Y ffenestri trawiadol sy'n dod â lliw i eglwysi Cymru

- Cyhoeddwyd
Mae ffenestri lliwgar o bob math i'w gweld mewn eglwysi ac adeiladau eraill ledled Cymru. Martin Crampin o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, awdur nifer o lyfrau am y pwnc, sy'n sôn dipyn am eu hanes.
Mae gwydr lliw wedi cael ei ddefnyddio i addurno adeiladau yng Nghymru am dros 700 mlynedd, yn wreiddiol yn nhai mawr mynachaidd y wlad.
Mae'r rhan fwyaf o'r ffenestri lliw canoloesol sydd wedi goroesi yng Nghymru yn dyddio o ddiwedd y 15eg a dechrau'r 16eg ganrif.
Mae rhai ffigyrau a gweddillion rhai golygfeydd wedi goroesi, yn bennaf mewn eglwysi yn y gogledd, fel Gresffordd, yr Hôb a Llandyrnog. Yn yr eglwysi yma a rhai eraill, rydyn ni hefyd yn gweld cymysgfa o ddarnau bach o'r canoloesoedd, sydd wedi eu cadw a'u rhoi at ei gilydd â phlwm.

Rhan o ffenestr sy'n cynnwys tameidiau o wydr sy'n dyddio o ddechrau'r 1500au, wedi eu rhoi yn ôl at ei gilydd gyda phlwm - Eglwys Sant Cynfarch a'r Santes Fair, Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych
Mae ffenestri canoloesol cymharol gyfan wedi goroesi yng Ngresffordd, Llanrhaeadr a Dyserth.
Y ffenest sy'n cynrychioli llinach Crist drwy Goeden Jesse (tad y Brenin Dafydd) yn Llanrhaeadr yw'r ffenest ganoloesol enwocaf yng Nghymru. Cafodd un arall am yr un pwnc, yn Nyserth ger Prestatyn, ei greu yr un flwyddyn, 1533.

Rhan o ffenestr o Eglwys Santes Ffraid, Dyserth, Sir Ddinbych, sy'n dyddio o 1533
Daeth yr arfer o ddefnyddio gwydr lliw mewn pensaernïaeth yn boblogaidd eto yn ystod yr Adfywiad Gothig ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif.
Un o'r prif wneuthurwyr gwydr lliw ar ddechrau'r 19eg ganrif oedd David Evans, a gafodd ei eni yn Llanllwchaearn ac a oedd yn gweithio'n yr Amwythig.
Gallwch ddod o hyd i'r waith yn Eglwys Gadeiriol Bangor a Chastell Penrhyn, ynghyd ag eglwysi ledled y gogledd a'r canolbarth.

Darlun o Grist y Bugail gyda Sant Pedr a Sant Ioan o tua 1856 - Eglwys Sant Tysilio a'r Santes Fair ym Meifod, Powys
Daeth brwdfrydedd o'r newydd tuag at addurno eglwysi gyda ffenestri lliw ganol y 19eg ganrif, gan achosi twf yn y diwydiant a oedd yn darparu gwydr lliw ar gyfer eglwysi ac adeiladau eraill o'r Adfywiad Gothig.
Roedd bron yr holl wydr lliw yn cael ei greu gan stiwdios yn Llundain neu gwmnïoedd eraill yn Lloegr, ym Mryste, Birmingham, Manceinion a Newcastle.
Roedd gwaith y stiwdios yma'n aml yn cael eu dylanwadau gan wydr lliw o'r 13eg a'r 14eg ganrif.

Ffenest yn Eglwys y Santes Fair, Dinbych-y-Pysgod, Sir Benfro, a gafodd ei greu gan William Wailes yn 1856
Erbyn yr 1860au, roedd well gan rai stiwdios gwydr lliw steil mwy naturiol, a oedd yn pellhau oddi wrth gonfensiynau'r dyluniadau canoloesol.
Un cwmni oedd un a gafodd ei sefydlu gan William Morris ac aelodau ei gylch yn 1861.
Cawson nhw eu cyflogi i greu ffenestri ar gyfer Cadeirlan Llandaf yn yr 1860au ac 1870au, gan gynhyrchu gwydr lliw ar gyfer eglwysi ledled Cymru i mewn i'r 1930au.

