Llynnoedd hudolus Cymru, mewn chwedl a hanes

Pencampwriaeth Hwylio Ysgolion Cymru ar Lyn Tegid, 1971
- Cyhoeddwyd
Ar 27 Awst mae hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Llynnoedd. Dyma ddiwrnod i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd llynnoedd fel ffynonellau dŵr croyw a chyfle i hyrwyddo'r angen i'w gwarchod a'u hadfer ledled y byd.
I nodi'r achlysur, yma mae'r hanesydd Elin Tomos yn bwrw golwg ar hanes rhai o lynnoedd mwyaf hudolus Cymru.
Chwedloniaeth y llynnoedd
Mae Cymru'n gartref i tua 800 o lynnoedd a phyllau, ac mae dros 100 o ohonynt wedi'u lleoli yn Eryri; gan gynnwys llyn naturiol mwyaf Cymru, Llyn Tegid.
Yn ôl y traddodiad, mae Llyn Tegid ger Y Bala wedi'i enwi ar ôl y brenin chwedlonol, Tegid Foel. Roedd Tegid yn arweinydd creulon ac fel cosb am ei ymddygiad drygionus boddwyd ei deyrnas a ffurfiwyd y llyn.

Criw o blant ar lannau Llyn Tegid tua 1885
Prin nad oes llyn yng Nghymru nad oes iddo ryw gysylltiad chwedlonol neu lên gwerin.
Yn ôl un chwedl, mae tarw tanllyd yn byw yn nyfnderoedd Llyn Cowlyd, ger Capel Curig, sy'n chwythu fflamau o'i ffroenau.
Mae'n debyg ei fod yn mentro allan liw nos, ac yn llusgo unrhyw grwydrwyr o dan y dŵr. Uwchben y llyn mae copa Pen Llithrig y Wrach, lle, yn ôl y sôn, y mae gwrach saith troedfedd â phen anferthol, yn ymddangos ar nosweithiau niwlog.

Llyn Cowlyd - welwch chi'r tarw tanllyd yn rhywle?
Roedd rhai'n credu bod niwl yn arwydd gweledol bod rhyw bwerau goruwchnaturiol yn bresennol yn yr ardal. Pan fyddai niwl trwchus yn disgyn dros Lyn Dwythwch, llyn mynyddig ger Moel Eilio yn Eryri, credid ei fod yn arwydd bod tylwyth teg gerllaw.
Yn ôl llên gwerin lleol, roedd nifer o dylwyth teg yn byw mewn palasau dan ddyfroedd y llyn, a byddai rhieni'r ardal yn rhybuddio'u plant i beidio â chrwydro gerllaw rhag ofn iddynt gael eu hudo i'r dŵr a'u llusgo i fyd tanddwr y bobl bach.
Mae gan nifer o lynnoedd Cymru gysylltiadau â thylwyth teg gan gynnwys Llyn Eiddwen ger Trefenter yng Ngheredigion sy'n borth honedig i'w byd.
Yn ogystal â thylwyth teg mae'n debyg bod gyr o wartheg gwyllt yn byw yn y llyn hefyd ac mae un proffwydoliaeth yn honni os y bydd Llyn Eiddwen yn sychu bydd tref Caerfyrddin yn suddo!

Diolch i Lyn Eiddwen, mae tref Caerfyrddin dal yn bodoli!
O Æthelflæd i Gerallt Gymro
Un o'r llynnoedd mwyaf unigryw yng Nghymru yw Llyn Syfaddan ger Llan-gors ym Mhowys; y llyn naturiol mwyaf yng nghanolbarth a de Cymru.
Dyma hefyd yr unig lyn yng Nghymru a Lloegr lle mae olion crannog neu lyndref – math unigryw o anheddfa hynafol sydd i'w canfod yn bennaf ar lynnoedd yn yr Alban ac Iwerddon.
Mae crannog Llyn Syfaddan yn dyddio o'r 8fed neu'r 9fed ganrif ac mae'n debyg bod y safle wedi bod yn gartref bonheddig â chysylltiadau i Frenin Brycheiniog ar un cyfnod.
Mae nifer o wrthrychau gwerthfawr wedi eu darganfod ar y safle gan gynnwys gemwaith, eitemau crefyddol a thiwnig wedi'i brodio â sidan.
Tua'r flwyddyn 916, dinistriwyd y crannog gan luoedd Mersia o dan arweiniad yr Arglwyddes Æthelflæd.

Crannog Llyn Syfaddan
Un a ysgrifennodd am hanes Llyn Syfaddan oedd y croniclydd o Faenorbŷr, Sir Benfro, Geraldus Cambrensis – neu Gerallt Gymro.
Yn un o'i gyfrolau mae'n cyfeirio at chwedl yn ymwneud ag Adar Syfaddan sydd, yn ôl pob tebyg, ddim ond yn canu ar orchymyn gwir dywysog Deheubarth Cymru.
Yn ôl Gerallt Gymro, roedd Gruffudd ap Rhys yn cerdded ryw ddiwrnod ar hyd glannau'r llyn gyda dau arglwydd Normanaidd. Gwrthododd yr adar ganu pan ofynnodd yr arglwyddi iddynt ond ar orchymyn Gruffudd, canodd yr adar gan gyhoeddi mai ef oedd gwir Dywysog y Deheubarth.
Llyn arall sy'n derbyn sylw gan Gerallt Gymro ydy Llyn y Cŵn yng nghadwyn mynyddoedd Y Glyderau yn Eryri. Er nad oes pysgod yn y llyn erbyn heddiw, mae Gerallt Gymro'n cyfeirio at y creaduriaid arbennig a oedd yn arfer byw yn y llyn gan gynnwys math o frithyll, pysgod garw, a llyswennod ag un llygad yn unig!

Carnedd Llywelyn - cartref Llyn Llyffant, llyn uchaf Cymru
Ar uchder o dros 700m, Llyn y Cŵn yw un o lynnoedd uchaf Cymru ond Llyn Llyffant ger Carnedd Llywelyn yn y Carneddau sy'n hawlio teitl yr uchaf un ar uchder o thua 820m uwchben lefel y môr.
Beth am orffen tymor yr haf trwy ymweld ag un o lynnoedd chwedlonol Cymru?
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2025

- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2024
