AS Reform yn dweud iddi gael ei beirniadu am fynd i'r Eisteddfod

Roedd Helen Jenner hefyd wedi mynychu Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn ym mis Mai eleni
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o'r Senedd yn dweud ei bod wedi wynebu beirniadaeth am fynychu'r Eisteddfod Genedlaethol oherwydd ei bod yn aelod o Reform.
Dywedodd dirprwy arweinydd y blaid yng Nghymru, Helen Jenner, fod sylwebwyr ar-lein wedi dweud nad oedd ganddi hawl i fod yn yr ŵyl oherwydd ei haelodaeth o'r blaid.
Dywedodd Ms Jenner, a gafodd ei magu ar Ynys Môn, bod y feirniadaeth yn chwerthinllyd ac nad oedd yn ei phoeni.
Gwnaeth y sylwadau ar bodlediad gwleidyddol BBC Cymru, Walescast.
'Dim hawl i fod yno'
"Dwi'n gweld ambell sylw [ar-lein], gan rai pobl eitha' proffesiynol, sy'n syndod, yn gwneud sylwadau amdana i," meddai.
Dywedodd fod sylw diweddar wedi honni nad oedd ganddi "unrhyw hawl i fod yn yr Eisteddfod, oherwydd fy mod yn rhan o Reform, doedd gen i ddim hawl i fod yno, a'i bod yn warth 'mod i yno'n siarad Cymraeg".
"Mae llawer o, a bod yn onest, gefnogwyr Plaid Cymru, Yes Cymru, yn flin iawn am y ffaith 'mod i'n portreadu fy hun fel Cymraes oherwydd yn ôl pob golwg, allwch chi ddim bod yn siaradwr Cymraeg yn Reform.
"Felly dwi'n cael pethau fel 'na, ond dydy o ddim yn poeni fi. Dwi'n meddwl fod y peth yn chwerthinllyd."
Helen Jenner ydy llefarydd Reform ar addysg a'r iaith Gymraeg.
O ran y Gymraeg, dywedodd ei bod hi'n credu bod angen "dull gwahanol" ar Lywodraeth Cymru.
Gan gyfeirio at darged y llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, dywedodd: "Mae rhywbeth yn mynd o'i le oherwydd bod llai o bobl ar hyn o bryd... dwi'n meddwl bod angen i ni edrych ar hyn eto, achos be' ydy'r pwynt cael y targed os ydy o'n cyflawni'r gwrthwyneb?"
Mae nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n byw yng Nghymru wedi gostwng 19,000 dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl arolwg blynyddol o'r boblogaeth.
Mae'r targed o filiwn wedi'i seilio ar ddata'r Cyfrifiad.
Roedd Cyfrifiad 2021 wedi dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg i 17.8% - tua 538,000 o bobl tair oed neu'n hŷn yng Nghymru yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Cafodd Helen Jenner ei chyfweld yn Sefydliad Prichard Jones yn Niwbwrch ar Ynys Môn
Dywedodd Ms Jenner, cyn-athrawes, ei bod hi eisiau gweld mwy o athrawon sy'n siarad Cymraeg yn mynd i'r system addysg ac yn darparu addysg ddwyieithog.
"O'm mhrofiad personol i, dyna lle mae lot o bobl ifanc yn cael eu Cymraeg ac yn gallu... dysgu Cymraeg yn iawn."
Pan ofynnwyd iddi a ddylai ysgolion cyfrwng Saesneg gael eu newid i fod yn rhai cyfrwng Cymraeg, atebodd: "Dwi wir yn meddwl y dylai fod…
"Dwi'n meddwl y dylai'r rhan fwyaf o ysgolion fod wedi'u dosbarthu…
"Dwi'n meddwl y dylai fod ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion dwyieithog…
"Dwi'n meddwl y dylech chi gael cyfle i ddysgu Cymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru...
"Dwi'n meddwl hynny'n gryf."
Pan ofynnodd y BBC i Reform i egluro'r sylwadau, dywedodd llefarydd y "dylai pob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg drwy'r system addysg, ble bynnag maen nhw'n byw yng Nghymru".
"Dyma sut lwyddodd Helen ei hun i ddod yn rhugl yn y Gymraeg.
"Mae Helen hefyd wedi bod yn glir bod rhaid dod â rhieni a theuluoedd gyda ni ar y daith honno.
"Mae tyfu'r Gymraeg yn gynaliadwy yn golygu gwneud yn siŵr bod y capasiti yno yn gyntaf drwy ddenu digon o athrawon a staff dwyieithog ar draws pob rhan o Gymru i'r proffesiwn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.