Rali Cymdeithas yr Iaith yn galw am strategaeth glir dros y Gymraeg

- Cyhoeddwyd
Daeth tua 200 o bobl i rali Cymdeithas yr Iaith ym Mhorthmadog ddydd Sadwrn i alw ar Lywodraeth Cymru i "droi'r llanw ar y Gymraeg".
Dywedodd y mudiad fod angen i'r llywodraeth gryfhau ei hymrwymiad i'r Gymraeg ar draws sawl maes polisi, gan alw am strategaeth glir.
Daw'r alwad yn dilyn Cyfrifiad 2021, a ddangosodd ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
Yn ôl y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, mae'r gwaith eisoes "wedi dechrau", gyda disgwyl cyhoeddiad am flaenoriaethau'r llywodraeth yr wythnos nesaf.

Dywedodd Owain Meirion fod angen "gweithredu cadarnhaol" i sicrhau dyfodol y Gymraeg
Ymhlith y siaradwyr yng Nghlwb Pêl-droed Porthmadog oedd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Owain Meirion.
Dywedodd: "Mae 'na lywodraeth newydd, a 'da ni'n galw am weithredu cadarnhaol yn nhymor hwn o'r Senedd i droi'r llanw dros y Gymraeg."
Ychwanegodd mai un o'r prif alwadau oedd deddf eiddo er mwyn "sicrhau bod gan bawb hawl gyfreithiol i dai digonol" yn eu cymunedau.
Wrth annerch y dorf, dywedodd fod rôl Cymdeithas yr Iaith yr un mor bwysig ag erioed.
Dywedodd y byddai deddf eiddo yn galluogi pobl i "fyw a gweithio" yn y cymunedau lle maen nhw'n cael eu magu.
Ychwanegodd ei fod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddf o'r fath, ond ei fod yn disgwyl i'r llywodraeth dderbyn holl argymhellion Comisiwn Cymunedau Cymraeg a chyhoeddi amserlen glir ar gyfer eu gweithredu.

Galwodd y rali ar Lywodraeth Cymru i gryfhau ei hymrwymiad i'r Gymraeg a chymunedau Cymraeg
Mae'r gymdeithas hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar argymhellion Comisiwn Cymunedau Cymraeg, gan gynnwys dynodi ardaloedd lle mae dwysedd y siaradwyr Cymraeg yn uwch na 40%, yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021, gyda'r posibilrwydd o gynnwys cymunedau cyfagos.
Ymysg y siaradwyr eraill yn y rali brynhawn Sadwrn oedd yr actor Mici Plwm, y gantores Gwyneth Glyn a Dafydd Iwan.
Roedd cynrychiolwyr o nifer o gymunedau ledled Cymru hefyd yn bresennol i leisio'u pryderon a'u galwadau.

Dywedodd Mared Llywelyn fod angen gwrando ar anghenion gwahanol gymunedau ledled Cymru
Yn cynrychioli Pen Llŷn oedd Mared Llywelyn sydd ynghlwm â'r mudiad Hawl i Fyw Adra.
Dywedodd: "'Da ni eisiau i'r llywodraeth fod mewn cyswllt â'n cymunedau.
"Mae anghenion pob cymuned yn wahanol fel yn Llŷn, mae gynnon ni ardal sydd efo dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg, a 'da ni'n galw ar y llywodraeth i ddynodi ardaloedd fel hyn, fel sy'n cael ei argymell gan Gomisiwn Cymunedau Cymraeg.
"Dwi'n meddwl bod hyn mor bwysig i warchod cymunedau".
'Mae'r gwaith wedi dechrau'n barod'
Mewn ymateb i'r rali, anfonodd Gweinidog y Gymraeg, Anna Brychan, lythyr o gefnogaeth at Gymdeithas yr Iaith.
Yn y llythyr dywedodd: "Dyw'r Gymraeg erioed wedi datblygu drwy ewyllys da yn unig.
"Mae wedi symud ymlaen oherwydd bod pobl wedi mynnu newid, wedi dal sefydliadau i gyfrif, ac wedi gwrthod derbyn y status quo.
"Dyna pam mae gwaith Cymdeithas yr Iaith mor bwysig.
"Mae'r gwaith wedi dechrau'n barod".

Roedd y gantores Gwyneth Glyn ymhlith y siaradwyr a'r perfformwyr yn y rali
Dywedodd hefyd: "Yr wythnos nesaf bydda' i'n amlinellu fy mlaenoriaethau ar gyfer y Gymraeg gerbron y Senedd: bod y Gymraeg yn elfen annatod o Gymru, bod gan bob plentyn hawl iddi, a bod ein cymunedau'n gryfach pan fo'r Gymraeg yn rhan o fywyd pob dydd."
Ychwanegodd ei bod yn bwriadu cwrdd ag arweinwyr Cymdeithas yr Iaith ddiwedd y mis ac â chadeiryddion Comisiwn Cymunedau Cymraeg yr wythnos nesaf.
Meddai hefyd: "Fel y gwnaethon ni addo yn ein maniffesto, byddwn ni'n ymateb i argymhellion ail gam y Comisiwn erbyn diwedd y flwyddyn fan bellaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd7 Ionawr
