Gostyngiad 19,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n byw yng Nghymru

Roedd plant a phobl ifanc tair i 15 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg nag unrhyw grŵp oedran arall
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n byw yng Nghymru wedi gostwng 19,000 dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl arolwg blynyddol o'r boblogaeth.
Roedd 843,700 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026, yn ôl yr ystadegau a gafodd eu cyhoeddi yr wythnos ddiwethaf.
Mae hynny'n ostyngiad o'r 862,700 yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024.
Er gwaethaf y gostyngiad diweddar, mae'r niferoedd wedi cynyddu'n gyffredinol ers mis Mawrth 2010 (731,000), ar ôl gostyngiad graddol rhwng 2001 a 2007.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "y gostyngiad diweddar yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ôl yr Arolwg Blynyddol yn siomedig".
Ychwanegodd bod angen "trin y newidiadau diweddar â gofal" oherwydd maint y sampl ond "mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn".
Esboniodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth y BBC mai 17,000 o bobl oedd y sampl ar gyfer y cwestiynau ar yr iaith Gymraeg.
46,000 'byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu'
Yn ôl yr arolwg blynyddol, yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2026 roedd 27.3% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg - sy'n cyfateb i 843,700 o bobl.
Mae'r amcangyfrif diweddaraf tua 0.4% yn uwch na'r flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025 pan roedd amcangyfrif fod 26.9% o bobl yn gallu siarad Cymraeg.
Dydy'r cynnydd hwn ddim yn arwyddocaol yn ystadegol, meddai'r llywodraeth.
Roedd plant a phobl ifanc tair i 15 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg (47.7%) nag unrhyw grŵp oedran arall.
Mae hyn yn gyson dros amser, ond mae canran y plant a phobl ifanc tair i 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.
Mae'r ystadegau diweddaraf hefyd yn dangos:
Yng Nghaerdydd (94,900), Gwynedd (93,800) a Sir Gaerfyrddin (89,500) mae'r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg;
Ym Mlaenau Gwent (8,100) a Merthyr Tudful (8,400) mae'r niferoedd isaf;
Yng Ngwynedd (76.9%) ac Ynys Môn (63.4%) mae'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.
Ym Mlaenau Gwent (11.9%) a Phen-y-bont ar Ogwr (13.8%) mae'r canrannau isaf.
Fe wnaeth 14.5% (446,800) o bobl tair oed neu hŷn adrodd eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 4.9% (151,900) yn wythnosol a 6.4% (198,600) yn llai aml.
Dywedodd 1.5% (46,000) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 72.7% yn gallu siarad Cymraeg.
Dywedodd 31.5% (971,600) eu bod yn gallu deall Cymraeg llafar, 25% (772,300) eu bod yn gallu darllen yn Gymraeg, a 22.4% (692,600) eu bod yn gallu ysgrifennu'n Gymraeg.
'Sicrhau'r dyfodol cryfaf posibl i'r Gymraeg'
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rydym yn cymryd camau i sicrhau'r dyfodol cryfaf posibl i'r Gymraeg yn ein hysgolion, ein cymunedau a'n gweithleoedd.
"Rydym am sicrhau cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru ddysgu a mwynhau'r Gymraeg drwy wireddu potensial llawn Deddf y Gymraeg ac Addysg.
"Byddwn yn gosod y sylfeini i sicrhau bod o leiaf 50% o'n plant yn cael addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, sef y targed mwyaf uchelgeisiol gan unrhyw lywodraeth o ran twf y Gymraeg."
Mae targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi'i seilio ar ddata'r Cyfrifiad.
Roedd Cyfrifiad 2021 wedi dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg i 17.8% - tua 538,000 o breswylwyr arferol tair oed neu'n hŷn yng Nghymru yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
Roedd nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2001 yn 582,400, a 562,000 oedd y ffigwr yn 2011.
'Cyfle i droi'r llanw'
Dywedodd Owain Meirion, cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith, fod y "gostyngiad parhaus yn nifer y siaradwyr yn dangos bod Llafur mewn llywodraeth wedi methu mynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg a'n cymunedau".
"Dydy mwy o'r un peth ddim yn mynd i weithio ac mae cyfle gan lywodraeth newydd Plaid Cymru i droi'r llanw.
"O reoli'r farchnad dai drwy Ddeddf Eiddo, i ymestyn hawliau pobl Cymru i ddefnyddio'r iaith i fanciau ac archfarchnadoedd a gosod nod ar gyfer addysg Gymraeg i bawb, mae angen newid sylfaenol a hynny ar frys - rydyn ni wedi aros yn ddigon hir."
Ychwanegodd Mr Meirion eu bod yn "ffyddiog bod y llywodraeth newydd yn deall maint yr her, ond does dim amser i'w wastraffu".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf
