Lois Medi yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd am yr eildro

Lois MediFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Lois Medi yw'r ferch gyntaf i ennill dwy gadair yn hanes Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd

Lois Medi o Wynedd sydd wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.

Lois - sy'n wreiddiol o Benrhosgarnedd, Bangor - yw'r ferch gyntaf i ennill dwy gadair yn hanes Eisteddfod yr Urdd, wedi iddi ennill cadair Eisteddfod Maldwyn yn 2024.

Y tro diwethaf i unrhyw un ennill dwy gadair yr Urdd oedd Gwynfor Dafydd yn 2016-17.

Mae Lois ar hyn o bryd yn byw ac yn gweithio yn Y Wladfa ym Mhatagonia.

Mae'n gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd y Garnedd ym Mangor, lle enillodd ei chadair eisteddfodol gyntaf.

Aeth i Ysgol Tryfan ym Mangor ac Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, cyn graddio o brifysgol LSE mewn anthropoleg gymdeithasol.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Nanw Maelor o'r Wyddgrug, gyda Steffan Rhys Nicholas o Aberystwyth yn drydydd.

'Ysgrifennu creadigol yn ddiléit'

Mae Lois wedi cyhoeddi cerddi yn Ffosfforws, O Ffrwyth y Gangen Hon a Barddas, ac fe gyhoeddwyd ei phryddest Gwrthryfela gan Gyhoeddiadau'r Stamp yn rhan o gynllun cyhoeddi gweithiau buddugol prif gystadlaethau llenyddol yr Urdd.

Dyfarnwyd iddi Dlws D Gwyn Evans gan Gymdeithas Barddas yn 2024, ac yn yr un flwyddyn enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn.

Ym Mhatagonia y llynedd, enillodd gadair Eisteddfod Trevelin a Gwobr y Delyn - prif wobr lenyddol Eisteddfod Porth Madryn.

Cadair Eisteddfod yr Urdd Ynys MônFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gadair ei dylunio gan Rhiannon Williams, cyn cael ei chreu gan Siôn Edwards

"Ers yn blentyn, mae ysgrifennu creadigol wedi bod yn ddiléit," meddai Lois.

"Mae barddoni yn gyfrwng arbennig i roi trefn ar fy meddyliau am y byd o fy nghwmpas.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi a'm hannog i fynegi fy nghreadigrwydd, yn arbennig fy rhieni, fy chwiorydd, Marged a Sara a fy nghariad, Iestyn."

'Sylwebaeth graff ac amserol'

Gofynion y gystadleuaeth eleni oedd llunio cerdd neu gerddi - caeth neu rydd - heb fod dros 100 llinell, ar y thema Pontio, ac roedd 12 ymgais eleni.

Mae casgliad Lois yn archwilio'r bont rhwng bywyd go iawn a byd technoleg.

Dywedodd y beirniaid Manon Wynn Davies a Rocet Arwel Jones fod Lois yn deilwng oherwydd bod "pob cerdd yn y casgliad aeddfed a chyfoes yn haeddu ei lle ac yn cynnig sylwebaeth graff ac amserol ar gymdeithas heddiw."

Rhoddir y gadair gan Gymdeithas Amaethyddol Môn.

Bydd y cyntaf, yr ail a'r trydydd yn y cystadlaethau llenyddol drwy gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru, er cof am Olwen Dafydd, trwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

Daeth dau ben ynghyd i greu'r gadair eleni, gan ddechrau gyda dyluniad y pensaer o Gaerwen, Rhiannon Williams.

Roedd ei dyluniad yn seiliedig ar y thema 'afonydd i'r môr', ac yn rhoi sylw i felinau gwynt yr ynys hefyd.

Wedi hynny, y saer coed Siôn Edwards o Lanfaelog aeth ati i greu'r gadair.

Mae mwy o wybodaeth am y gadair ei hun ar gael yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.