Delyth Lloyd, Emma Walford a'r 'Cricieth Bathing Woman'

Delyth Lloyd, Catrin Roberts sef 'The Cricieth Bathing Woman a'r cyflwynydd Emma Walford
- Cyhoeddwyd
Mae dwy gyfnither, Delyth Lloyd a'r cyflwynydd Emma Walford wedi darganfod eu bod yn perthyn i ddynes flaengar oedd yn cadw cwt ymdrochi ar y traeth yng Nghricieth.
Roedd Catrin Roberts, neu The Cricieth Bathing Woman fel y byddai ymwelwyr yn ei galw'n byw rhwng 1846 ac 1927.
A hithau'n byw'n Oes Fictoria a'r Cyfnod Edwardaidd, y cyfnod lle datblygodd tref glan y môr Cricieth fel cyrchfan wyliau, gwnaeth Catrin ei bywoliaeth drwy logi cadeiriau, pebyll a chychod bach i ymwelwyr, gwerthu penwaig a cherrig fyddai'n rhoi lwc dda, a chreu elïau llysieuol.
Daeth Delyth, sy'n byw yng Nghricieth ac sydd wrth ei bodd yn nofio oddi ar draeth Min y Môr lle byddai Catrin yn gweithio, i wybod ei bod yn perthyn iddi ar ôl gweld darlun o'r ddynes drawiadol.
"Wnes i weld llun o Catrin ar Facebook a wnes i feddwl, am lun da, ac am groen lledr anhygoel.
"Doedd gen i ddim syniad 'mod i'n perthyn iddi nes i'r diweddar Robert Cadwalader, hanesydd lleol ddweud wrtha i fod Catrin yn anti i fy nhaid," eglurai Delyth.

Cerdyn post o tua 1910 gyda llun o Catrin Roberts ar draeth Min y Môr a gyda'r teitl 'Cricieth Bathing Woman'. Dyma'r llun welodd Delyth Lloyd ar Facebook cyn dod i ddeall ei bod yn perthyn iddi
Wrth i Cymru Fyw dyrchu i hanes yr entrepreneur Edwardaidd, deallwyd gan Delyth bod cantores y grŵp pop Eden, a'r cyflwynydd o Abergele, Emma Walfod, hefyd yn perthyn i 'The Cricieth Bathing Woman'.
Ond doedd gan Emma ei hun ddim syniad nes i Cymru Fyw roi gwybod iddi.
Ar ôl derbyn yr alwad ffôn annisgwyl a dod i ddeall mwy am bwy oedd Catrin Roberts, dywedodd Emma: "Mae hyn yn ffantastig, doedd gen i ddim syniad am hyn o gwbl, mae newydd roi goosebumps i fi.
"Mae Mam yn dod o Gricieth, ac roedd fy nain a 'nhaid o'r ddwy ochr yn byw yng Nghricieth felly Cricieth ydy'r lle dwi'n teimlo 'mod i'n perthyn iddo fo yn fwy nac unrhyw le."
Pwy oedd Catrin Roberts?
Mae'n bosib iawn na fydden ni'n gwybod dim byd amdani, oni bai am gofnodion manwl Capten W.E. Williams, cyn-gapten llong o Gricieth fu'n cofnodi hanesion morwrol lleol a benbaladr.
Roedd Capten W.E. Williams neu Wasi, fel y byddai'n cael ei alw, yn nai i Catrin Roberts ac yn un o 11 o blant teulu Tan y Graig sef teulu Delyth ac Emma.
Roedd Wasi, taid Delyth sef Mathias (neu Thei yn lleol) a nain Emma sef Nansi yn frawd a chwaer.

Traeth Min Y Môr heddiw
Un sydd wedi ymchwilio'n fanwl i gofnodion Capten W.E. Williams ac felly i hanes Catrin Roberts yw Ffion Gwyn, curadur y casgliad 'Cricieth Enwau Chwedlau a Chân' ar wefan Casgliad Y Werin Cymru.
"Fe ges i afael ar gofnodion Capten W.E. Williams trwy garedigrwydd yr hanesydd lleol, y diweddar Robert Cadawalder oedd fel encyclopedia byw," dywedai Ffion.

