Yr Urdd: Diwrnod cyntaf llwyddiannus wrth i fwy o gystadleuwyr gofrestru

Disgrifiad o’r llun, Rhian, Alaw ac Ifan yn mwynhau eu cinio yn yr heulwen!
1 o 4
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth miloedd o bobl heidio i Gae Sioe Môn ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.
Roedd 118,089 wedi cofrestru eleni sef y mwyaf erioed ar record ar gyfer Eisteddfod a gynhaliwyd yn y gogledd.
Fe wnaeth Manon Wyn Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith hefyd gadarnhau eu bod wedi cyrraedd eu targed ariannol o £380,000.
Dyma'r tro cyntaf i'r ŵyl bara saith diwrnod, ac mae nifer o gystadlaethau newydd oherwydd hynny yn sgil y galw.
'Testun balchder'
Roedd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau yr Urdd, wrth ei bodd â'r nifer a wnaeth gofrestru i gystadlu eleni.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd: "Roedden ni mor falch o weld bod dros 118,000 o gofrestriadau ar gyfer cystadlu eleni," meddai, sef y ffigwr mwyaf erioed ar record ar gyfer Eisteddfod a gynhaliwyd yn y gogledd.
"Mae'n golygu gymaint i ni yn yr Urdd bod plant a phobl ifanc yn parhau i gystadlu.
"Ma' hwn hefyd yn benllanw gwaith blwyddyn o ddysgu darnau a hyfforddi a mireinio, ac wrth gwrs ma' nifer ohonyn nhw wedi mynd trwy'r 'steddfodau cylch a rhanbarth o fewn eu cymunedau."
Ychwanegodd ei fod yn "destun balchder mawr i ni fod y bobl ifanc eisiau cystadlu gyda ni ac mae o'n golygu bo' ni wedi gallu ymestyn i saith diwrnod ac wedi gallu ychwanegu cystadlaethau newydd wedyn oherwydd hynny."
Roedd mwy nag erioed o blant a phobl ifanc Ynys Môn wedi cofrestru i gystadlu yn yr ŵyl - 14,060.

Manon Wyn Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn siarad yn y gynhadledd i'r wasg fore Sadwrn
Wrth siarad yn y gynhadledd i'r wasg, dywedodd Manon Wyn Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith: "Nid mater bach yw cynnal gŵyl genedlaethol fel hon, mae'n cymryd byddin!"
Fe aeth ymlaen i restru nifer o garfannau o bobl sydd wedi cyfrannu'n helaeth at gynnal yr eisteddfod gan ddweud yr hoffai "ddiolch yn ddiffuant i bob un ohonynt am eu cyfraniad".
Roedd yn falch i ddweud eu bod wedi cyrraedd y targed ariannol o £380,000 cyn pwysleisio mai'r "gwirfoddolwyr ydi conglfeini'r Eisteddfod a'r mudiad".
"Er cymaint yr edrych ymlaen, mae hi'n chwithig meddwl o fewn yr wythnos y bydd popeth ar ben, ond eto nid dyma'r diwedd.
"Oherwydd mae gwaddol unrhyw eisteddfod cyn bwysiced â'r eisteddfod ei hun... dwi'n gwybod bydd Eisteddfod Ynys Môn 2026 yn un i'w chofio!"
'Os fi’n gallu dysgu Cymraeg - ti’n gallu dysgu Cymraeg' - Katie Owen
Diwrnod y dysgwyr oedd hi heddiw ar y maes, ac fe gafodd pedwar person eu gwneud yn llysgenhadon Dysgu Cymraeg mewn partneriaeth a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Y pedwar ydi:
Aleighcia Scott – y gantores a'r DJ, ac un o hyfforddwyr sioe S4C, Y Llais, sy'n cael ei hanrhydeddu â'r wisg Werdd yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026.
Tori James – yr anturiaethwr a'r Gymraes gyntaf i ddringo Everest.
Katie Owen – y DJ a'r dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol.
Ian Gwyn Hughes – Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Katie Owen, y dylanwadwr a'r DJ: "Os fi'n gallu dysgu Cymraeg, ti'n gallu dysgu Cymraeg.
"Fe wnes i ddechrau dysgu Cymraeg pedwar neu pum mlynedd yn ôl".
Dywedodd er iddi fyw yn Llundain, bod gwersi ar-lein "wedi rili helpu fi".
Wrth roi cyngor i ddysgwyr eraill, dywedodd: "Paid bod yn nerfus i ddefnyddio dy Gymreg, jyst gwna fe, paid phoeni am fod yn hyderus, jyst tria defnyddio dy Gymraeg."
Enillwyr prif wobrau'r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd
Medal Bobi Jones a Medal y Dysgwyr oedd y prif seremonïau heddiw.
Caerwyn Saunders sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd 2026.
Katie Baddiley yn wreiddiol o Nottingham ond sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon sydd wedi ennill Medal Bobi Jones Eisteddfod Yr Urdd 2026.
Dywedodd Caerwyn Saunders: "Mae'r daith o ennill medal y dysgwyr wedi bod mor arbennig.
"Roedd rhaid i fi gymryd rhan mewn cyfweliad gyda beirniaid, sy'n hyfryd iawn. Ac mae mor hyfryd cael beirniaid sydd yn gweld bod dyfodol yr iaith Gymraeg mewn dysgwyr.
"Dwi mor ddiolchgar am bob cyfle sydd wedi rhoi i fi i ddysgu Cymraeg".
Dywedodd Katie Baddiley: "Mae 'di bod mor sbesial ac roedd yn extra sbesial achos roedd y judges wedi dysgu Cymraeg hefyd.
"Mae 'di bod yn anhygoel i fod yn rhan o heddiw. 'Sgen i ddim geiriau i ddisgrifio sut dwi'n teimlo rŵan, ond dwi wrth fy modd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd14 awr yn ôl




