Arestio bachgen 13 oed ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn tân mewn clwb rygbi

- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 13 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi tân bwriadol a cheisio llofruddio yn dilyn tân mewn clwb rygbi yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd bachgen 11 oed anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad, ond mae mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod criwiau o orsafoedd yn Llanelli, Pont-iets a Chydweli wedi cael eu galw i'r digwyddiad yng Nghlwb Rygbi Trimsaran am 18:15 ddydd Sadwrn, 23 Mai.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys yn bresennol hefyd.
Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu: "Honnir bod cynhwysydd wedi cael ei roi ar dân yn fwriadol, gan achosi difrod sylweddol i'r cynhwysydd a'i gynnwys."
Mewn neges ar Facebook, dywedodd y clwb: "Roedd y bachgen yn sownd y tu mewn a dim ond oherwydd arwriaeth rhai o aelodau ein clwb y llwyddodd i ddianc."
Dywedodd y clwb fod y bachgen 11 oed yn cael triniaeth yn Ysbyty Treforys.
Fe ledaenodd y tân i eiddo cyfagos gan effeithio ar do yr eiddo meddai'r Gwasanaeth Tân ac maen nhw'n credu bod y tân wedi cael ei gynnau'n fwriadol.
Mae'r heddlu'n pwysleisio fod yr ymchwiliad yn parhau.
O'r safle - Sara Rowlands
Mae hi'n dawel yma yng Nghlwb Rygbi Trimsaran, gydag ambell i blentyn yn reidio beiciau a'n manteisio ar y tywydd cynnes dros hanner tymor.
Ond mae sioc a thristwch yr hyn ddigwyddodd dros y penwythnos yn amlwg, gyda rhai'n dweud wrthai am ddewrder aelodau'r clwb a roddodd eu hunain mewn perygl er mwyn achub y bachgen ifanc o'r cynhwysydd.
Dangoson nhw'r pellter y bu'n rhaid i'r aelodau redeg er mwyn cyrraedd y cynhwysydd - hyd cae rygbi cyfan, ac roedd un ohonyn nhw hyd yn oed wedi gorfod rhedeg trwy lwyni er mwyn cyrraedd ato.
Reodd Trimsaran yn arfer bod yn gymuned lofaol gyda thraddodiad cryf o rygbi ac fe ddywedodd un o gynghorwyr y gymuned wrthai fod yr ymateb yma'n siarad cyfrolau am ysbryd y gymuned.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.