Cwt Catrin Roberts ar draeth Min y Môr. Catrin yw'r trydydd o'r chwith
Yn ôl Ffion, mae'n ymddangos fod Catrin Roberts wedi bod "yn bach o seleb" yn ei bro, ac wedi bod yn ddynes fusnes uchel ei pharch yng Nghricieth am flynyddoedd lawer.
Fel hyn y mae'r diweddar Capten W.E. Williams yn disgrifo Catrin mewn un cofnod:
"Bu Catrin Roberts yn un mor driw i'r môr. Cadw cytiau ymdrochi yr oedd hi.
"Gwelid hi bob haf dan het wellt fawr, mewn ffrog goch a ffedog wen – yn siarad fel melin ar lan y môr – a phob stori yn cynnwys 'Ebra fi' yn rhywle."
A byddai pobl leol hefyd yn galw Catrin yn 'Ebra fi'. Eglurai Ffion: "I bobl ddwad oedd hi'n 'Cricieth Bathing Woman'. Wedyn 'Ebra fi' i bobl leol sy'n cyfieithu i 'As I Say'.
"Fe allwch chi ddychmygu Catrin yn sgwrsio ac yn ailadrodd 'Ebra fi… ebra fi wrth ddweud ei hanseion."

Traeth Min y Môr yn y Cyfnod Edwardaidd a phan fyddai Catrin Roberts yn rhedeg ei hamryw fentrau ar y traeth
Entrepreneur a swynwraig ei dydd
Roedd Catrin yn byw yn Rock Terrace sef rhes o dai ar y lôn sy'n arwain at draeth Min y Môr, gyda'i chwt glan y môr ar waelod y lôn.
Roedd ffynnon 'sanctaidd' tu ôl i'w chwt hefyd, ac mae Ffion yn credu y gallwn ddyfalu lle roedd y cwt ar y traeth wrth sylwi ar ddŵr sy'n dod o graig heddiw.
Doedd dim diwedd i ddyfeisgarwch a mentergerwch Catrin wrth wneud arian. Roedd hi'n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr a fyddai'n tynnu ei llun hi am bris, cyn ei ddefnyddio ar gardiau post.

Mae rhes o dai Rock Terrace lle roedd Catrin yn byw i'w weld ar y dde yn y llun yma o 1870
Arferai gasglu cerrig mân ar y traeth yr oedd y môr wedi creu tyllau ynddynt a'u gwerthu i ymwelwyr fel swyn pob lwc. Yn llên gwerin Cymru byddai rhain yn cael eu galw'n Glain Neidr.
Dywed Capten W.E. Williams yn ei gofnodion bod ef ei hun wedi derbyn Glain Neidr fel lwc dda ganddi pan aeth i ffarwelio â hi cyn mynd ar ei fordaith gyntaf.
Fe gadwodd Capten W.E. Williams y garreg yn saff trwy gydol ei yrfa ar y môr, cyn ei roi yn rodd i Amgueddfa Werin Sain Ffagan yn 1975.

Heddiw mae proseict Cricieth Creadigol wedi cyflwyno mainc ar draeth Min Y Môr i gofio am Catrin, ac o dan y fainc mae cerrig 'Glain Neidr'
Roedd hi'n hyddysg yn rhinweddau planhigion a gyda gwybodaeth wych am arwyddion y tywydd hefyd. Ond mae'n anodd dyfalu pa fath o elïau y byddai hi'n eu creu.
Eglurai Ffion: "Mae Capten W.E. Williams yn sôn na wnaeth hi erioed 'sgwennu y cynhwysion i lawr, sy'n bechod, ond pan ti'n mynd lawr i Min y Môr mae rhai blodau gwyllt sydd â rhinweddau iachusol fel camri (chamemolie) yn tyfu'n wyllt o gwmpas lle roedd Catrin yn gwerthu penwaig, ac wrth sylwi ar y planhigion gwyllt eraill sy'n gwreiddio yna, fe allwn ni ddychmygu beth oedd ei chynhwysion."