Ffenest yn Eglwys Sant Mihangel yn Ffordun, Powys a gafodd ei greu gan stiwdio Morris, Marshall, Faulkner & Co. yn 1873
Roedd testunau'r ffenestri mewn eglwysi yn ystod yr 19eg ganrif yn feiblaidd tu hwnt, ac yn aml wedi eu hamgylchynu â phatrymau addurnedig cain.
Yn y cyfnod hynny, roedd y cwmnioedd ffenestri lliw mawr di-ri yn creu gwydr oedd yn aml yn ailadroddus a chonfensiynol – ond yn aml wedi eu paentio yn hardd a'u creu yn fedrus.

Darlun o Iesu yn siarad yn y deml, ar ffenest yn Eglwys Sant Ioan, Porthmadog, Gwynedd, wedi ei greu gan stiwdio Lavers & Westlake - o 1894
Tua diwedd y 19eg ganrif, roedd artistiaid a oedd wedi cael eu dylanwadau gan y Mudiad Celf a Chrefft yn arbrofi â syniadau ffres ynglŷn â gwydr lliw.
Drwy ddysgu'r grefft eu hunain, roedden nhw'n medru gweithio y tu allan i'r system stiwdio sefydledig, ac edrych ar y posibiliadau gyda'r mathau newydd o wydr a oedd yn cael eu creu.
Yn gynyddol, roedd testunau'r ffenestri lliw yn dangos mwy o themâu lleol, fel seintiau Cymreig a thirweddau lleol.

Ffenest yn Eglwys Sant Tydecho, yng Nghemaes, Powys gan yr artist Mary Lowndes Melangell sy'n dangos y Santes Melangell yn cwrdd â Brochwel Ysgithrog, Tywysog Powys
Roedd y rhan helaeth o wydr lliw yn cael ei greu y tu allan i Gymru, a dim ond yn yr 1940au y dechreuodd gael ei greu o ddifri' yma.
Sefydlodd dau gefnder o Dreforys, Howard Martin a Hubert Thomas, Celtic Studios yn 1948, a barhaodd i ddarparu gwydr lliw i eglwysi ledled Cymru hyd yr 1990au. Allforion nhw hefyd bron i 200 o ffenestri i Ganada.

Ffenest Christ in Majesty with Saints and Angels gan Celtic Studios yn Eglwys Dewi Sant, Y Tymbl, Sir Gâr o tua 1958. Cafodd yr un dyluniad ei ddefnyddio ar gyfer eglwys yn Nefyn, gyda seintiau gwahanol
Artist enwog arall yng Nghymru oedd John Petts, a fyddai'n gweithio'n bennaf ar ei ben ei hun, tan yn hwyrach yn ei fywyd, yn ei stiwdios yn Llansteffan a'r Fenni.

Y Ffenest Ddwyreiniol yn Eglwys San Steffan yn Llansteffan, Sir Gâr gan yr artist John Petts, o 1980
Yng Ngholeg Celf Abertawe, sefydlodd Howard Martin gwrs gwydr lliw arloesol yn yr 1960au. Un o'i fyfyrwyr, Tim Lewis, a'i olynnodd fel pennaeth yr adran Gwydr Lliw Pensaernïol yn 1972.
Ar ôl arbrofi gydag appliqué gwydr yn yr 1960au, dychwelodd Tim Lewis at y dull o greu gwydr lliw gyda phlwm yn yr 1970au, heb ddefnyddio fawr ddim paent - os o gwbl - ar y gwydr.

'Guide Me O Thou Great Jehovah' - ffenest liw gan Tim Lewis yn Eglwys Dewi Sant yn Abercraf, Powys, o tua 1975
Roedd cyfloedd i ychwanegu gweithiau mewn ffenestri lliw yn yr amlosgfa yn Llangrallo ddiwedd yr 1960au yn caniatáu myfyrwyr o'r coleg i weithio mewn modd mwy haniaethol ac arbrofol.
Mae nifer o fyfyrwyr a hyfforddodd yn Abertawe yn chwarter diwethaf yr 20fed ganrif wedi mynd ymlaen i greu gweithiau gwydr pensaernïol newydd ac arloesol ar draws y byd.

Ffenestri cofio wedi eu creu gan fyfyrwyr Coleg Celf Abertawe o dan oruchwyliaeth Tim Lewis yn yr 1960au yn Amlosgfa Llangrallo
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2023

- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2023
