Capybara Sw Mynydd Cymru angen enw

Mae'r capybara saith mis oed wedi symud i Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn ers mis
- Cyhoeddwyd
Mae cyfle wedi codi i enwi capybara newydd Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn.
Ar hyn o bryd, mae'r capybara di-enw wedi cyrraedd y sw, sy'n gartref i 60 o rywogaethau o Gymru a ledled y byd, ers ychydig dros fis.
Aeth cyflwynydd Radio Cymru, Aled Hughes draw i sgwrsio gyda Non Jones sy'n Bennaeth Gwasanaethau Ymwelwyr yn y sw a Gareth Roberts sy'n saer coed ac yn rhan o'r tîm cynnal a chadw yno.
Creu cynefin i'r capybara
"Rydan ni wedi adeiladu cynefin newydd i'r capybara sydd newydd ymuno efo ni dros yr wythnosau diwethaf," eglurodd Non.
"Y capybara yw'r rodent mwya'n y byd a dwi'n gwybod nad ydi hynna yn swnio y peth neisia. Mae o fatha cwningan rili mawr ar ei gefn ac mae ei wyneb o'n edrych fatha llygoden.
"Ond maen nhw'n rili ciwt ac mae o'n bleser gweld y capybara'n crwydro o amgylch ei amgylchedd newydd."

Gareth Roberts a Non Jones
Ac un sydd wedi bod yn adeiladu cartref newydd y capybara yw Gareth.
Eglurodd wrth Aled Hughes: "'Dan ni'n cael cynlluniau gan geidwaid y sw felly ein gwaith ni ydi dilyn be' maen nhw'n ei wybod a be' sydd isio i gadw nhw mewn rhag iddyn nhw ddianc."
Gyda melin goed a llif ar y safle, defnyddiodd Gareth a'i dîm goed lleol i adeiladu ffensys pren o amgylch cynefin newydd y capybara.

Ffens gref Gareth gyda ffenestri i ymwelwyr wylio symudiadau'r capybara
Chwilio am enw i'r capybara
Ond sut mae dewis pa anifeiliaid newydd fydd yn cael eu croesawu i'r sw?
Eglurodd Non: "Rydan ni'n cydweithio efo zoos eraill ac mae o'n dibynnu pa anifeiliaid sydd yn rhydd a be' ydan i'n gallu ei gael yn barod mewn pryd i edrych ar ôl lles yr anifeiliaid.
"Nath y capybara ddwad atan ni o sw arall. Cyn cyrraedd mi gafodd ei jecio gan filfeddyg, sicrhau ei fod o'n iach ac yn barod i drafeilio aton ni.
"Unwaith fydd anifail newydd yn cyrraedd rhaid gwneud yn siŵr hefyd bo' nhw'n setlo a dod i 'nabod y ceidwaid, a'u bod nhw'n teimlo'n hapus yn y cynefin newydd 'dan ni wedi adeiladu iddyn nhw."

Cynefin newydd y capybara yn y sw
Dros y dyddiau diwethaf mae'r capybara wedi bod yn cysgodi oddi wrth y cyhoedd a hithau'n dywydd poeth. Ond mae'r capybara saith mis oed dal angen enw.
Eglurodd Non: "Yn ein hymgyrch i godi arian i edrych ar ôl y capybara rydan ni'n rhoi cyfle i'r cyhoedd gynnig enw iddo.
"Am hanner dydd ar y cyntaf o Fehefin byddwn ni'n cau'r gystadleuaeth a bydd tîm o geidwaid y sw'n dewis yr enw maen nhw'n licio orau.
"Bydd yr enillydd hefyd yn derbyn hampyr thema capybara a phedwar tocyn i'r sw."
Felly beth amdani a rhoi cynnig ar gyfle prin i enwi capybara.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd6 Ionawr
