Cyhoeddi enillwyr prif wobrau'r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd

Caerwyn Saunders o Dreorci ydy enillydd Medal y Dysgwyr
- Cyhoeddwyd
Caerwyn Saunders o Dreorci sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Ynys Môn.
Yn yr un seremoni, cyhoeddwyd mai Katie Baddiley, yn wreiddiol o Nottingham ond bellach yn byw yng Nghaernarfon, sydd wedi cipio Medal Bobi Jones - y brif wobr arall i ddysgwyr.
Nod y ddwy gystadleuaeth ydy gwobrwyo unigolion sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod.
Roedd y rownd derfynol, yn llawn tasgau amrywiol, yn cael ei chynnal ar y maes.
Y beirniaid ar gyfer y ddwy wobr eleni oedd Eirian Wyn Conlon a Francesca Sciarrillo.
Francesca oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019, pan oedd Eirian yn un o'r beirniaid.
Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei rhoi i berson ifanc rhwng Blwyddyn 10 a dan 19 oed, sy'n gallu dangos sut maen nhw'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu'r gwaith ac yn gymdeithasol.
Caerwyn Saunders ddaeth i'r brig eleni.
Mae Caerwyn yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Treorci ac yn aelod brwd o'r Urdd sy'n gwirfoddoli ac yn cystadlu yn aml mewn eisteddfodau.
Mae'n gadeirydd y Criw Cymraeg yn yr ysgol, ac yn falch iawn o fod yn llysgennad ysgol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dywedodd: "Mae'r Urdd wedi agor drws i fyd hollol newydd i fi a dwi wedi bod yn lwcus i gael fy ysbrydoli gan athrawon anhygoel bob dydd yn yr ysgol yn Nhreorci, yn enwedig Mrs James, sy'n rhoi popeth er mwyn codi statws y Gymraeg yn yr ysgol. Hoffwn fod yn athro Cymraeg yn y dyfodol – i ysbrydoli eraill i gadw'r iaith yn fyw.
"Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb – a dyma'r neges dwi'n benderfynol o'i lledaenu."
Jayden Reaney o Gaer oedd yn ail ac Effie Capstick o Gaergybi yn drydydd.

Katie Baddiley, yn wreiddiol o Nottingham ond bellach yn byw yng Nghaernarfon, sydd wedi ennill Medal Bobi Jones eleni
Mae Medal Bobi Jones yn cael ei rhoi i unigolyn 19-25 oed, sy'n dangos sut maen nhw'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu'r iaith, yr effaith mae dysgu'r Gymraeg wedi cael ar eu bywyd, a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol.
O saith ymgeisydd, Katie Baddiley ddaeth i'r brig.
Dechreuodd Katie ddysgu Cymraeg yn 2023 pan symudodd i Fangor i astudio yn y Brifysgol. Mae'n Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) ac yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn Nyffryn Nantlle.
Mae hi wedi newid cyfrwng iaith ei bywyd yn llwyr mewn amser byr, ac yn awyddus i helpu dysgwyr eraill ar eu taith.
Dywedodd: "Dwi'n teimlo'n gryf y dylai unrhyw un sy'n gweithio mewn ardal Gymraeg efo'r cyhoedd ddangos parch drwy ymdrechu i siarad Cymraeg gyda nhw.
"Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fynychu cwrs yn Nant Gwrtheyrn ac i ddysgu Cymraeg drwy fy ngwaith. Dwi'n mwynhau canu yn y Gymraeg gyda Chôr Heddlu Gogledd Cymru. Hoffwn fagu plant sy'n rhugl yn y Gymraeg un diwrnod ac efallai ysgrifennu colofn yn y Gymraeg yn fy mhapur bro lleol."
Caitlin Brunt o'r Drenewydd oedd yn ail a Georgia Jones o Wrecsam yn drydydd.
Dywedodd y beirniaid fod yr ymgeiswyr i gyd yn "llysgenhadon arbennig i'r iaith Gymraeg, ac mae'n deg dweud ei bod hi'n ddiogel yn nwylo'r ymgeiswyr hyn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.