Yr elusen sy'n rhoi lle i drafod iechyd meddwl yn Gymraeg

Vicky PownerFfynhonnell y llun, meddwl.org
Disgrifiad o’r llun,

Vicky Powner

  • Cyhoeddwyd

"Mae pobl yn anghofio rili bod iechyd meddwl gyda pawb. 'Dyn ni i gyd yn cael diwrnodau da, 'dyn ni i gyd yn cael diwrnodau anodd."

Dyna neges un o wirfoddolwyr yr elusen meddwl.org, Vicky Powner, ar drothwy pen-blwydd yr elusen a'r wefan yn 10 oed.

Ychwanegodd: "Dyw iechyd meddwl ddim yn rhywbeth mae unrhyw un yn gallu osgoi. Mae pethau'n gallu digwydd mewn bywyd a chael effaith fawr."

Dros y ddegawd ddiwethaf mae meddwl.org wedi bod yn lle sy'n rhoi llais i brofiadau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ac am hynny, mae'r elusen wedi derbyn enwebiad yn y categori grŵp cymunedol yng ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth y BBC.

Mae'r wobr i yn cael ei rhoi i grŵp sydd wedi helpu i newid bywydau pobl yn eu cymuned.

Gofod i rannu profiadau

Caiff meddwl.org ei redeg yn gyfan gwbl gan lai na 15 o wirfoddolwyr. Fe ddyweddodd Vicky, sy'n gwirfoddoli ers sawl blwyddyn bellach, wrth Siân Thomas ar Radio Cymru:

"Oedd yn fraint i glywed bod ni 'di cael enwebiad, a rydym ni'n ddiolchgar iawn am hynny.

"Mae yna gymaint o waith yn mynd ymlaen yn y cefndir a dyna beth dyw pobl falle ddim yn sylweddoli."

Yn ogystal â bod yn elusen sy'n rhannu gwybodaeth, profiadau ac adnoddau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg, mae meddwl.org yn cynnal digwyddiadau a thrafodaethau "er mwyn normaleiddio sgyrsiau heriol" yn ôl Vicky.

Yn ôl yn 2024 fy ysgrifennodd Vicky flog yn trafod ymarfer corff ac iechyd meddwlFfynhonnell y llun, meddwl.org
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yn 2024 fy ysgrifennodd Vicky flog yn trafod ymarfer corff ac iechyd meddwl

Mae'r wefan hefyd yn llyfrgell i lu o brofiadau personol ar ffurf blogiau neu fideo.

O flogiau gonest am alar, iselder, hunan-werth, niwroamrywiaeth, dibyniaeth a llawer mwy, dywed Vicky mai'r elfen fwyaf poblogaidd o'r wefan yw'r blogiau personol.

"Rydyn ni'n chwilio am gyfranwyr newydd o hyd a phan ddechreuon ni'r adran blogiau oedd pobl yn awyddus iawn i rannu profiadau a'n falch o'r cyfle yna i gael neud yn Gymraeg."

Yn ôl Vicky mae clywed am stori bersonol rhywun arall yn medru helpu unigolion sy'n mynd drwy bethau tebyg.

"Rydyn ni'n awyddus i greu teimlad o gymuned rili ac i bobl beidio â teimlo bod nhw ar ben eu hunain.

"Achos yn aml iawn os ry'n ni'n mynd trwy pethau anodd, mae e'n gyfnod unig a dydych chi ddim yn teimlo bod chi'n gallu siarad a bod yn agored am bethau."

Hyder i drafod iechyd meddwl

Ers i meddwl.org gael ei sefydlu ym mis Tachwedd 2016, cyn cael ei gofrestru'n elusen yn 2020 mae Vicky'n dweud bod gan bobl "fwy o hyder i siarad ac i drafod am iechyd meddwl y dyddiau hyn".

Ychwanegodd: "Mae hynny mor bwysig. Ac os nad yw rhywun yn cael ei effeithio ar hyn o bryd, rydyn ni'n annog pobl i fynd i edrych ar y wefan i weld y wybodaeth sydd gyda ni a hefyd edrych ar y dudalen gymorth.

"Achos falle mai dim chi fydd yn mynd trwy rywbeth, ond falle fydd yna ffrind neu aelod o'r teulu neu rywun chi'n gweithio gyda."

A hithau'n flwyddyn fawr i meddwl.org, bydd yr elusen yn dathlu degawd o wasanaeth a chymorth gyda chyngerdd yn Neuadd Pontypridd ar 24 Hydref yng nghwmni Eden, Caryl Parry Jones, Lleuwen Steffan ac Academi Berfformio ABC.

"Rydyn ni'n edrych 'mlaen yn fawr i'r gyngerdd, a bydden ni'n gwerthfawrogi os bydd unrhyw un yn gallu dod jyst i ddangos eu cefnogaeth," meddai Vicky.

Bydd enillwyr gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn, 19 Medi mewn seremoni yng Nghaerdydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.