Heledd Wynn Newton yw prif gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd

Mae Heledd Wynn Newton wedi cyrraedd y tri uchaf yn y fedal gyfansoddi ddwywaith o'r blaen
- Cyhoeddwyd
Heledd Wynn Newton o Gaerdydd sydd wedi ennill medal prif gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Pwll Coch ac Ysgol Gyfun Glantaf, mae Heledd yn astudio gradd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.
O dan arweiniad ei hathrawes delyn, Catrin Finch, mae Heledd wedi ennill ysgoloriaeth i astudio gradd meistr yn yr Academi Gerdd Frenhinol ym mis Medi ar y delyn, lle mae hi'n bwriadu parhau gyda'i chyfansoddi hefyd.
Mae Heledd wedi cyrraedd y tri uchaf yn y fedal gyfansoddi ddwywaith o'r blaen - yn 2020, a llynedd yn Eisteddfod Dur a Môr.
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Iestyn Seiriol o Landdaniel, Ynys Môn, gyda Rhydian Llŷr Williams o Lanrug yn drydydd.
'Llais proffesiynol, cyfoes a phwysig'
Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi naill ai cylch o ganeuon ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd, rhangan neu gytgan ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd, cyfansoddiad i un neu ddau offeryn, neu gyfansoddiad i ensemble offerynnol.
Daeth 10 ymgais i law, gyda'r beirniaid Gareth Glyn ac Owain Llwyd yn nodi fod yr "amrywiaeth o ran arddull, offeryniaeth a genre yn adlewyrchu dyfnder y dalent gyfansoddi ifanc sydd ar waith yng Nghymru heddiw".
Roedd y beirniaid yn unfrydol mai cylch o ganeuon corawl SATB pedwar symudiad, wedi'i seilio ar awdl o'r Gododdin gan Aneirin oedd yn ennill y fedal eleni.
"Mae'r cyfansoddwr wedi ymdrwytho yn yr Hengerdd ac yn ymateb iddi gydag ieithwedd gerddorol sy'n gwbl gyfoes gan gynnwys tonyddiaeth estynedig, defnydd o glissandi a sibrwd, a rhannu'r côr i gymaint ag wyth rhan annibynnol," meddai'r beirniaid.
"Dyma lais proffesiynol, cyfoes a phwysig ar gyfer dyfodol cerddoriaeth Gymraeg."
Cyhoeddi enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf yr Urdd
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Cyhoeddi enillwyr prif wobrau'r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Caernarfon fydd cartref Eisteddfod yr Urdd Eryri 2028
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
"Dechreuais gyfansoddi yn saith oed," meddai Heledd.
"Fel aelod o Gôr Heol y March o dan arweiniad Eleri Roberts, a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru o dan arweiniad Tim Rhys Evans dwi wedi cael fy nghyflwyno i weithiau corawl amrywiol iawn eu harddull, sydd wedi cael dylanwad ar fy ngwaith chyfansoddi.
"Dwi'n aelod brwd o'r gymuned gyfansoddi arbrofol yn Rhydychen ac yn ddiweddar ges i'r cyfle i fod yn rhan o weithdy cyfansoddi gyda Chantorion y BBC."
Y wobr yw tlws yn rhoddedig gan Rheinallt a Rowenna Thomas, Caerdydd - Llanfairpwll a Phorthaethwy gynt - a Gwobr Glynne Jones a £400 o Gronfa Ymddiriedolaeth Pendyrus.
Cafodd y fedal ei chyflwyno yn y brif seremoni ar Lwyfan y Pafiliwn Gwyn brynhawn Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.