Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad car rali ar ffordd gefn

Lôn gefn rhwng y B5105 a Melin-y-Wig, ger CorwenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i wrthdrawiad ar lôn gefn rhwng y B5105 a Melin-y-Wig, ger Corwen, toc wedi hanner nos

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn ystod yr oriau man yn Sir Ddinbych.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i wrthdrawiad ar lôn gefn rhwng y B5105 a Melin-y-Wig, ger Corwen, toc wedi hanner nos fore Sadwrn.

Dywedodd y llu bod y gwrthdrawiad yn ymwneud â char rali Ford Escort melyn o 1992.

Bu farw'r gyrrwr, dyn 70 oed, yn y fan a'r lle.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig