Teyrngedau i ddau ddyn ifanc fu farw wedi gwrthdrawiad

Bu farw Jaydon Bowyer (chwith) a Ta-Shay Canoville yn dilyn gwrthdrawiad ar 7 Mai
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd dau ddyn yn eu harddegau a fu farw ar ôl gwrthdrawiad yng Nghasnewydd yn gynharach yn y mis wedi rhoi teyrngedau iddyn nhw.
Bu farw Ta-Shay Canoville a Jaydon Bowyer yn dilyn gwrthdrawiad ar Heol Aberddawan yn ardal Alway, Casnewydd yn ystod yr oriau mân ar 7 Mai.
Roedd Jaydon, 19, a Ta-Shay, 16, ar feic modur pan wnaethon nhw wrthdaro â BMW, meddai'r llu.
Mae dau ddyn bellach wedi bod yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth.
Tri wedi'u harestio ar ôl i ddau ddyn farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd7 Mai
Dau yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd11 Mai
Dywedodd teulu Ta-Shay ei fod wedi "dod â chariad a goleuni" i mewn i'w bywydau.
"Roedd ei wên yn gallu goleuo'r diwrnod tywyllaf, ac roedd ei bresenoldeb yn gwneud bywyd yn well i bawb o'i gwmpas," medden nhw mewn datganiad a rannwyd gan Heddlu'r Gwent.
Dywedodd teulu Jaydon ei fod yn "aelod annwyl o'r gymuned" a "doedd gan neb fyth gair drwg i'w ddweud amdano".
"Roedd gan Jaydon ffordd o oleuo pob ystafell gyda'i wyneb golygus a'i wên ddireidus fythgofiadwy."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.