Blodau a phlanhigion gwyllt ar y traeth heddiw
Er nad oes llawer o wybodaeth am fywyd personol Catrin wedi dod i'r golwg hyd yma, gallwn lunio darlun o'i chymeriad gwydn trwy'r straeon amdani.
Mae un erthygl yn sôn am achos llys ym Mhwllheli oedd yn cyhuddo Catrin o wrthod talu ffi i'r cyngor tref am ei bod yn rhedeg ei busnes ar dir y goron.
Roedd yr hen ffordd Gymreig o fyw'n diflannu yn oes Catrin; ymwelwyr dieithr yn heidio i Gricieth a hithau'n esblygu fel dynes fusnes lwyddiannus ond â'i gwybodaeth drylwyr am fyd natur, am y môr ac am y tywydd yn driw i'r oes y ganwyd hi ynddi.
Dechreuodd y bythynnodd gwyngalchog fel ei chartref yn Rock Terrace gael eu dymchwel er mwyn adeiladu rhes o dai teras i ymwelwyr a ddeuai i Gricieth i drochi.

Adeiladwyd tai 'Marine Terrace' wrth i Cricieth ddatblygu a denu ymwelwyr
Cysylltiad teuluol Delyth ac Emma
Ond mae'r cof am Catrin yn parhau diolch i gofnodion manwl Capten W.E. Williams, Wasi, neu 'Yncl Wil' fel fyddai Delyth ac Emma'n ei alw.
Ar ôl dod i wybod mwy am Catrin Roberts, Ebra Fi neu'r 'Cricieth Bathing Woman', sut mae Delyth ac Emma'n teimlo am eu cysylltiad â hi heddiw?
Dywedai Delyth: "Dwi'n treulio lot fawr o amsar ar y traeth lle roedd hi'n gweithio, o'n i yna ddoe.
"Mae gen i rywgysylltiadefo'r traeth yma achos dwi'n cofio mynd yna pan o'n i'n blentyn.

Delyth ar draeth Min y Môr
"Mae o wedi bod yn destun sbort efo'r genod dwi'n nofio - nhw'n dweud 'mod i'n edrych fatha hi! Ac ar lan y môr dwi'n mwynhau bod, fel dwi'n tybio yr oedd Catrin.
"Faswn i'n licio gwybod pethau fel - oedd hi'n gallu siarad Saesneg, sut lais oedd ganddi ac ati.
"Dwi wedi darllen hefyd bod y bathing women yma yn helpu merched y cyfnod, y byddigions, i newid i fynd i'r dŵr. Mae'r holl bell ynfy rhyfeddu i," ychwanegai Delyth.

Ymwelwyr ar draeth Min y Môr yn ystod y Cyfnod Edwardaidd. Dywedodd 'Wasi' wrth y diweddar Robert Cadwalader mai brawd Catrin yw'r dyn ar y dde
Beth am Emma?
"Dwi wastad wedi bod efo cysylltiad dwfn efo Cricieth, a wedyn pan ti'n cael galwad ffôn fel yna yn dod â rhywun o dy orffennol di sy'n perthyn trwy waed i chdi, mae o'n rili comforting." meddai.
"A dwi hefyd yn meddwl, pam bo' entrepreneur a chymeriad hudolus fel hi, yn dewis dod i ddweud helô wrtha i rŵan."

Emma (canol) gyda'i chyd-aelodau o'r grŵp Eden - Rachael (chwith) a Non (dde)
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd16 Mai

- Cyhoeddwyd13 Mehefin

- Cyhoeddwyd22 Hydref 2025
