Rhys Mwyn yn rhoi eitemau eiconig Yr Anhrefn i Amgueddfa Cymru

Roedd Rhys Mwyn yn galw'r siaced yn 'Offis', gan y byddai holl arian y band yn cael ei gadw yn ei phocedi ar eu teithiau drwy Ewrop
- Cyhoeddwyd
Mae Rhys Mwyn - un o aelodau gwreiddiol y band pync poblogaidd o'r 1980au a'r 90au, Yr Anhrefn - wedi rhoi nifer o eitemau eiconig i Amgueddfa Cymru.
Yn eu plith mae ei gitâr fas, crys-t y band a'i siaced ledr, a bydd yr eitemau'n mynd i'r casgliad bywyd diwylliannol.
Dywedodd Rhys Mwyn ei fod "wrth fy modd bod archif Yr Anhrefn wedi canfod cartref da yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru".
"Gan roi cyfle i genedlaethau'r dyfodol ailddarganfod diwylliant amgen Cymru diwedd yr 20fed ganrif."

"O'dd yr hyn oedden ni'n ei 'neud yn yr 80au yn rhan o chwyldro diwylliannol yng Nghymru," medd Rhys Mwyn (ar y dde)
Mae Rhys Mwyn wedi rhoi tair o recordiau feinyl y band i'r casgliad hefyd, sef Defaid, Skateboards a Wellies, Bwrw Cwrw a Dragons Revenge.
Wrth gofio'n ôl at y cyfnod, dywedodd: "Erbyn dechrau'r 80au roedd hi'n amlwg fod 'na alw am naratif newydd yn niwylliant Cymru," meddai.
"Roedd pobl angen lle i greu a gweiddi nerth eu pen!
"Dyma'r tro cyntaf i bobl greadigol oedd yn siarad Cymraeg wrthod byd Y Pethe fel oedd hi."
'Chwyldro diwylliannol'
Yn siarad gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd Rhys fod y band yn rhan fach o stori ehangach, neu "llinell amser" y cyfnod.
"O'dd yr hyn oedden ni'n ei 'neud yn yr 80au yn rhan o chwyldro diwylliannol yng Nghymru, roedd yna hen slogan 'Popeth yn Gymraeg' yn cael ei ddefnyddio er enghraifft.
"Gwrthryfela yn erbyn y syniad hwnnw oedden ni mewn ffordd, creu sgwrs newydd a golwg newydd yn Gymraeg, ond yn ymwrthod hefo popeth oedd o'r blaen."
Rhys Mwyn a'i "noddfa o heddwch" wrth wynebu triniaeth canser
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
Cwis archeoleg Rhys Mwyn
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2024
Rhys Mwyn: Sefydlu grŵp newydd i drafod cerddoriaeth
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2025
Yn rhan o'r un chwyldro yn y cyfnod, meddai Rhys, oedd bandiau fel Y Cyrff, Datblygu a Llwybr Llaethog.
Eglurodd eu bod, yn ogystal â hanes canu pop, yn rhan o "hanes cymdeithasol a diwylliannol" Cymru.
"Ond nid fi ydy'r un i benderfynu ein pwysigrwydd ni o fewn hynny," ychwanegodd.
'Astudio, dysgu neu ddiystyru!'
Mae Rhys wedi bod yn mynd trwy broses o archifo papurau'r band yn y Llyfrgell Genedlaethol ers tua dwy flynedd - posteri, llythyrau ac eitemau tebyg.
Ond mae'r "gwrthrychau materol - pethau fel crysau-t, gitâr a siaced yn mynd i'r amgueddfa ac mae partneriaeth rhwng adrannau'r ddau sefydliad".
Pwysleisiodd eto ei bod hi fyny i bobl eraill benderfynu ar arwyddocâd yr eitemau, "ond falle bod y ffaith bo' nhw 'di derbyn nhw yn awgrymu bod rhyw fath o werth!"
"Dwi'n rhoi rhein rŵan er mwyn i bobl astudio, gwerthfawrogi, dysgu rhywbeth, neu ddiystyru os ydyn nhw eisiau!
"Ond be' bynnag ma' rhywun yn feddwl - ma' nhw yno rŵan i bobl addysgu ohonyn nhw os ydyn nhw eisiau."

Mae'n "bleser gallu rhoi cartref" i bethau sy'n "adrodd hanes cyfnod pwysig yng ngherddoriaeth Cymru" medd Amgueddfa Cymru
Roedd Rhys yn awyddus i bwysleisio mai rhan fach o'r stori yw'r Anhrefn.
"O'dd yr hyn 'nath yr holl fandiau 'ma yn yr 80au a'r 90au wedi arwain at 'Cool Cymru' - o'dd Catatonia a Super Furries wedi bod yn rhan o rywbeth cyn hynny.
"Mae 'na linell amser o'r gwreiddiau tanddaearol 'na, ma' rhywun fatha Gruff Rhys a Mark Cyrff wedi bod yn rhan o'r holl beth.
"Felly rhan fach o'r stori yna dwi wedi'i drosglwyddo."
'Na'i fyth chwarae gitâr eto'
Wrth gael ei holi os ydy'r dyddiau roc a rôl drosodd, gan ei fod yn ffarwelio gyda'i gitâr fas eiconig, cytuno a wnaeth Rhys.
"Ydyn - na'i fyth chwarae gitâr eto, ma'r cyfnod yna o'm mywyd i drosodd. Dwi'n gweld hyn yn beth positif - s'genna' i ddim diddordeb mewn hynny bellach.
"Ond dwi dal hefo diddordeb mewn creu, ond nid hefo gitâr roc a rôl - y bennod yna sydd drosodd," ychwanegodd.
Yn ôl Fflur Morse, uwch guradur bywyd diwylliannol Amgueddfa Cymru, mae'r Anhrefn yn "cael eu cyfri'n un o'r bandiau Cymraeg pwysicaf, yn gerddorol a gwleidyddol".
"Mae'n bleser gallu rhoi cartref i'r gwrthrychau hyn sy'n adrodd hanes cyfnod pwysig yng ngherddoriaeth Cymru."
Bydd y gwrthrychau'n cael eu catalogio a'u digideiddio, meddai Amgueddfa Cymru, cyn cael eu huwchlwytho i gasgliadau ar y we yn y pen draw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.