a'r Eisteddfod unwaith eto'n dychwelyd i gaeau Sioe Môn ym Mona, cyfle plant Angharad ac wyresau Cathrin yw hi i gymryd rhan yn y sioe gynradd yn y Pafiliwn eleni.

Yn ogystal ag ymddangos yn y gân groeso swyddogol sy'n cael ei pherfformio gan Fleur de Lys, mae'r genod yn cymryd rhan yn y sioe gynradd.

Mae Elsa ac Aria yn blant yn Ysgol Llannerchymedd, ac maen nhw, fel cannoedd o blant eraill y sir, wedi bod wrthi am fisoedd yn dysgu ac ymarfer caneuon.

Dilyn 'Sgwarnog yw enw'r sioe gynradd eleni ac mae'n dilyn hanes merch o'r enw Gwen sy'n mynd ar goll.

Dywedodd Aria sy'n naw oed ac yn perfformio rhan un o drigolion y ffair ei bod hi "yn mwynhau'r canu a dawnsio er fy mod i wedi blino ar ddiwedd ymarfer."

"Dw i'n edrych ymlaen i berfformio'r sioe ac i gystadlu efo'r parti deulais a'r parti cerdd dant ddiwedd yr wythnos," meddai.

Bydd holl gyffro Eisteddfod yr Urdd ar gael i'w ddilyn ar Hafan Cymru Fyw ac ar BBC Radio Cymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: